Adroddiad blynyddol Cymru
Summary
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'n gwaith ar faterion datganoledig yng Nghymru ac yn ystyried ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Yn sgil diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru o Senedd y DU i Senedd Cymru. Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn nodi'r trefniadau ariannu ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau datganoledig y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
Canolbwyntiodd ein gwaith ar ddechrau 2022-23 ar helpu i gynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys:
- Gweithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) i ddarparu cyngor a chanllawiau i Swyddogion Canlyniadau a'u staff ar baratoi ar gyfer yr etholiadau a'u cynnal.
- Gweithio gyda phleidiau gwleidyddol a Swyddogion Canlyniadau i ddarparu sesiynau briffio a chymorth wedi'u targedu i ymgeiswyr ac asiantiaid a oedd yn ymladd yr etholiadau.
- Cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy gyfryngau torfol ar gyfer pleidleiswyr, er mwyn eu hatgoffa o'r terfynau amser allweddol ar gyfer ceisiadau cofrestru a cheisiadau am bleidleisiau absennol. Gwnaed 38,438 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru yn ystod ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr.
- Cyhoeddi ein gwerthusiad, ym mis Gorffennaf, o'r cynlluniau peilot pleidleisio'n gynnar a gynhaliwyd mewn pedair ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod etholiadau Mai 2022.
- Cyhoeddi ein hadroddiad statudol ar yr etholiadau ym mis Medi, a oedd yn adlewyrchu'r data a'r dystiolaeth a gasglwyd ar bleidleisio, ymgyrchu, a chynnal yr etholiad. Gwnaethom ganfod fod y mwyafrif o'r pleidleiswyr yn fodlon ar y broses o bleidleisio, a bob bron pob un ohonynt wedi gallu pleidleisio drwy ddefnyddio eu dewis ddull.
Drwy'r flwyddyn, gwnaethom ganolbwyntio ein gweithgarwch ar ein gwasanaeth cyngor a chymorth i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys gweinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr ac asiantiaid. Roedd hyn yn cynnwys:
- Ymgynghori â gweinyddwyr yng Nghymru ar fframwaith safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, sydd bellach wedi'i osod gerbron y Senedd.
- Defnyddio ein fframwaith safonau perfformiad i gefnogi a herio Swyddogion Canlyniadau yn yr etholiadau llywodraeth leol a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran eu gweithgareddau drwy'r flwyddyn i gynnal cofrestrau etholiadol cywir a chyflawn.
- Nodi cyfleoedd newydd i helpu'r gymuned a reoleiddir i gydymffurfio â'r rheolau yn ymwneud â chyllid ymgyrchu.
Gwnaethom barhau i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a'r Senedd ar ddatblygu polisi mewn perthynas â materion etholiadol:
- Ymddangos gerbron Pwyllgor y Llywydd i roi tystiolaeth fel rhan o'i waith i graffu ar amcangyfrif ariannol 2023/24.
- Darparu ymateb cynhwysfawr i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol, gan ddefnyddio ein gwaith polisi a'n hymchwil helaeth gyda phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr.
Gwnaethom adeiladu ar lwyddiant ein gwaith i hyrwyddo addysg ddemocrataidd drwy ddarparu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon a gweithwyr ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys:
- Gweithio gydag awdurdodau lleol, penaethiaid a'n partner, The Democracy Box, i ddatblygu a hyrwyddo ein hadnoddau ymgysylltu democrataidd newydd ar gyfer ysgolion a darparwyr dysgu eraill er mwyn ennyn hyder pleidleiswyr a'u hannog i gymryd rhan.
