Amcan un: Systemau cofrestru a phleidleisio hygyrch
Accessible registration and voting
Er mwyn cynnal etholiadau rhydd a theg, mae'n rhaid bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio ac yn dymuno pleidleisio yn gallu gwneud hynny.
Er mwyn cyflawni'r nod hwn, rydym yn ceisio gwneud y canlynol:
- cynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru i bleidleisio, yn enwedig ymhlith grwpiau sy'n ei chael hi'n anodd cymryd rhan yn y broses ar hyn o bryd
- dileu rhwystrau, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd bwrw eu pleidlais ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio i gyflawni'r canlyniadau hyn drwy gydweithio â llunwyr polisïau a phartneriaid eraill er mwyn nodi'r rhwystrau i gymryd rhan, a chynnig atebion. Rydym yn cynnig cymorth uniongyrchol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'r broses, drwy gynnig gwybodaeth ac adnoddau dysgu hygyrch sydd wedi'u teilwra, a gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd sydd wedi'i dargedu.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Cafwyd dros hanner miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio yn ystod ymgyrch y Comisiwn cyn etholiadau mis Mai 2023 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Cododd ymwybyddiaeth o'r angen i ddod ag ID ffotograffig a dderbynnir i'r orsaf bleidleisio o 22% i 92% rhwng y cyfnodau olrhain barn gyhoeddus cyn ac ar ôl yr etholiad yn Lloegr (ac eithrio Llundain, lle na chafodd yr ymgyrch ei chynnal am nad oedd unrhyw etholiadau).
- Gwnaethom gyhoeddi dadansoddiad interim o'r broses o roi ID pleidleiswyr ar waith ym mis Mehefin, gan ddefnyddio data gorsafoedd pleidleisio ac ymchwil i farn y cyhoedd i lywio dadl ar roi'r mesur ar waith yn y dyfodol. Nododd yr ymchwil pa gyfran o'r etholwyr wnaeth ei chael hi'n anos pleidleisio oherwydd y gofyniad newydd i ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio, a sut roedd hyn yn amrywio yn ôl demograffig.
- Yn ystod yr hydref, gwnaethom gyhoeddi adroddiadau ar etholiadau ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan asesu'r ffordd y cafodd etholiadau Mai 2023 eu cynnal. Gwnaethom gyflwyno argymhellion, gan gynnwys i wneud y gofyniad ID ym Mhrydain Fawr a'r system rhif cofrestru digidol yng Ngogledd Iwerddon yn fwy 19 hygyrch. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi'r argymhellion ynghylch ID pleidleiswyr ar waith.
- Gwnaethom weithio i baratoi pleidleiswyr, gweinyddwyr a'r gymuned etholiadol ehangach ar gyfer newidiadau pellach sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau, gan gynnwys darparu canllawiau ac adnoddau ar wneud cais am bleidlais absennol arlein ac estyn etholfraint pleidleiswyr tramor.
- Gan fod etholiadau'n cael eu cynnal ledled Lloegr ym mis Mai 2024, cynhaliodd y Comisiwn ei hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleiswyr. Cafodd yr ymgyrch hon ei lansio yng Nghymru am y tro cyntaf hefyd, gan gefnogi ymwybyddiaeth cyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
- Gwnaethom weithio gyda chynghorau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil i gefnogi pleidleiswyr sy'n llai tebygol o feddu ar fath o ID a dderbynnir, gan dynnu sylw at yr ID am ddim sydd ar gael a'u hannog i wneud cais amdano mewn pryd.
- Gwnaethom lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gofrestru pleidleiswyr, gyda'r nod o ymateb i newidiadau yn y rhwystrau i gofrestru a nodwyd gan bleidleiswyr yn ein hymchwil. Cafodd hyn ei gefnogi gan ein hymgyrch Dy Bleidlais Di a Neb Arall, sy'n codi ymwybyddiaeth o dwyll gan bleidleiswyr a beth y gall pleidleiswyr ei wneud yn ei gylch.
- Gwnaethom rannu manylion â phleidleiswyr am y rheolau newydd ynglŷn â hygyrchedd, a fyddai'n golygu bod pleidleiswyr ag anableddau yn cael mwy o ddewis o ran pwy all fynd gyda nhw i'r orsaf bleidleisio, ac y byddai mwy o gymorth ar gael iddynt.
- Gwnaethom ymestyn ein gwaith ar ‘lais ieuenctid’ drwy feithrin cydberthnasau â phartneriaid a sefydliadau ieuenctid yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn sicrhau bod ein gwaith ar gofrestru a phleidleisio yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau pobl ifanc. Ymgynghorwyd â grwpiau ieuenctid ar weithgarwch allweddol yn targedu pobl ifanc, gan roi gwybodaeth ac adborth defnyddiol.
