Defnyddio ein pwerau a'n sancsiynau rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024

Rydym yn annog y rhai a reoleiddir gennym i gydymffurfio â'r gyfraith drwy roi cymorth ac arweiniad. Fodd bynnag, pan fo'n gymesur gwneud hynny, rydym yn cymryd camau pan nad ydynt yn dilyn y rheolau.

Rhydd PPERA bwerau ymchwilio i ni, gan gynnwys y gallu i wneud y canlynol:

  • gofyn am wybodaeth (drwy hysbysiad ymchwilio) gan unrhyw un lle rydym yn amau bod rhywun wedi torri'r gyfraith neu (drwy hysbysiad datgelu) lle nad ydym yn amau trosedd ond mae angen gwybodaeth arnom er mwyn cyflawni ein swyddogaethau
  • gofyn i'r rhai a amheuir neu i dystion ddod am gyfweliad
  • cymryd camau os na fydd pobl yn cydweithredu â'n gofynion
  • dan amgylchiadau penodol, cael mynediad i safleoedd (drwy warant archwilio gan Ynad Heddwch)

Mae gennym amrywiaeth o sancsiynau hefyd, gan gynnwys:

  • Dirwyon yn amrywio o £200 i £20,000
  • Hysbysiadau cydymffurfio a gwneud iawn, y gallwn eu defnyddio i'w gwneud yn ofynnol i bobl gymryd camau penodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth neu wneud iawn am ddiffyg cydymffurfio
  • Hysbysiadau atal, y gallwn eu defnyddio i'w gwneud yn ofynnol i bobl gymryd cam gweithredu penodol neu atal gweithred arfaethedig

Mae'r sancsiynau hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o droseddau PPERA, ond nid pob un ohonynt. Mae rhai troseddau – y rhai sy'n cynnwys elfen o anonestrwydd bwriadol fel arfer – na allwn roi dirwyon amdanynt, ond gallwn hysbysu'r heddlu neu'r erlynydd cyhoeddus perthnasol

Hefyd, gallwn ystyried ‘ymgymeriadau gorfodi’ gan y rhai a reoleiddir gennym, er enghraifft lle y gall plaid roi gwybod yn wirfoddol am drosedd a chynnig camau i'w hunioni, gan osgoi'r angen i’r blaid a'r Comisiwn fynd drwy ymchwiliadau, a all gymryd llawer o amser o bosibl.

Defnyddio pwerau ymchwilio

Mae'n ofynnol i ni adrodd ar ein defnydd o bwerau ymchwilio, yn benodol:

  • achosion lle y gwnaethom gyflwyno hysbysiad datgelu neu ymchwilio
  • achosion lle yr aed i safle gan ddefnyddio gwarant archwilio a roddwyd gan Ynad Heddwch
  • achosion lle y gwnaethom gais i lys am orchymyn datgelu.

Nid yw'n ofynnol i ni gynnwys gwybodaeth lle y byddai gwneud hynny, yn ein barn ni, yn anghyfreithlon neu gallai fod yn anghyfreithlon, neu gallai effeithio'n andwyol ar unrhyw ymchwiliad neu achos cyfredol.

Ni wnaethom gyflwyno unrhyw hysbysiadau datgelu yn ystod 2023/24, ond gwnaethom gyflwyno un hysbysiad ymchwilio.

Ni wnaethom ddefnyddio ein pwerau i wneud cais am warant archwilio i fynd i mewn i safle nac i wneud cais i lys am unrhyw orchmynion datgelu.

Cwblhawyd 17 o ymchwiliadau yn ystod 2023/24, o gymharu â 34 o ymchwiliadau yn y flwyddyn flaenorol.

Gwnaethom barhau i reoleiddio a chymryd camau gorfodi pan roedd yn rhesymol gwneud hynny er budd y cyhoedd. Roedd ein gwaith i helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â chyfraith etholiadol, a diffyg etholiadau a reoleiddir o bwys, yn ffactorau a gyfrannodd at y lleihad hwn yn nifer yr achosion. Mae digwyddiadau etholiadol yn tueddu i ysgogi ein gwaith ymchwilio, a gydag etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024, mae'n debygol y bydd cynnydd yn nifer yr ymchwiliadau yn 2024/25.

Mae'n ofynnol i ni adrodd ar ein defnydd o sancsiynau sifil, yn benodol:

  • achosion lle y gosodwyd cosb ariannol benodedig neu ofyniad dewisol neu y cyflwynwyd hysbysiad atal (heblaw achosion lle y cafodd y gosb, gofyniad neu hysbysiad ei newid ar ôl apelio)
  • achosion lle y talwyd atebolrwydd am gosb ariannol benodedig cyn i hysbysiad yn gosod y gosb honno gael ei gyflwyno
  • achosion lle y derbyniwyd ymgymeriad gorfod

Arweiniodd 14 o ymchwiliadau at ystyried sancsiynau, a gwnaethom osod 33 o gosbau, ar draws 11 o achosion. Gosodwyd gwerth £27,000 o sancsiynau.

Mae manylion yr holl gosbau a osodwyd yn ystod 2023/24 ar gael ar ein gwefan.

Ni chynigiwyd unrhyw ymgymeriadau gorfodi i ni yn ystod 2023/24. Ni wnaethom gyflwyno unrhyw hysbysiadau atal hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2024. Ni wnaed unrhyw apeliadau yn erbyn penderfyniadau i osod sancsiynau sifil.

Cosbau a roddwyd

Navigation