- Hyrwyddo Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ar ddiwedd mis Ionawr, y gwnaeth nifer da o sefydliadau ledled Cymru gymryd rhan ynddi. Gwnaethom gynnal digwyddiad lansio yn y Senedd gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Rydym yn gweld angen cynyddol i gefnogi mwy o bleidleiswyr sydd newydd gael yr etholfraint ledled Cymru i gymryd rhan mewn democratiaeth. Felly, byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ein rhaglen addysg, gan ddatblygu adnoddau sy'n berthnasol i'r Cwricwlwm newydd i Gymru ac ymgysylltu ymhellach â sefydliadau partner. Ein nod yw addysgu pobl ifanc am y broses ddemocrataidd a pharatoi addysgwyr i addysgu llythrennedd gwleidyddol â hyder.
- Drwy sesiynau hyfforddi a briffio, byddwn yn cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, ac yn parhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
- Byddwn yn helpu Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i ateb yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol effeithiol. Byddwn yn canolbwyntio ar eu helpu i addasu i dirwedd etholiadol amrywiol ac anghenion newidiol pleidleiswyr yng Nghymru.
- Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Senedd a Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd er mwyn rhoi cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd a diwygiadau etholiadol ar waith. Gan weithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, byddwn yn cyfleu safbwyntiau Swyddogion Canlyniadau a Gweinyddwyr Etholiadol i Lywodraeth Cymru ac yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth newydd hon.
- Byddwn yn gweithio gyda'r heddlu, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol yng Nghymru i ystyried pryderon a godwyd gan ymgeiswyr am fygylu a cham-drin yn ystod etholiadau, a mynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yng Nghymru, ac rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein rhaglen o waith partneriaeth wedi datblygu adnoddau i gefnogi cynhwysiant democrataidd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i bleidleisio. Mae hyn wedi cynnwys darparu deunyddiau mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, ac mewn nifer o fformatau, gan gynnwys fformat hawdd ei ddeall, print bras, sain a braille. Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru i ddatblygu deunyddiau priodol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr, pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, goroeswyr cam-drin domestig a phobl ddigartref.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r gymuned etholiadol i ystyried sut y gallwn wella hygyrchedd y broses etholiadol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i'r egwyddor y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus ac wrth ddarparu adnoddau a gwasanaethau. Mae hyn wedi arwain at welliannau pellach i'r gwasanaeth a ddarperir gennym i bartneriaid yn eu dewis iaith, ac i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safonau'r Gymraeg, a bennwyd ym mis Gorffennaf 2016, yn ogystal â darparu gwasanaethau arloesol ac uchelgeisiol.
Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Grŵp Cynghori’r Gymraeg BCEC, sy'n anelu at sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal mewn materion yn ymwneud â chanllawiau a deddfwriaeth etholiadol ac y rhoddir y cymorth angenrheidiol i'r gymuned etholiadol ehangach.
Adnoddau
Yn ystod 2022/23, gwnaethom ddefnyddio 98% o’r gyllideb o £1.54m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio, £1.1m (71%), a hysbysebu, £0.3m (19%), yn bennaf; mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad y Senedd at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol.
Mae ein hadroddiad segmentol ar dudalen 152 yn dangos y dadansoddiad rhwng costau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Llywodraethu
Mae'r Comisiwn yn atebol yn ffurfiol i Senedd Cymru, ac yn cael cyllid ganddi, mewn perthynas â'i swyddogaethau yn ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Rydym yn adrodd i Bwyllgor y Llywydd, a sefydlwyd at y diben hwn ac sy'n gweithio yn unol â'r “Datganiad o Egwyddorion Cyllido”, y cytunwyd arno â'r Senedd yn gynnar yn 2021.
Ym mis Medi 2022, gwnaethom gyflwyno ein trydedd gyfres o amcangyfrifon i'r Senedd, gan alluogi Trysorlys y DU i drosglwyddo lefel y cyllid y cytunwyd arno i Gronfa Gyfunol Cymru. Mae pob plaid wedi cytuno ar y broses hon ac mae'n sicrhau y gall seneddau fod yn hyderus wrth graffu ar ein cynlluniau gwaith a'n cyfrifon.
Navigation
Blaenorol | Nesaf |
---|---|
Adroddiad blynyddol Gogledd Iwerddon | Adroddiad Blynyddol yr Alban |