Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022/23
Trosolwg
Mae'r adran hon yn darparu trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Rydym wedi paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022/23 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon, a nodir ar dudalen 166, a gyhoeddir gan Drysorlys EF o dan baragraff 17 (2) o Atodlen 1 PPERA. Rydym wedi paratoi'r adroddiad ar bwerau a sancsiynau ar dudalen 53 yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA.
Preface
Bu'n flwyddyn brysur iawn i'r Comisiwn Etholiadol yn ei waith i gefnogi rhanddeiliaid ym mhob rhan o'r DU. Hoffwn ddiolch i bob aelod o staff y Comisiwn am ei ymroddiad, ei broffesiynoldeb a'i arbenigedd wrth roi cyngor ac arweiniad annibynnol ac arbenigol i bleidleiswyr, gweinyddwyr a'r gymuned a reoleiddir.
Un ffocws penodol y flwyddyn hon fu paratoi ar gyfer roi Deddf Etholiadau'r DU ar waith, ochr yn ochr â'r agendâu etholiadol penodol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae'r Comisiwn yn gweithio'n hyblyg fel uned gydlynol ar draws y ddaearyddiaeth, yr heriau a'r cyfleoedd hyn.
Rydym yn ymrwymedig i roi'r pleidleisiwr yn gyntaf. Gwyddom fod ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r system etholiadol yn hollbwysig er mwyn annog pleidleiswyr i gymryd rhan ac ennyn eu hyder. Rydym wedi buddsoddi er mwyn sicrhau y gall pobl ddeall yr hyn y mae'r newidiadau yn ei olygu iddyn nhw, a sut i gymryd rhan mewn etholiadau. Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ceisio cefnogi pleidleiswyr sydd newydd gael yr etholfraint a phleidleiswyr ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, rydym wedi cefnogi gweinyddwyr etholiadol, sy'n gyfrifol am roi'r newidiadau ar waith ar lawr gwlad. Bwriedir i'r canllawiau eu helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau, yn erbyn y cefndir heriol o adnoddau cyfyngedig a chymhlethdod cyfreithiol. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod y newidiadau wedi'u rhoi ar waith yn dda. Mae'r rheini yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd ag etholiadau ym mis Mai 2023 wedi bod yn arbennig o brysur, ond mae gweinyddwyr yng Nghymru a'r Alban hefyd wedi bod yn paratoi ar gyfer mesurau newydd mewn etholiadau yn y dyfodol.
Bu newidiadau hefyd i ymgyrchwyr ymgyfarwyddo â nhw. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y cymorth a'r cyngor rheoleiddio sydd ar gael i helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol a'u bodloni, ac i sicrhau cydymffurfiaeth. Rwy'n falch iawn o weld lefel yr ymgysylltu gan bleidiau, ac ansawdd yr ymgysylltu hwnnw.
Rwyf wedi mwynhau'r cyfle i gyfarfod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid a'r rheini sy'n ymwneud â systemau democrataidd a gwleidyddol ledled y DU. Yn ystod y flwyddyn, teithiodd Bwrdd y Comisiwn i Belfast a Chorley i gyfarfod â sefydliadau lleol, grwpiau ieuenctid, ymgeiswyr, cynghorwyr a gweinyddwyr. Mae ymweliadau tebyg eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod, er mwyn ein helpu i glywed yn uniongyrchol gan randdeiliaid. Roeddem yn falch bod Mr Llefarydd wedi ymuno â ni yn ei etholaeth gartref i drafod ein hymgysylltiad adeiladol â Phwyllgor Mr Llefarydd, yr ydym yn atebol i Senedd y DU drwyddo.
Mae clywed amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau yn hollbwysig i ddeall sut y gall y Comisiwn barhau i wella a bodloni gofynion yn y dyfodol. Mae'n mynd law yn llaw ag ymchwil barhaus ar foderneiddio etholiadau, a gyda'i gilydd, byddant yn ategu argymhellion i lywodraethau'r DU ynglŷn â sut y gall y system etholiadol barhau i gefnogi pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Senedd y DU ei adroddiad ar ein gwaith. Gwnaethom groesawu ei ganfyddiadau ar yr angen brys i gydgrynhoi, diweddaru a gwella cyfraith etholiadol. Nododd yr adroddiad hefyd argymhellion i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau i allu ymateb i'r heriau a wynebir gan y system etholiadol, a chydnabu fod annibyniaeth weithredol yn agwedd sylfaenol arni.
Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei Strategaeth a'i Ddatganiad Polisi arfaethedig ar gyfer y Comisiwn Etholiadol, gwnaethom rannu ein barn bod datganiad o'r fath – y gall y llywodraeth lywio ein gwaith drwyddo – yn anghyson â'n rôl. Nododd Pwyllgor y Llefarydd a'r Pwyllgor Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bwysigrwydd cynnal annibyniaeth y Comisiwn a’r risgiau y mae datganiad o'r fath yn eu peri. Rydym yn aros am gam nesaf y broses hon, ond erys y Bwrdd yn gwbl ymrwymedig i wneud penderfyniadau annibynnol, gan weithredu yn unol ag anghenion a buddiannau'r gymuned etholiadol gyfan, gan gynnwys pleidleiswyr.
Yn olaf, hoffwn gydnabod ein bod eleni wedi bod yn ymateb i ymosodiad seiber gan weithredwr gelyniaethus. Mae hyn wedi bod yn her sylweddol ac mae gwersi pwysig sydd wedi’u dysgu wedi’u cymryd ymlaen. Rwy’n ymddiheuro i bawb y mae eu data personol wedi cael ei beryglu, gan gynnwys staff y Comisiwn.
Mae’r Comisiwn yn rhoi annibyniaeth a didueddrwydd wrth galon ei holl waith, a bydd y ffocws hwnnw'n parhau yn ein holl waith yn y flwyddyn i ddod.
John Pullinger CB
Cadeirydd
Mae'r Comisiwn, yn gywir ddigon, wedi gosod amcanion uchelgeisiol i'w hun yn ei Gynllun Corfforaethol, ac mae wedi bod yn gweithio'n gyflym i gyflawni'r nodau hynny.
Mae ein timau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithio’n ddygn i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac o ansawdd uchel i bawb rydym yn eu cefnogi.
Neilltuwyd cryn ymdrech ac arbenigedd i sicrhau y gellid cynnal etholiadau Mai 2023 mewn ffordd a oedd yn cynnal hyder pleidleiswyr. Roedd hyn yn her benodol y flwyddyn hon, wrth i newidiadau newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau ychwanegu at system a oedd eisoes yn gymhleth.
Ymgyrch y Comisiwn i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad newydd i ddangos ID pleidleisiwr oedd yr enghraifft fwyaf amlwg i'r cyhoedd o'r gwaith a wnaeth i sicrhau y gallai pawb gymryd rhan; roedd hon yn ymgyrch gwbl integredig a oedd yn cyfuno hysbysebion y talwyd amdanynt a gwaith partneriaeth â gwybodaeth i bleidleiswyr, y wasg a chyfryngau cymdeithasol.
Ond nid ID pleidleisiwr yw'r unig newid sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau. Drwy'r flwyddyn, cynhaliodd y Comisiwn hefyd ymgynghoriadau ar Gof Ymarfer ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cyflwyno argraffnodau digidol, a mesurau hygyrchedd newydd mewn gorsafoedd pleidleisio. Drwy ymgysylltu â phleidiau, ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a phartneriaid, bu modd i ni wella defnyddioldeb ein canllawiau a gwella ein sylfaen dystiolaeth am y ffordd y caiff y gyfraith ei chymhwyso yn ymarferol.
