Adroddiad ar gynaliadwyedd
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn parhau i fod yn ymroddedig i amddiffyn a chreu gweithle cynaliadwy. Rydym yn cydnabod bod cyflawni ein gweithgareddau yn cael effaith ar yr amgylchedd ac rydym yn parhau i weithio tuag at leihau'r effaith hon.
Rydym yn prydlesu swyddfeydd mewn pedair dinas gan gyfuniad o berchenogion eiddo sector cyhoeddus a sector preifat. Nid oes gennym reolaeth uniongyrchol dros y dewis o gyflenwr cyfleustodau, y modd y rheolir y broses o waredu gwastraff na thargedau gwaredu gwastraff ar ein safleoedd. Ar gyfer pob un o'n swyddfeydd, perchennog yr eiddo sy'n rheoli'r defnydd o ynni a dŵr a'r modd y caiff gwastraff ei waredu, gan adennill costau drwy dâl gwasanaeth cyfunol.
Mae'r swyddfeydd yng Nghaerdydd a Belfast wedi cael eu symud i safleoedd sy'n fwy effeithlon yn amgylcheddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Cwblhawyd y broses o adnewyddu'r les ar gyfer ein swyddfa yn Llundain yn 2020, ac mae gan bob swyddfa oleuadau LED sy’n defnyddio ynni’n effeithlon erbyn hyn. O ganlyniad i’r newid hwn yn ein swyddfa yn Llundain, roedd ein defnydd o drydan wedi gostwng 49% ers mis Ebrill 2023. Nid yw’r Datgeliadau Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd yn berthnasol i’r Comisiwn ond rydym yn ceisio bod yn ymrwymedig i weithredu mewn ffordd gynaliadwy, gwneud dewisiadau ecogyfeillgar, a lleihau ein hôl troed carbon lle bo modd.
Caiff perfformiad, lle y bo ar gael, ei gyflwyno yn erbyn pob un o feysydd adrodd Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth. Rydym wedi cynnwys y data ar gyfer tair blynedd flaenorol er mwyn cymharu â'r llinell sylfaen.
Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth ar wefan y Llywodraeth.
Nid yw'r meysydd adrodd canlynol sy'n rhan o Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth yn gymwys i'r Comisiwn:
- Cynllunio camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth ac adfer natur – nid yw'r Comisiwn yn berchen ar unrhyw dir na chyfalaf naturiol.
- Fflyd ceir teithio – nid yw'r Comisiwn yn berchen ar unrhyw gerbydau fflyd, caiff yr holl deithio ei wneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu yng ngherbydau cyflogeion.
- Allyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol – nid yw'r Comisiwn yn berchen ar unrhyw gyfarpar allyriadau uniongyrchol.
- Lleihau a rheoli gwastraff – nid yw'r Comisiwn yn defnyddio unrhyw blastigion defnyddwyr untro
Lliniaru'r newid yn yr hinsawdd
Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth
| Mesur | 2023/24 | 2022/23 | llinell sylfaen 2017/18 | % |
|---|---|---|---|---|
| Allyriadau cwmpas 2 (ynni anuniongyrchol) | 99CO2e | 99CO2e | 198CO2e | 50% |
| Allyriadau cwmpas 3 (teithio busnes swyddogol - domestig) | 30CO2e | 26CO2e | 37CO2e | 19% |
| Allyriadau cwmpas 4 (teithio busnes swyddogol - rhyngwladol) | - | 0 | 0 | 0% |
| Cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr | 129CO2e | 125CO2e | 235CO2e | 45% |
