Adroddiad Blynyddol yr Alban
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'n gwaith ar swyddogaethau datganoledig yn yr Alban, ac mae'n ystyried ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn uniongyrchol atebol i Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Senedd y DU.
Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Diwygio) 2020 yn nodi'r trefniadau ariannu ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau datganoledig y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
Mae ein gwaith eleni wedi canolbwyntio ar roi cyngor a thystiolaeth arbenigol ar agenda Llywodraeth yr Alban ar gyfer diwygio etholiadol, parhau i gefnogi rhanddeiliaid yn y gymuned etholiadol i fodloni eu cyfrifoldebau statudol, ac ehangu ein gwaith ymgysylltu â chymunedau sy'n wynebu'r risg fwyaf o allgáu democrataidd.
Ein gwaith i gefnogi diwygio etholiadol yn yr Alban:
- Buom yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban i roi cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth ar y cynigion ar gyfer diwygio etholiadol yn yr Alban. Gwnaeth ein cyngor arbenigol helpu i lywio'r Bil a gyflwynwyd gerbron Senedd yr Alban ym mis Ionawr 2024.
- Gwnaethom gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig gynhwysfawr ar Fil Etholiadau'r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio) i Bwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus Senedd yr Alban a rhoi tystiolaeth ar lafar i'r Pwyllgor.
- Gwnaethom gyhoeddi ymchwil gadarn ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol yr Alban, gan gynnwys cynigion yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol i gefnogi ansawdd ac uniondeb y cofrestrau. Gwnaethom hefyd gyhoeddi dadansoddiad o gofrestrau etholiadol 1 Rhagfyr yn yr Alban, gan ystyried sut y cynhaliwyd canfasiad 2022 ym Mhrydain Fawr a sut mae'r diwygiadau canfasio a gyflwynwyd yn 2020 wedi effeithio ar y cofrestrau etholiadol.
- Gwnaethom gynnal ymchwil i sut y gallai opsiynau pleidleisio hyblyg weithio ledled yr Alban ac yn y DU yn ehangach. Nod yr ymchwil hon yw llywio dadl am foderneiddio pleidleisio.
Rydym yn parhau i fonitro a chefnogi gweinyddwyr etholiadau, ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau o dan gyfraith etholiadol:
- Gwnaethom roi cyngor ac arweiniad i weinyddwyr etholiadau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn y 10 is-etholiad cyngor a gynhaliwyd ledled yr Alban yn 2023/24 ac arsylwi ar is-etholiadau er mwyn nodi meysydd i'w gwella.
- Gwnaethom weithio ar y cyd â Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban i ddarparu cyngor a chanllawiau i weinyddwyr etholiadau yn yr Alban i'w helpu i baratoi ar gyfer yr etholiadau a'u cynnal. Roedd hyn yn cynnwys cynnal cynhadledd ar y cyd ym mis Hydref 2023 a oedd yn canolbwyntio ar barodrwydd ar gyfer etholiad Senedd y DU sydd ar ddod ond hefyd reoli gwahaniaethau rhwng deddfwriaeth etholiadol ddatganoledig yr Alban a deddfwriaeth etholiadol y DU.
- Gwnaethom weithio gyda'r Bwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn ymgynghori â'r gymuned gweinyddu etholiadau ar heriau ynghylch capasiti a chadernid y sector a datblygu strategaethau i gefnogi'r sector.
- Gwnaethom ddefnyddio ein fframwaith safonau perfformiad i gefnogi a monitro Swyddogion Canlyniadau yn ystod is-etholiadau cyngor yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran eu gweithgareddau drwy'r flwyddyn i gynnal cofrestrau etholiadol cywir a chyflawn.
- Cynhaliwyd gweminar ar gyfer pleidiau gwleidyddol yr Alban i'w helpu i ddeall y gofynion o ran argraffnodau digidol a ddeilliodd o Ddeddf Etholiadau 2022 ac sy'n ategu gweithdrefn bresennol yr Alban ar gyfer argraffnodau digidol.
