Adroddiad Blynyddol yr Alban
Trosolwg
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'n gwaith ar faterion datganoledig yn yr Alban, ac mae'n ystyried ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn uniongyrchol atebol i Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Senedd y DU.
Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Diwygio) 2020 yn nodi'r trefniadau ariannu ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau datganoledig y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban.
Sefydliad partner
Drwy waith partneriaeth gwych, cawsom wybodaeth amserol a chywir am gofrestru pleidleiswyr, cofrestru drwy'r post, pleidleisio a mesurau brys o ganlyniad i Covid-19.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
Canolbwyntiodd ein gwaith ar ddechrau 2022/23 ar helpu i gynnal etholiadau cynghorau lleol yn llwyddiannus ledled yr Alban. Roedd hyn yn cynnwys:
- Gweithio gyda Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban i ddarparu cyngor a chanllawiau i weinyddwyr etholiadol yn yr Alban i'w helpu i baratoi ar gyfer yr etholiadau a'u cynnal. Roedd hyn yn cynnwys adnoddau newydd a grëwyd mewn partneriaeth â phobl anabl i'w defnyddio wrth hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio.
- Darparu cymorth wedi'i dargedu i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i sicrhau eu bod yn deall y rheolau ymgyrchu ac yn cydymffurfio â nhw. Roedd hyn yn cynnwys cynnal seminarau i ymgeiswyr yn ystod cynadleddau pleidiau gwleidyddol a gweminar i ymgeiswyr ac asiantiaid, y gwnaeth mwy na 180 o bobl gymryd rhan ynddi.
- Cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer pleidleiswyr, er mwyn eu hatgoffa o'r terfynau amser allweddol ar gyfer ceisiadau cofrestru a cheisiadau am bleidleisiau absennol, a darparu gwybodaeth am sut i gwblhau'r papur pleidleisio gan ddefnyddio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Gwnaed 66,716 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio yn yr Alban yn ystod ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil, fel Enable ac Ysgol Gymunedol Simon, er mwyn helpu pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i baratoi i bleidleisio drwy rannu adnoddau a chynnal digwyddiadau gwybodaeth.
- Darparu gwasanaeth gwybodaeth cyhoeddus i bleidleiswyr, gan gynnwys adnodd chwilio i ddarparu gwybodaeth am eu gorsaf bleidleisio ddynodedig ac ymgeiswyr yn y ward dan sylw.
- Cyhoeddi ein hadroddiad statudol ar etholiadau cyngor yn yr Alban ym mis Medi, gan gynnwys adrodd ar y camau a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau i helpu pobl anabl i gymryd rhan yn yr etholiadau. Roedd ein hadroddiad yn adlewyrchu ymchwil gadarn a wnaed gyda phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgeiswyr, a chanfu fod y mwyafrif helaeth o'r pleidleiswyr yn fodlon ar y broses o bleidleisio a bob bron pob un ohonynt wedi gallu pleidleisio drwy ddefnyddio eu dewis ddull.
Rydym wedi buddsoddi yn ein cyngor, ein cymorth a'n gweithgareddau rheoleiddio yn yr Alban ac wedi cynyddu adnoddau staff i ganolbwyntio ar y meysydd hyn. Mae ein gwaith wedi cynnwys:
- Ymgynghori â gweinyddwyr yn yr Alban ar fframwaith safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, sydd bellach wedi'i osod gerbron Senedd yr Alban.
- Defnyddio ein fframwaith safonau perfformiad i gefnogi a herio Swyddogion Canlyniadau yn etholiadau cyngor yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran eu gweithgareddau drwy'r flwyddyn i gynnal cofrestrau etholiadol cywir a chyflawn.
- Nodi cyfleoedd newydd i helpu'r gymuned a reoleiddir i gydymffurfio â'r rheolau yn ymwneud â chyllid ymgyrchu.
Rydym yn parhau i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban ar ddatblygu polisi o fewn y fframwaith etholiadol, gan wneud y canlynol:
- Rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus ar gynnal etholiadau cyngor yr Alban 2022, gan nodi meysydd lle y gellir gwella'r system i bleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr.
- Darparu ymateb cynhwysfawr i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar weinyddu a diwygio etholiadol, gan ddefnyddio ein gwaith polisi a'n hymchwil helaeth gyda phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr.
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i adeiladu ar lwyddiant ein gwaith i hyrwyddo addysg ddemocrataidd drwy ddarparu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon a gweithwyr ieuenctid:
- Mae ein gwaith blaenorol ym maes addysg wedi canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer pleidleisio mewn etholiad penodol, ond yn ystod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ym mis Ionawr 2023, nododd y Comisiwn bwysigrwydd ymgorffori addysg ddemocrataidd mewn ysgolion drwy'r flwyddyn.