| Y defnydd o drydan grid safonol y prif gyflenwad (cwmpas 2 a 3) | 375,818kWh | Heb ei gofnodi | 487,611kWh | 23% |
| Systemau gwresogi | 188,854kWh | Heb ei gofnodi | 211,990kWh | 11% |
| Cyfanswm y defnydd cysylltiedig o ynni | 564,672kWh | Heb ei gofnodi | 699,601kWh | 19% |
| Gwariant ar ddefnydd o ynni | Not available* | Ddim ar gael* | Dd/G | |
| Gwariant ar deithio busnes swyddogol - domestig | 76kWh | Heb ei gofnodi | 114kWh | 33% |
| Gwariant ar deithio busnes swyddogol - rhyngwladol | - | - | ||
| Cyfanswm y gwariant cysylltiedig | 76kWh | Heb ei gofnodi | 114kWh | 33% |
Lleihau a rheoli gwastraff
| Mesur | 2023/24 | 2022/23 | llinell sylfaen 2017/18 | % |
|---|---|---|---|---|
| Gwastraff cyfrinachol (wedi'i ailgylchu) | 0.00 | 1.00 tunnell | 2.81 tunelli | 100% |
| Gwastraff cyffredinol (gan gynnwys wedi'i ailgylchu) | 2.84 tunelli | 4.08 tunelli | 7.26 tunelli | 61% |
| Cyfanswm y gwastraff | 2.84 tunelli | 5.08 tunelli | 10.07 tunelli | 72% |
| Cyfanswm cost gwastraff | £2 | 0 | £1 | (100%) |
Y defnydd o adnoddau y mae pen draw iddynt
| Mesur | 2023/24 | 2022/23 | 2017/18 baseline | % |
|---|---|---|---|---|
| Y defnydd o ddŵr | Ddim ar gael* | Ddim ar gael* | - | |
| Cyfanswm cost dŵr | Ddim ar gael* | Ddim ar gael* | - |
Y defnydd o bapur
| Mesur | 2023/24 | 2022/23 | 2017/18 baseline | % |
|---|---|---|---|---|
| Papur wedi'i gaffael (cyfwerth ag A4) | 105 rimiau | 150 rimiau | 650 rimiau | 84% |
*Gan ein bod mewn adeilad rhent a rennir y mae landlord preifat yn berchen arno, nid yw gwariant ar ddefnydd o ynni a dŵr ar gael gan nad oes modd cael gafael ar y data yn ymarferol.
Targed Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth: lleihau'r allyriadau cyffredinol 52% a lleihau allyriadau uniongyrchol 20% o linell sylfaen 2017-18 erbyn 2024-25, gyda'r nod o gyrraedd sero net erbyn 2050
Rydym yn gweithio i ddefnyddio llai o danwydd ffosil o flwyddyn i flwyddyn, sy'n effaith barhaus yn sgil cyflwyno mesurau gan berchennog yr eiddo i leihau'r defnydd o drydan, gan gynnwys gweithrediad is ‘y tu allan i oriau’ o offer a pheiriannau a chyflwyno goleuadau ynni effeithlon. Eleni, gwelwyd lleihad o 47% o linell sylfaen 2017-18.
Is-darged Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth: lleihau allyriadau o hediadau busnes domestig 30% o leiaf o linell sylfaen 2017-18 erbyn 2024-25
Mae'r defnydd o hediadau domestig yn galluogi cyflogeion i ymweld â'r swyddfa yng Ngogledd Iwerddon a swyddfeydd datganoledig, a fyddai'n ddefnydd aneffeithlon o amser fel arall. Yr allyriadau uchaf o'n hediadau domestig eleni oedd 31CO2e, a'r pellter a deithiwyd oedd 106,860km.
Is-darged Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth: adrodd ar y pellter a deithiwyd ar hediadau busnes rhyngwladol, gyda'r nod o ddeall allyriadau cysylltiedig yn well a'u lleihau lle y bo modd
Ychydig o bellter a deithiwyd ar hediadau busnes rhyngwladol o fewn y Comisiwn, ac nid oes gwybodaeth ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Eleni, y pellter a deithiwyd oedd 0km.