- Gwnaethom adeiladu ar ein cydberthynas sefydledig â Heddlu'r Alban, gan gynnal sesiynau ymgysylltu rheolaidd er mwyn hwyluso prosesau rhannu gwybodaeth a thrafod cyfleoedd i gydweithio, gan gynnwys strategaethau ar gyfer mynd i'r afael ag achosion o godi ofn ar ymgeiswyr mewn etholiadau yn yr Alban.
- Gwnaethom gynnal gweminar ar y cyd â Chyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban er mwyn cyrraedd aelodau o sefydliadau trydydd sector yr Alban i'w helpu i ddeall cyfraith etholiadol a sut y gall fod yn gymwys i'w gwaith ymgyrchu.
- Gwnaethom weithio'n agos gyda thimau cyfathrebu cynghorau er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael negeseuon clir drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau â thimau drwy'r rhwydwaith cyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ar Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
Rydym wedi parhau i ehangu ein rhaglen o waith ymgysylltu democrataidd yn yr Alban:
- Gwnaethom weithio gyda chynghorau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chyrff addysg i gynnal Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ym mis Ionawr 2024, lle ymrwymodd 160 o ysgolion a sefydliadau eraill i gynnal gweithgareddau addysg ddemocrataidd gan ddefnyddio ein hadnoddau addysg. Fel rhan o'r ymgyrch, gwnaethom lansio adnodd newydd i gefnogi sefydliadau i gynnal pleidlais go iawn ar bwnc sydd o bwys i bobl ifanc, er mwyn eu helpu i ddeall y broses bleidleisio a chreu cyfleoedd iddynt gael dweud eu dweud.
- Eleni, gwnaethom ddechrau gweithio gyda Children in Scotland i sefydlu rhwydwaith llais ieuenctid, sy'n cynnwys pobl ifanc o bob rhan o'r Alban, er mwyn llywio gwaith y Comisiwn i ymgysylltu â phobl ifanc. Mae'r grŵp wedi rhoi adborth ar ein hadnoddau dysgu ac wedi meddwl am syniadau ar gyfer Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
- Cymerwyd rhan mewn gweithgor a sefydlwyd gan Education Scotland, a oedd yn cynnwys athrawon a rhanddeiliaid eraill, i adolygu'r cwricwlwm llythrennedd gwleidyddol presennol yn yr Alban, gyda'r nod o greu fframwaith newydd ar gyfer addysg llythrennedd gwleidyddol er mwyn sicrhau y caiff ei darparu mewn ffordd gyson ac effeithiol.
- Cefnogwyd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eu gwaith i ymgysylltu â grwpiau sy'n tangofrestru drwy sefydlu rhwydwaith i staff cynghorau sy'n arwain ar gyfathrebu a gwaith allgymorth er mwyn creu fforwm i rannu syniadau ac arferion gorau, sy'n cyfarfod bob chwarter.
- Gwnaethom weithio'n agos gyda thimau cyfathrebu cynghorau er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael negeseuon clir drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau â thimau drwy'r rhwydwaith cyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ar Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
160 nifer yr ysgolion a ymrwymodd i Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Parhau i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban ar Fil Etholiadau'r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio). Byddwn yn gweithio gyda gweinyddwyr etholiadau ac ymgyrchwyr i ddatblygu ac ymgynghori ar unrhyw ganllawiau ychwanegol sydd eu hangen mewn perthynas â newidiadau sy'n deillio o unrhyw ddeddfwriaeth ganlyniadol.
- Drwy sesiynau cynghori, hyfforddi a briffio, cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, a pharhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
- Gweithio gyda phleidiau yn yr Alban i ddiweddaru ein Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr mewn etholiadau datganoledig.