- Cymerodd mwy na 150 o ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled yr Alban ran yn ein hymgyrch, gan ymrwymo i gynnal gweithgareddau gyda'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw ar thema 'Ein Democratiaeth'. Gwnaethom hefyd weithio gyda Senedd Ieuenctid yr Alban a Girlguiding Scotland i gefnogi gwirfoddolwyr ifanc i gynnal gweithdai yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol, a gwnaethom gynnal digwyddiadau mewn ysgolion drwy gydol yr wythnos ar gyfer tua 700 o bobl ifanc.
- Gwnaethom dreialu rhaglen llais ieuenctid, gan ddod â grŵp o bobl ifanc o bob cwr o'r Alban ynghyd i roi adborth ar ein hadnoddau addysg a chreu adnoddau newydd sy'n addas i bobl ifanc.
Ymgeisydd yn etholiadau Mai 2022
Roedd y weminar yn effeithiol iawn, yn enwedig o ran y rheolau yn ymwneud ag argraffnodau, gwariant ymgeiswyr a rhoddion. Rwyf wedi ei hargymell i'm cyd-ymgeiswyr ac asiantiaid a byddaf yn rhannu'r ddolen â nhw.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio i sefydlu rhaglen llais ieuenctid hirdymor. Byddwn yn gweithio i ymgorffori addysg ddemocrataidd mewn ysgolion a lleoliadau gwaith ieuenctid ymhellach drwy gefnogi gweithwyr ieuenctid, athrawon ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol) a phynciau eraill i ddefnyddio ein hadnoddau drwy hyfforddiant a rhwydweithiau athrawon. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn weithio gyda'r sector cyhoeddus a sefydliadau cymdeithas sifil i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a defnyddwyr BSL i ddysgu am eu pleidlais.
- Byddwn yn arwain prosiect, gan gynnwys rhanddeiliaid o blith y rhai sy'n gweinyddu etholiadau cyngor yr Alban a'r rhai sy'n ymgyrchu yn yr etholiadau hynny, i nodi strategaethau i wella dealltwriaeth pleidleiswyr o system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, gyda'r nod o leihau nifer y pleidleisiau a wrthodir yn etholiadau cyngor yr Alban.
- Byddwn yn parhau i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban wrth i'r Llywodraeth fynd ar drywydd ei ymrwymiad i ddeddfu ar gyfer diwygiadau etholiadol pellach.
- Drwy sesiynau cynghori, hyfforddi a briffio, byddwn yn cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, ac yn parhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
- Byddwn yn gweithio gyda Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol effeithiol sy'n parhau i ddiwallu anghenion pleidleiswyr. Bydd hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd i gryfhau timau gweinyddu etholiadol ac ystyried opsiynau ar gyfer moderneiddio'r broses bleidleisio.
- Byddwn yn gweithio gyda Heddlu'r Alban, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol i ystyried pryderon a godwyd gan ymgeiswyr am fygylu a cham-drin yn ystod etholiadau, a mynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yn yr Alban, ac rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein rhaglen o waith partneriaeth yn yr Alban wedi parhau i ddatblygu adnoddau i gefnogi cynhwysiant democrataidd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau penodol wrth bleidleisio. Mae hyn wedi cynnwys darparu deunyddiau etholiad mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, ac mewn nifer o fformatau, gan gynnwys fformat hawdd ei ddeall, print bras, sain a braille. Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau partner yn yr Alban i ddatblygu deunyddiau priodol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr, pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, goroeswyr cam-drin domestig a phobl ddigartref.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r gymuned etholiadol drwy Is-grŵp Gwella Hygyrchedd y Bwrdd Rheoli Etholiadol i ystyried sut y gallwn wella hygyrchedd y broses etholiadol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau.
Adnoddau
Yn ystod 2022/23, gwnaethom ddefnyddio 99% o’r gyllideb o £2.06m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio yn bennaf, £1.5m (73%), gyda hysbysebu ac ymchwil, £0.5m (24%), yn bennaf; mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad Senedd yr Alban at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol.
Mae ein hadroddiad segmentol ar dudalen 152 yn dangos y dadansoddiad rhwng costau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Llywodraethu
Mae'r Comisiwn yn adrodd i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban at ddibenion atebolrwydd. Rydym yn parhau i adrodd i bwyllgorau eraill mewn perthynas â'n gwaith mewn meysydd polisi gwahanol, yn fwyaf nodedig y Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus.
Ym mis Medi 2022, gwnaethom gyflwyno ein trydydd amcangyfrif i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban ar gyfer ariannu ein gwaith yn ystod 2023/24. Dilynodd y broses ar gyfer datblygu'r amcangyfrif y ‘Datganiad o Egwyddorion Cyllido’ y gwnaethom gytuno arno â Senedd yr Alban, Senedd y DU a Senedd Cymru ddechrau 2021.
Navigation
Previous |
---|
Adroddiad blynyddol Cymru |