Targed Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth: lleihau cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir 15% o linell sylfaen 2017-2018
Seilir ffigurau gwastraff ac ailgylchu cyffredinol ar gyfran o holl wastraff yr adeilad ac ni chânt eu rheoli'n uniongyrchol gennym ni. Mae'r broses o waredu gwastraff cyfrinachol y sefydliad yn cael ei chyflawni ar wahân i'r broses ar gyfer deiliaid eraill yr adeilad. Caiff y gwastraff cyfrinachol a gynhyrchir gennym ei droi'n garpion papur ar y safle cyn cael ei ailgylchu'n bapur gradd isel. Anfonir yr holl wastraff cyffredinol a gynhyrchir yn yr adeilad, gan gynnwys yr hyn a gynhyrchir gennym ni, i safle ynni o wastraff cyfagos yn lle safleoedd tirlenwi.
Mae cyflwyno gweithio hybrid wedi cyfrannu at leihad sylweddol yn y defnydd o bapur a gwastraff papur ers 2017/18.
Caffael cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy
Mae'r Comisiwn yn parhau i weithio gyda phob cyflenwr yn unol â Safonau Prynu'r Llywodraeth a gan gydymffurfio ag Ymrwymiadau Gwyrddu'r Llywodraeth. Rydym yn ymrwymedig i gynaliadwyedd yn y ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael ac rydym yn gweithio gyda chyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr i wella perfformiad ynghyd â sicrhau gwerth am arian . Gwneir hyn drwy:
- nodi unrhyw effeithiau amgylcheddol yn effeithiol ar y cam achos busnes
- sicrhau bod cwsmeriaid yn ymgorffori ffactorau cynaliadwyedd wrth ddatblygu gofynion masnachol
- defnyddio meini prawf gwerthuso sy'n cynnwys ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â ffactorau amgylcheddol.
Lleihau effeithiau amgylcheddol o adnoddau digidol a TGCh
Mae cyfarpar TGCh y Comisiwn wedi'i greu o blastigion wedi'u hailgylchu a chaiff eitemau eu hailgylchu'n rheolaidd ymhlith y staff nes y byddant wedi darfod yn weithredol neu nad ydynt bellach yn addas ar gyfer anghenion y Comisiwn.
Rydym wedi gwella ein heffaith amgylcheddol ymhellach drwy wneud y canlynol:
- lleihau'r adnoddau argraffedig a ddarperir i weinyddwyr etholiadau a grwpiau eraill, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth electronig lle bo'n bosib
- cyflwyno trefniadau gweithio hybrid/o bell sy'n lleihau ôl troed carbon
- annog y defnydd o fideo-gynadledda a thelegynadledda er mwyn osgoi teithio diangen sy'n creu allyriadau CO2
- gweithredu cyfleusterau ailgylchu ym mhob un o'n swyddfeydd.
Using our financial resources effectively
Caiff ein cyllid adnoddau ei ddarparu gan dair senedd – Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Yr adnodd cyfunol a oedd ar gael i'r Comisiwn oedd £30.7m ar gyfer gweithgarwch â phleidlais. Cawsom hefyd werth £225k o gyllid heb bleidlais i dalu ffioedd Comisiynwyr.
Terfyn Gwariant Adrannol
| Â phleidlais £m | Heb bleidlais £m | Total £m | |
|---|---|---|---|
| Adnoddau | 30.7 | 0.2 | 30.9 |
| Cyfalaf | 1.5 | 0.0 | 1.5 |
Gwariant a Reolir yn Flynyddol
| Voter £m | Non-voted £m | Cyfanswm £m | |
|---|---|---|---|
| Adnoddau | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
| Cyfalaf | 0.1 | 0.0 | 0.1 |
Cyfanswm y Gyllideb Net
| Voter £m | Non-voted £m | Total £m | |
|---|---|---|---|
| Adnoddau | 30.7 | 0.2 | 30.9 |
| Cyfalaf | 1.6 | 0.0 | 1.6 |
| Gofyniad arian parod net | 32.5 | - | 32.5 |
Dangosir yr £1.5m gan Senedd Cymru a'r £2.0m gan Senedd yr Alban fel incwm drwy gydol y cyfrifon a'r Datganiad Alldro yn erbyn y Datganiad o Gyflenwi Seneddol. Caiff gweddill y gyllideb a dynnwyd i lawr gan Senedd yr Alban a’r Senedd a nas gwariwyd ei chynnwys fel incwm gohiriedig yn y Datganiad o'r Sefyllfa Ariannol.