- Gweithio gyda Heddlu'r Alban, Gwasanaeth Swyddfa'r Goron a'r Procuradur Ffisgal, y Bwrdd Rheoli Etholiadol, a Chymdeithas Aseswyr yr Alban i gynnal sesiwn friffio ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol is-adrannol Heddlu'r Alban ledled yr Alban fel eu bod yn hyderus o ran sut i gymhwyso cyfraith etholiadol yn eu gwaith o gwmpas etholiadau.
- Parhau i weithio gyda llywodraethau ledled y DU a'r gymuned etholiadol ehangach i ystyried y risgiau a achosir â seiberddiogelwch a thwyllwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phleidleiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus ynghylch deall pwy sy'n eu targedu a pham, fel y gallant fod yn effro i risgiau pob math o dwyllwybodaeth.
- Parhau i weithio gyda sefydliadau partner i gysylltu â sefydliadau ymgyrchu amrywiol yn yr Alban er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o reolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a sut maent yn gymwys i'r etholiadau gwahanol yn yr Alban.
- Gweithio gyda'r Bwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol effeithiol sy'n parhau i ddiwallu anghenion pleidleiswyr. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun trosiant uwch-aelodau o staff mewn rolau gweinyddu etholiadau ledled y wlad. Bydd ein gwaith yn parhau i nodi cyfleoedd i gryfhau timau gweinyddu etholiadau ac ystyried opsiynau ar gyfer moderneiddio'r broses bleidleisio.
Byddwn yn parhau i ehangu ein cymorth ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu democrataidd yn yr Alban:
- Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith gyda Children in Scotland a'n rhwydwaith llais ieuenctid er mwyn creu adnoddau sy'n addas i bobl ifanc ar gyfer Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025 ac etholiad Senedd yr Alban yn 2026.
- Byddwn yn parhau i gyfrannu at adolygiad Education Scotland o lythrennedd gwleidyddol a'r fframwaith newydd sy'n cael ei ddatblygu, gan gynnwys ystyried a ddylai'r Comisiwn ddatblygu adnoddau dysgu ychwanegol a hyfforddiant i athrawon er mwyn helpu i roi'r fframwaith newydd ar waith yn effeithiol.
- Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y gall elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil eraill ei chwarae o ran cynyddu cyfraddau cofrestru ymhlith grwpiau sy'n tangofrestru, a byddwn felly'n sefydlu proses ar gyfer comisiynu prosiectau a mentrau ymgysylltu democrataidd. Drwy ddarparu cyllid i brofi dulliau arloesol o gynnal gweithgareddau ymgysylltu democrataidd, rydym yn gobeithio datblygu ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio er mwyn cefnogi cyfranogiad ymhlith grwpiau sy'n tangofrestru.
- Mae Bil Etholiadau'r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio) yn cynnwys darpariaeth i roi pŵer creu grantiau i Weinidogion yr Alban er mwyn cynyddu gweithgareddau ymgysylltu democrataidd. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i sicrhau ein bod yn osgoi dyblygu a dryswch i sefydliadau a all fod yn dymuno gwneud cais am gyllid.
Byddwn yn parhau i ymdrin â'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth sefyll etholiad:
- Ym mis Mai 2024, gwnaethom gynnal sesiwn yng Nghaeredin gyda Bwrdd y Comisiwn Etholiadol a oedd yn canolbwyntio ar rwystrau i swyddi etholiadol. Roedd hyn yn cynnwys cyfranogwyr yn cynrychioli grwpiau o bobl a all wynebu heriau penodol, gan gynnwys bygylu, wrth sefyll etholiad. Roedd cyfranogwyr yn y sesiwn yn cynnwys rhai yn cynrychioli pobl anabl, pobl sydd wedi mudo i'r Alban, menywod a phobl drawsryweddol. Bydd hyn yn llywio trafodaethau parhaus y Bwrdd ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol y gall y Comisiwn a chymdeithas ehangach fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn.
