Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'n gwaith ar faterion datganoledig yng Nghymru ac yn ystyried ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.

Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.

Yn sgil diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru o Senedd y DU i Senedd Cymru. Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn nodi'r trefniadau ariannu ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau datganoledig y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

Yn ystod 2023-24, canolbwyntiodd llawer o'n gwaith ar gefnogi'r rhaglen o ddiwygiadau etholiadol a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru:

  • Gwnaethom weithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddatblygu polisi.
  • Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig gynhwysfawr ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
  • Gwnaethom ymddangos gerbron Pwyllgorau'r Senedd i roi tystiolaeth ar y tri bil.

Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom ganolbwyntio ein gweithgarwch ar ein gwasanaeth cyngor a chymorth i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys gweinyddwyr etholiadau ac ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau:

  • Gwnaethom weithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a gweinyddwyr etholiadau i sicrhau bod effaith gwahaniaethau mewn systemau etholiadol o ganlyniad i ddarpariaethau a gyflwynwyd yn Neddf Etholiadau 2022 yn cael ei lliniaru.
  • Gwnaethom ddefnyddio ein fframweithiau safonau perfformiad i gefnogi a monitro Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy gydol y flwyddyn mewn perthynas ag etholiadau a chofrestru etholiadol er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael gwasanaeth cyson ac o ansawdd uchel.
  • Gwnaethom weithio gyda phleidiau i'w helpu i ddeall y rheolau newydd ynghylch argraffnodau digidol.
  • Cyflwynwyd hyfforddiant i ymgeiswyr ac asiantiaid drwy sesiynau briffio rhithwir a chynadleddau pleidiau.
  • Cyflwynwyd hyfforddiant i sefydliadau trydydd sector sy'n bwriadu ymgyrchu mewn etholiadau a gedwir yn ôl.
  • Gwnaethom weithio gyda heddluoedd yng Nghymru i ymdrin â phryderon a godwyd gan ymgeiswyr am fygylu a cham-drin yn ystod etholiadau.
  • Cyflwynwyd dwy ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleiswyr a chofrestru pleidleiswyr cyn etholiadau mis Mai 2024.

Rydym wedi parhau i ehangu ein rhaglen o waith ymgysylltu democrataidd yng Nghymru:

  • Cyhoeddwyd canllawiau i ysgolion cynradd ac uwchradd ar sut i ymgorffori addysg ddemocrataidd yn y Cwricwlwm i Gymru..
  • Lansiwyd adnodd newydd ar sut i gynnal refferendwm mewn ysgol.
  • Gwnaethom recriwtio Plant yng Nghymru fel ein partner llais ieuenctid newydd.
  • Cyflwynwyd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais i fwy na 60 o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru.
  • Gwnaethom friffio dros 20 o sefydliadau partner sy'n cefnogi'r rhai sydd leiaf tebygol o fod yn berchen ar fath o ID a dderbynnir cyn etholiadau mis Mai.

60 nifer yr ysgolion a ymrwymodd i Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.

Datblygiadau eraill yn ystod y flwyddyn

  • Ym mis Medi 2023, daeth les ein swyddfa yn Nhŷ'r Cwmnïau i ben a gwnaethom estyn ein harhosiad wrth i ni chwilio am le swyddfa arall. Gwnaethom symud i'r swyddfa newydd, Tŷ James William, ym mis Mawrth 2024. Mae'r lleoliad newydd yn cynnig lle i weithio fel tîm, potensial i gynyddu nifer y staff yn y dyfodol, ac yn ein galluogi i gynnal cyfarfodydd gyda grwpiau rhanddeiliaid amrywiol.
  • Gwnaethom ymgysylltu â Phwyllgor y Llywydd a rhoi tystiolaeth ym mis Tachwedd 2023 pan fu'n craffu ar ein hamcangyfrif cyflenwi ar gyfer 2024/25.
  • Gwnaethom gynnal cyfarfod y Bwrdd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Yn ogystal â'r cyfarfod ei hun yn y Senedd, trefnwyd rhaglen o weithgareddau partner ar gyfer aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys sesiynau gyda'r Cwnsler Cyffredinol, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a fforwm ieuenctid lleol.
  • Cynhaliodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei gwaith monitro chwemisol o gydymffurfiaeth y Comisiwn Etholiadol â Safonau'r Gymraeg. Cafodd y Comisiwn sgoriau uchel neu gymedrol yn y prawf cydymffurfiaeth ym mhob maes a brofwyd bron. Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella cydymffurfiaeth ymhellach.