Rydym yn parhau i fuddsoddi a chanolbwyntio ar y ffordd orau y gallwn gefnogi ein cymuned a reoleiddir er mwyn deall y gyfraith a chydymffurfio â hi. Mae'r cyfreithiau sy'n ymwneud â chyllid gwleidyddol yn chwarae rhan fawr wrth ddarparu tryloywder a chynnal hyder pleidleiswyr yn nhegwch y system. Mae ein cronfa ddata yn rhoi gwybodaeth am werth mwy na £1bn o roddion a gofnodwyd gan bleidiau ac ymgyrchwyr ers i'r Comisiwn gael ei sefydlu yn 2000. Mae hon yn garreg filltir nodedig, ac mae'n dangos lefel y wybodaeth rydym yn ei darparu i bawb ei gweld. Byddwn yn parhau i nodi meysydd lle y gellid diwygio system cyllid gwleidyddol y DU er mwyn ennyn mwy o hyder yn y system.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo llais pleidleiswyr ifanc a darpar bleidleiswyr. Ym mis Ionawr, ymrwymodd mwy na 220 o ysgolion ledled y DU i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais. Mae'r wythnos hon yn ganolbwynt i'n gwaith dysgu, sydd â'r nod o hyrwyddo mwy o gysondeb mewn addysg llythrennedd gwleidyddol, a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth wleidyddol ymhlith pobl ifanc. Mae hwn yn faes gwaith pwysig ac sy'n tyfu, ac mae wedi bod yn wych ei weld yn mynd o nerth i nerth.
O fewn y Comisiwn rydym yn parhau i wneud newidiadau cadarnhaol. Mewn ymateb i ymosodiad seiber ar y sefydliad, gwnaed gwelliannau sylweddol i seilwaith digidol y sefydliad, sy'n cydnabod y risgiau posibl gan ymosodiadau seiber, ac yn helpu i amddiffyn ein systemau rhag digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Mae gwaith yn parhau i gyflwyno system newydd yn lle'r system ar-lein gyfredol ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol a chofnodi gwybodaeth ariannol, a gresynwn na chafodd y prosiect ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel y byddem wedi gobeithio.
Rydym wedi datblygu Strategaeth Pobl newydd ar gyfer 2022-25, sy'n nodi ein gwelliannau arfaethedig i wella systemau adnoddau dynol, dysgu a datblygiad, recriwtio, a rheoli perfformiad. Lansiwyd prosiect datblygu newydd y flwyddyn hon hefyd, sydd â'r nod o gryfhau sgiliau arwain personol ein pobl a gwella a chryfhau diwylliant cyffredinol y Comisiwn.
Braf oedd gweld y newidiadau cadarnhaol hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r tîm gweithredol a minnau yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y Comisiwn yn y sefyllfa orau posibl i wella ein perfformiad i'r eithaf a chefnogi ein pobl a'n rhanddeiliaid.
Shaun McNally CBE
Y Prif Weithredwr
Ein rôl
Ein rôl
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb.
Ein hamcanion strategol
- Systemau cofrestru a phleidleisio hygyrch
- Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau
- Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
- Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
- Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
- system etholiadol fodern a chynaliadwy
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl yn gwerthfawrogi ac yn ymddiried mewn etholiadau a refferenda, ac yn cymryd rhan ynddynt. Rydym yn anelu at gyflawni'r weledigaeth hon drwy gyflawni'r amcanion strategol a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27, a gyflwynwyd gerbron Senedd y DU a Senedd yr Alban ym mis Ebrill 2022, ar yr un pryd ag y cyflwynwyd y Cynllun Corfforaethol cysylltiedig i Gymru gerbron y Senedd.
Yr amcanion strategol hyn yw'r sylfaen ar gyfer gwerthuso perfformiad y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn.
Ffactorau galluogi
Er mwyn sicrhau bod gennym ni fel sefydliad yr holl adnoddau i gyflawni'r amcanion hyn, rydym wedi nodi tri gweithgaredd galluogi allweddol.
Rydym yn parhau i ddangos ein hannibyniaeth a'n huniondeb drwy wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny, gan seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar ddadansoddiad o'r dystiolaeth; cyfleu ein gwaith a'n barn yn effeithiol; darparu gwasanaethau ymatebol i'r rhai rydym yn eu cefnogi; a chynnal trefniadau llywodraethu effeithiol.
Rydym yn rhoi arferion gwaith diwygiedig ar waith er mwyn adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a'n diwylliant; denu, cadw a datblygu'r bobl sydd eu hangen arnom; cynnal a gwella safonau rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl; ac ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Rydym yn caffael technoleg sy'n cynnig gwerth am arian ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir, ac yn ei rhoi ar waith, fel y bo'n briodol; yn cynnal strategaeth ariannol ddarbodus gadarn; yn parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol; ac yn datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy'n bodloni gofynion deddfwriaethol a gofynion polisi.