Byddwn hefyd yn dechrau prosiect, gan gynnwys rhanddeiliaid o blith y rhai sy'n gweinyddu etholiadau cyngor yr Alban a'r rhai sy'n ymgyrchu yn yr etholiadau hynny, i nodi strategaethau i wella dealltwriaeth pleidleiswyr o system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, gyda'r nod o leihau nifer y pleidleisiau a wrthodir yn etholiadau cyngor yr Alban. Bwriadwyd dechrau'r gwaith hwn yn 2023/24 ond cafodd ei ohirio oherwydd llwyth gwaith gweinyddwyr etholiadau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau'r DU.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yn yr Alban, ac rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym wedi parhau i fod yn rhan weithredol o is-grŵp hygyrchedd y Bwrdd Rheoli Etholiadol sy'n gweithio ar strategaethau i hwyluso'r broses bleidleisio a chael gafael ar wybodaeth etholiadol berthnasol i bobl anabl yn yr Alban. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi'r gwaith o ddarparu canllawiau yn nodi amcanion byrdymor, tymor canolig a hirdymor y gymuned etholiadol yn yr Alban ar gyfer mynd i'r afael â rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl.
Yn 2023/24, rydym wedi darparu cyllid i gefnogi elusen anabledd dysgu Enable i ddatblygu adnoddau hawdd eu deall a chynllunio gweithgareddau ymgysylltu. Er i'r gwaith hwn ganolbwyntio ar gefnogi pobl i gymryd rhan yn etholiad cyffredinol y DU a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024, byddwn yn gweithio gydag Enable i adeiladu ar y gwaith hwn cyn yr etholiadau yn 2026 a 2027.
Enable Scotland
Mae pobl ag anabledd dysgu ymhlith y grwpiau sydd leiaf tebygol o gymryd rhan mewn etholiadau.
Mae gweithio mewn partneriaeth agos â'r Comisiwn Etholiadol wedi'n galluogi i ddwyn ein gwybodaeth ynghyd sydd wedi arwain at gynhyrchu deunyddiau effeithiol a phrosiect ymgysylltu gweithredol.
Adnoddau
Yn ystod 2023/24, gwnaethom ddefnyddio 99.8% o'r gyllideb o £2m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio yn bennaf, sef £1.1m (57%); mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad Senedd yr Alban at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol. Mae ein hadroddiadau cylchrannol ar dudalen 163 yn dangos y gwahaniaeth rhwng costau uniongyrchol a chostau anuniongyrchol.
Dadansoddiad cronfeydd (£000oedd)
Llywodraethu
Mae'r Comisiwn yn atebol i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban am ein gwaith at ddibenion datganoledig yn yr Alban. Rydym yn parhau i adrodd i bwyllgorau eraill mewn perthynas â'n gwaith mewn meysydd polisi gwahanol, yn fwyaf nodedig y Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus.
Ym mis Medi 2023, gwnaethom gyflwyno ein pedwerydd amcangyfrif i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban ar gyfer ariannu ein gwaith yn ystod 2024/25. Dilynodd y broses ar gyfer datblygu'r amcangyfrif y ‘Datganiad o Egwyddorion Cyllido’ y gwnaethom gytuno arno â Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Senedd y DU yn 2021.
Ym mis Medi 2023, gwnaethom gyflwyno ein pedwerydd amcangyfrif i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban ar gyfer ariannu ein gwaith yn ystod 2024/25. Dilynodd y broses ar gyfer datblygu'r amcangyfrif y ‘Datganiad o Egwyddorion Cyllido’ y gwnaethom gytuno arno â Senedd yr Alban, Senedd Cymru a Senedd y DU yn 2021.
Yn 2023/24, cyflwynodd y Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus sesiwn adrodd flynyddol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol. Roedd yn bleser gennym gyfarfod â'r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2023 ar gyfer y sesiwn gyntaf a greodd gyfle i ymgysylltu â'r Pwyllgor ar waith amrywiol y Comisiwn yn yr Alban.
Navigation
| Blaenorol |
|---|
| Adroddiad blynyddol Cymru |