Gwaith parhaus ac yn y dyfodol

  • Parhau i geisio adborth gan addysgwyr yng Nghymru er mwyn deall eu hanghenion hyfforddiant yn well. Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu fforwm athrawon er mwyn gwella darpariaeth a chysondeb addysg ddemocrataidd ledled Cymru. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd, bydd y grŵp yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth athrawon a disgyblion o bob oed cyn etholiad cyffredinol yn y DU ac etholiadau datganoledig yn 2026 a 2027.
  • Cyflwyno cynllun grant partneriaeth newydd, a fydd yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau gyda'r nod o gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r system ddemocrataidd ymhlith grwpiau sy'n tangofrestru.
  • Gweithio gyda Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru a Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru wrth iddo drawsnewid i fod yn Fwrdd Rheoli Etholiadol statudol ar ddechrau 2025.
  • Parhau i roi cyngor ar ddeddfwriaeth newydd, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r biliau a fydd yn pennu'r rheolau manwl ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026.
  • Parhau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadau, ymgeiswyr ac asiantiaid.
  • Cefnogi a gwerthuso'r gwaith o gyflwyno'r diwygiadau etholiadol newydd, megis treialu proses gofrestru awtomatig.
  • Parhau i weithio gyda llywodraethau ledled y DU a'r gymuned etholiadol ehangach i ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â seiberddiogelwch a thwyllwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phleidleiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus ynghylch pwy sy'n eu targedu a pham, fel y gallant fod yn effro i risgiau pob math o dwyllwybodaeth.

Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yng Nghymru, ac rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Cyn etholiadau mis Mai 2023, gwnaethom gynnal sesiynau briffio gyda 18 o sefydliadau sy'n cefnogi'r rhai sy'n llai tebygol o fod wedi'u cofrestru i bleidleisio a bod yn berchen ar fath o ID a dderbynnir, megis pobl anabl, pobl ddigartref a chymunedau ethnig leiafrifol. Roedd sefydliadau partner yn cynnwys Mencap Cymru, Cymorth Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r gymuned etholiadol i ystyried sut y gallwn wella hygyrchedd y broses etholiadol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiadau. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r holl ganllawiau ac adnoddau ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg, a byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau cyfieithu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Adnoddau

Yn ystod 2023/24, gwnaethom ddefnyddio 96.6% o'r gyllideb o £1.5m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio yn bennaf, sef £0.9m (60%); ac mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad y Senedd at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol. Mae ein hadroddiadau cylchrannol ar dudalen 163 yn dangos y gwahaniaeth rhwng costau uniongyrchol a chostau anuniongyrchol.

Dadansoddiad cronfeydd (£000oedd)

Llywodraethu

Mae'r Comisiwn yn atebol yn ffurfiol i Senedd Cymru, ac yn cael cyllid ganddi, mewn perthynas â'i swyddogaethau yn ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Rydym yn adrodd i Bwyllgor y Llywydd, a sefydlwyd at y diben hwn.

Ym mis Medi 2023, gwnaethom gyflwyno ein pedwerydd amcangyfrif i'r Senedd, gan alluogi Trysorlys y DU i drosglwyddo lefel y cyllid y cytunwyd arno i Gronfa Gyfunol Cymru. Roedd y broses hon yn dilyn y “Datganiad o Egwyddorion Cyllido”, y cytunwyd arno gyda'r Senedd ar ddechrau 2021.

Gwnaethom hefyd gyflwyno amcangyfrif ategol ar gyfer 2023/24 er mwyn cwmpasu dyfarniad cyflog i'r staff mewn ymateb i'r cynnydd mewn costau byw a wynebwyd ganddynt, a chostau ymdrin ag ymosodiad seiber ar y Comisiwn. Cafodd hwn ei gymeradwyo gan Bwyllgor y Llywydd ym mis Ionawr 2024.