Ein rôl ledled y DU
Rydym yn cyflawni ar ran pleidleiswyr ym mhob rhan o'r DU ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Rydym yn atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban, a chawn ein hariannu gan bob un o'r rhain am y gwaith a wneir ar etholiadau o dan eu pwerau datganoledig neu bwerau a gadwyd yn ôl. Nid yw cyfraith etholiadol wedi'i datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac erys yn fater a gadwyd yn ôl i San Steffan.
UK-wide organisation
Mae'r Comisiwn yn sefydliad ar gyfer y DU gyfan, ac mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau yn unol â hynny. O ganlyniad i ddeddfwriaeth, dim ond ar y gwaith a wneir mewn perthynas â'n rôl a'u hatebolrwyddau i Senedd y DU y dylai'r Adroddiad Blwyddyn ganolbwyntio. Mae gwybodaeth ar wahân ar gael i Gymru a'r Alban am ein hatebolrwyddau i'r seneddau hynny.
Cipolwg ar ein blwyddyn
Ch1
- Cafodd Deddf Etholiadau Llyworaeth y DU Aseiniad Brenhinol
- Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar ganfasiad a chofrestrau etholiadol 2021 ym Mhrydain Fawr
- Cafodd Shaun McNally ei benodi'n Brif Weithredwr
- Cynhaliwyd etholiadau mis Mai 2022
- Gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau
Ch2
- Gwnaethom gyhoeddi datganiadau blynyddol o gyfrifon y pleidiau
- Cynhaliodd y Comisiwn gyfarfod O'r Bwrdd yn Belfast
- Lansiodd Llywodraeth y DU ei hymgynghoriad ar Ddatganiad Strategaeth a Pholisi ar gyfer y Comisiwn
- Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau ar etholiadau mis Mai
- 2022 yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd lwerddon
- Gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar hygyrchedd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau
Ch3
- Gwnaethom gyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar reoli'r broses ar gyfer ID pleidleiswr am ddim
- Cyfiwynodd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol adroddiad ar waith y Comisiwn Etholiadol
- Rhoesom dystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y Datganiad Strategaeth a Pholisi drafft
- Gwnaethom gyhoeddi gwariant ar ymgyrchu ar gyfer etholiad Cynulliad Gogledd lwerddon
- Gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar y Cod Ymarfer drafft ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Ch4
- Gwnaethom lansio ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ID pleidleisiwr ar gyfer etholiadau mis Mai 2023
- Gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar y Polisi Gorfodi diwygiedig
- Gwnaethom gynnal wythnos Croeso i Dy Bleidlais gyda chyrff addysg a grwpiau ieuenctid
- Gwnaethom gyhoeddi canllawiau diwygiedig i Swyddogion Canlyniadau ar gyfer etholiadau mis Mai, gan gynnwys canllawiau ar ofynion hygyrchedd
- Gwnaethom lansio ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau mis Mai 2023
Ein blwyddyn mewn ffigurau
- 280,498 o bleidleiswyr wedi'u cofrestru (2021-22: 660,000)
- 100% o adroddiadau ar etholiadau wedi'u cyhoeddi mewn modd amserol (2021-22:100%)
- sgör ymgysylltu å chyflogeion o 66% (2021-22:67%)
- 11,829 o ymatebion i ymholiadau gan y cyhoedd (2021-22: 24,643)
- 14,800 o ymatebion i ymholiadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol (2021-22: 1,259)
- 387 o adroddiadau ar roddion gan bleidia wedi'u cyhoeddi (2021-22: 412)
- 82% o gofrestriadau pleidiau wedi'u prosesu o fewn y cyfnod targed (2021-22: 94%)
- 91% o ymchwiliadau wedi'u cau o fewn y cyfnod targed (2021-22: 68%)
- 797 o ddatganiadau blynyddol o gyfrifon wedi'u cyhoeddi (2021-22: 724)
- 100% o'n canllawiau ar weinyddu etholiadol wedi'u cyhoeddi ar amser
2021-22: 100% - 99% o geisiadau am gyngor gan awdurdodau Ileol wedi'u odloni o fewn 3 diwrnod (2021-22:99%)
- £16,000 o sancsiynau sifil wedi'u gosod fel rheoleiddiwr (2021-22: £58,000)
Performance Analysis