Perfformiad ariannol 2023/24
Mae ein perfformiad ariannol yn dilyn ein perfformiad strategol. Ar gyfer blwyddyn 2023/24
- roedd ein costau staff yn cynrychioli 46% o'n gwariant adnoddau, sy'n gynnydd o 4% o gymharu â 2022/23 oherwydd staffio ychwanegol ym mhob rhan o'r Comisiwn
- cynyddodd ein gwariant cyfalaf £1.16M o 2022/23 o ganlyniad i'r gwaith gosod yn y ddwy swyddfa newydd.
Wrth gyflawni ein hamcanion, rydym wedi defnyddio gwerth £29.3m o'n cyllideb adnoddau ar gyfer y flwyddyn gyfan. Roedd hyn allan o'r £30.9m a oedd ar gael ac a gymeradwywyd 53 gan Senedd y DU ar gyfer y gofyniad adnoddau net â phleidlais, heb gynnwys incwm a gafwyd gan yr awdurdodau datganoledig. Mae'r graffigyn isod yn crynhoi ein perfformiad ariannol o ran yr elfen ‘â phleidlais’ o'n cyllideb.
Gwariant cyffredino
Is-set o'r gost gyffredinol yw gwariant Senedd Cymru a Senedd yr Alban yn y tabl uchod.
Tanwariant
- cyllid nas defnyddiwyd a roddwyd o'r neilltu ar gyfer etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon a pharatoadau cynnar ar gyfer etholiad cyffredinol mis Gorffennaf 2024.
- dibrisiant
Terfyn Gwariant Adrannol (DEL)
Alldro'r DEL Adnoddau a bleidleisiwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £29,148,000 yn erbyn terfyn a bleidleisiwyd o £30,669,000, tanwariant o £1,521,000. Yr alldro DEL cyfalaf a bleidleisiwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £1,877,000 yn erbyn terfyn a bleidleisiwyd o £1,455,000 ac roedd gorwariant o £422,000. Ceir rhagor o fanylion am bleidlais ormodol 0.0 2.0 4.0 6.0 8.0 10.0 12.0 14.0 16.0 Costau staff Costau gweithredu Ymwybyddiaeth y Cyhoedd Grant Datblygu Polisi Gwariant cyfalaf Gwariant Senedd yr Alban Gwariant Senedd Cymru Gwariant 54 ar dudalen 131.
Rhoddodd y Comisiwn Etholiadol Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS 16) ar waith yn ei ddatganiadau ariannol ar gyfer 2022/23, a ddaeth i rym o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24, ymgymerodd y Comisiwn â dwy brydles newydd. Ni roddodd ystyriaeth gywir i ofynion y gyllideb ar gyfer cydnabod Hawl i Ddefnyddio’r asedau hyn o fewn ei Brif Amcangyfrif a’i Amcangyfrif Atodol ar gyfer 2023/24. Mae gwneud hynny o fewn yr Alldro yn erbyn Amcangyfrif wedi arwain at orwariant o fewn y Terfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf (C-DEL) a phleidlais ormodol o £422,000, a adlewyrchir yn y Datganiad o Wariant Seneddol (SoPS).
Mae'r rheolwyr yn cydnabod bod hwn yn gamgymeriad cyllidebu ac maent wedi rhoi mesurau ar waith i'w atal rhag digwydd eto. Roedd y penderfyniad i derfynu dwy brydles a dechrau dwy brydles newydd er mwyn sicrhau gwerth am arian a sicrhau cyfleusterau addas i wneud eu gwaith.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ceisio cymeradwyaeth seneddol ar ffurf Pleidlais Ormodol yn y Ddeddf Cyflenwi a Neilltuo nesaf.
Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME)
Caiff ein cyllideb AME adnoddau ei defnyddio yn erbyn unrhyw ddarpariaethau gyda'r gyllideb yn cynnwys cost pensiwn y Comisiynydd blaenorol. Eleni, oherwydd cyfraddau llog ar gyfer pensiwn a'r ffaith nad yw ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Belfast yn defnyddio'r ddarpariaeth ar gyfer dadfeiliad, rydym yn dangos balans credyd o £132k.
Defnyddir ein cyllideb AME gyfalaf ar gyfer lesoedd yr adeiladau newydd. Eleni, roedd dwy les newydd ar gyfer ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Belfast. Y ddarpariaeth ar gyfer dadfeiliad ar gyfer y lesoedd hyn oedd £91k, £9k o dan derfyn ein cyllideb.
Gellir dod o hyd i'r manylion yn ein hadroddiad Datganiad o Gyflenwi Seneddol a nodyn 11 yn y cyfrifon.
Mae ein hincwm yn y cyfrifon yn ymwneud â thaliadau ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol.
Rydym hefyd yn adrodd i Bwyllgor y Llywydd yn Senedd Cymru a Chorff Corfforaethol Senedd yr Alban, ac yn atebol iddynt. Mae'r incwm a gydnabyddir yn y cyfrifon ar gyfer gwaith ar etholiadau datganoledig yn bennaf. Cydnabyddir yr holl incwm yn nodyn 4 y cyfrifon.
Rydym yn casglu dirwyon a roddir i bleidiau gwleidyddol ac unigolion am fethu â chydymffurfio â'r rheolau ar gyllid pleidiau ac etholiadau ac yna'n eu hildio i'r Gronfa Gyfunol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau, gwnaethom hefyd reoli ein terfynau arian parod a bennwyd ar ein cyfer gan Senedd y DU. Roedd angen gwerth £28.8m o arian parod arnom i ariannu ein gweithgareddau â phleidlais, a oedd £2.2m yn llai na'r swm o £31.2m a gymeradwywyd gan Senedd y DU yn ein Hamcangyfrif Atodol. Mae cysoni'r alldro adnoddau net i'r gofyniad arian parod net, yn yr adroddiad ar atebolrwydd, yn cysoni'r alldro â'r arian parod net sydd ei angen arnom yn ystod y flwyddyn.
Mae'r Datganiad o Lifau Arian Parod yn dangos mai'r balans arian parod ar 31 Mawrth 2024 oedd £84k.
Mae'r Datganiad o Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2024 yn dangos diffyg ar ecwiti trethdalwyr. Caiff y rhwymedigaethau hyn eu bodloni drwy ddarparu cyllid cyflenwi yn y dyfodol.
Taliadau i gyflenwyr
Er ein bod yn annibynnol ar y llywodraeth, ein nod yw cydymffurfio â'r Cod Talu Prydlon sydd ar waith yn y sector cyhoeddus. Y targed yw talu anfonebau nad oes anghydfod yn eu cylch o fewn 30 diwrnod. Yn 2023-24, gwnaethom dalu cyfanswm o 1616 o anfonebau. Talwyd 96% o fewn 10 diwrnod, a 100% o fewn 30 diwrnod.
Departmental expenditure limit
| Voter £m | Non-voted £m | Total £m | |
|---|---|---|---|
| Resource | 45.7 | 0.3 | 36.0 |
| Capital | 2.2 | 0.0 | 2.2 |
Annually managed expenditure
| Voter £m | Non-voted £m | Total £m | |
|---|---|---|---|
| Resource | 0.0 | 0.0 | 0.0 |
| Capital | 0.1 | 0.0 | 0.1 |
Total net budget
| Voter £m | Non-voted £m | Total £m | |
|---|---|---|---|
| Resource | 45.7 | 0.3 | 46.0 |
| Capital | 2.3 | - | 2.3 |
| Net cash requirement | 46.5 | - | 46.5 |
The Speaker’s Committee approved this on 6 March 2024, and it was laid before the House of Commons on 2 May 2024. The Commission is established by legislation and following the principles of the FReM there is an assumption of continued provision of service, there is nothing to suggest services provided by the Commission will cease or future funding will not be provided.