- Gwnaeth ein gwaith yn hyrwyddo llythrennedd gwleidyddol ymhlith pobl ifanc barhau i gynyddu. Ymrwymodd mwy na 440 o ysgolion i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ym mis Ionawr, a gwnaethom gynnal digwyddiad gyda seneddwyr a phobl ifanc yn San Steffan.
- Gwnaethom barhau i gynnal cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau etholiadol annisgwyl, gan gynnwys etholiad cyffredinol Senedd y DU ac etholiad Cynlluniad Gogledd Iwerddon.
- Cyhoeddwyd adroddiadau yn dilyn etholiadau mis Mai, gan gynnwys dadansoddiad o roi ID pleidleiswyr ar waith yn barhaus.
- Parhau i annog pleidleiswyr i gofrestru gyda'n hymgyrch ar ei newydd wedd cyn etholiadau mis Mai 2024 a gwerthuso ei heffaith er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi pleidleiswyr yn y ffordd orau i gymryd rhan.
- Ehangu ymwybyddiaeth o ID pleidleiswyr cyn etholiadau mis Mai 2024 ac etholiad cyffredinol cyntaf y DU gyda'r gofyniad ar waith, drwy gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn tynnu sylw at y newid ac yn rhoi sylw i'r ffaith bod ID pleidleisiwr am ddim ar gael.
School sessions quote
Mae sesiynau fel y rhain yn bwysig oherwydd, fel arall, gallech droi'n 18 oed a heb wybod sut i bleidleisio. Gall y sgyrsiau rydym wedi'u cael heddiw helpu pobl ifanc ddeall ac ymddiddori mwy mewn pleidleisio ac etholiadau.
Dangosyddion perfformiad
| Dangosydd | Targed | 2023-24 |
|---|---|---|
| Ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol yn ystod ein hymgyrch cofrestredig pleidleiswyr | 219,592 Ar gyfer 2023-34 | 296,400 |
Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn
- Ategu'r ymgyrchoedd gan ddefnyddio adnoddau ychwanegol yn targedu grwpiau y gwyddom eu bod yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru ac sy'n wynebu rhwystrau eraill i bleidleisio. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys pobl ddigartref, pobl ag anabledd dysgu, menywod Mwslimaidd, a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Defnyddio cyfres o ddeunyddiau wedi'u teilwra i helpu pleidleiswyr Prydeinig tramor i ddeall y newidiadau i'w hetholfraint, ac annog y rhai sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio cyn etholiad cyffredinol.
- Cynhyrchu adnoddau i bleidleiswyr ar brosesau etholiadol newydd, megis gwneud cais am bleidlais absennol ar-lein a newidiadau i etholfraint pleidleiswyr tramor. Sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cyrraedd cynulleidfaoedd targed, gan geisio adborth gan sefydliadau partner.
- Sicrhau bod rhanddeiliaid yn barod am newidiadau i brosesau pleidleisio yn sgil y Ddeddf Etholiadau, drwy adnoddau a chanllawiau clir a chywir.
- Diweddaru a chyhoeddi 500 o ffurflenni i bleidleiswyr er mwyn cydymffurfio â holl ofynion y Ddeddf Etholiadau.
- Parhau i rannu gwybodaeth i bleidleiswyr cyn etholiad cyffredinol, gan gynnwys drwy waith gyda'r cyfryngau a swyddogaethau gwybodaeth gyhoeddus y Comisiwn.
- Cynyddu dealltwriaeth a chyfranogiad ymhlith pobl ifanc drwy gynnal yr Wythnos Croeso i Dy Bleidlais flynyddol nesaf ledled y DU, gan gynyddu nifer yr ysgolion a'r grwpiau ieuenctid sy'n cofrestru.
- Annog sefydliadau newyddion i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein i ddarparu gwybodaeth am etholiadau a lleoliadau gorsafoedd pleidleisio yn uniongyrchol i'w darllenwyr a'u tanysgrifwyr.
United response quote
Mae'r bobl rydym yn eu cefnogi wedi ymgyrchu dros system bleidleisio fwy hygyrch am flynyddoedd lawer ac maent yn ymfalchïo yn eu hawl i bleidleisio. Roedd yn bleser gennym gefnogi ymgyrch y Comisiwn Etholiadol ar gofrestru pleidleiswyr sy'n ymgorffori'r ysbryd hwn ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl ag anabledd dysgu nag erioed i gofrestru i bleidleisio.
440 nifer yr ysgolion a ymrwymodd i Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2024