Amcan dau: Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau

Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau

Rhan hanfodol o'r broses ddemocrataidd yw sicrhau bod ymgyrchwyr yn gallu cyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr.

Rhaid i ymgyrchwyr, gan gynnwys pleidiau, allu cyfathrebu â'r pleidleiswyr i esbonio eu safbwyntiau a'u polisïau, fel bod gan bleidleiswyr y wybodaeth angenrheidiol pan fyddant yn pleidleisio. Mae'n bwysig bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang o ymgyrchwyr.

Rydym yn gweithio i wella tryloywder ymgyrchu gwleidyddol, ac i helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, drwy wneud y canlynol:

  • sicrhau y gall ymgyrchwyr gael gafael ar gymorth i ddeall y gyfraith yn y ffordd ac ar yr adeg sy'n gweithio orau iddynt
  • sicrhau y caiff cyfreithiau cyllid gwleidyddol eu gorfodi'n deg, gan weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a rheoleiddwyr eraill i gefnogi eu gwaith mewn meysydd y tu hwnt i'n cylch gorchwyl cyfreithiol
  • cyhoeddi data cyllid gwleidyddol cyflawn a chywir
  • helpu ymgyrchwyr a seneddau i ddeall y ffordd y mae dulliau ymgyrchu'n effeithio'n uniongyrchol ar hyder pleidleiswyr mewn etholiadau.

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • O ganlyniad i'r Ddeddf Etholiadau ac yn dilyn cyfnod o waith ymgynghori ac ymgysylltu agos â rhanddeiliaid a'r gymuned ymgyrchu, gwnaethom ddatblygu canllawiau statudol newydd ar godau ymarfer i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
  • Gwnaethom greu canllawiau statudol ar y rheolau newydd ynglŷn ag argraffnodau digidol, er mwyn sicrhau y gallai'r gymuned a reoleiddir ddeall yn glir pryd a sut y caiff y gofynion eu cymhwyso. Gwnaethom hefyd gynnal gweminarau i bleidiau gwleidyddol er mwyn rhoi llwyfan ar gyfer eu cwestiynau, ac rydym wedi creu cyfleuster ar-lein i'r cyhoedd gyflwyno deunydd digidol nad yw'n cynnwys argraffnod er mwyn cadarnhau a yw'n cydymffurfio â'r rheolau ai peidio.
  • Gwnaethom gynnal gweminarau cyn etholiadau er mwyn esbonio'r gyfraith, yn ogystal â chymorthfeydd cynghori rhithwir i ymgeiswyr ac asiantiaid drafod materion penodol ag un o'n cynghorwyr arbenigol. Gwnaethom gynnig cymorthfeydd cynghori rhithwir pellach cyn y terfyn amser ar gyfer adrodd, er mwyn rhoi cymorth ymarferol a pharhaus mewn perthynas â ffurflenni gwariant.
  • Gwnaethom gyflwyno bwletin newydd i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ac un ar gyfer y rhwydwaith o bwyntiau cyswllt unigol yr heddlu, er mwyn cefnogi ymgysylltiad â'r rhanddeiliaid allweddol hyn. Gwnaethom hefyd gynnal seminar ar gyfer pwyntiau cyswllt unigol yr heddlu, gan ganolbwyntio ar newidiadau o'r Ddeddf Etholiadau, a gwnaethom barhau i gyfrannu at y cyrsiau hyfforddiant achrededig i swyddogion yr heddlu ar gyfraith etholiadol, a'u cefnogi.
  • Yn dilyn ymgynghoriad â'r sector, daeth Polisi Gorfodi diwygiedig y Comisiwn i rym ym mis Medi, er mwyn darparu'r sail ar gyfer y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau gorfodi.
  • Gwnaethom barhau i eirioli dros welliannau i reolaethau ar roddion i bleidiau gwleidyddol er mwyn atal bygythiad ymyrraeth o dramor a gwella canfyddiad y cyhoedd o dryloywder gwleidyddol.
  • Gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau er mwyn adlewyrchu newidiadau i'r gyfraith a gynyddodd y terfynau gwariant a'r trothwy adrodd, yn ogystal ag eithrio treuliau sy'n ymwneud â diogelwch o'r rheolau ar wariant.
  • Gwnaethom adolygu canllawiau i ymgeiswyr ar fygylu ac aflonyddu, wedi'u datblygu ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Coleg Plismona. Adolygwyd canllawiau tebyg ar y cyd â Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon eleni hefyd.
  • Gwnaethom gyflwyno canllawiau ar gyfer mis Mai 2024, gan ddefnyddio adborth gan bleidiau ac ymgyrchwyr i sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu deall.

Member of the regulated community

Mae eich cyngor wedi bod yn ddefnyddiol dros ben. Rwy'n ddiolchgar am ba mor gyflym y gwnaethoch ymateb i fy ymholiad... roedd hyn yn ddefnyddiol iawn ac yn rhoi tawelwch meddwl!

Aelod o'r gymuned a reoleiddir

Dangosyddion perfformiad

DangosyddTarged2023-24
Cyhoeddi adroddiadau ar roddion a benthyciadau a gafwyd erbyn y terfyn amser statudol100%100%
Cyhoeddi datganiadau o gyfrifon o fewn 60 diwrnod gwaith100%100%
Datblygu ymchwiliadau a dod i gasgliad yn eu cylch mewn modd amsero90%94.12%
Cyhoeddi hysbysiadau / cyhoeddi penderfyniadau ar sancsiynau (hysbysiadau terfynol) yn dilyn y cyfnod cyflwyno sylwadau90%100%
Cyhoeddi canlyniadau ceisiadau i gofrestru pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn modd amserol (ar gyfer manylion newydd a newid manylion)1 90%80.81%
Ymateb yn amserol i geisiadau am gyngor rheoleiddiol ar adrodd ariannol90%96.68%
Darparu cynhyrchion/adnoddau canllawiau rheoleiddio i gefnogi cydymffurfiaeth â'r gyfraithDd/G26
Ymholiadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchion canllawiau sy'n helpu i nodi meysydd presennol a/neu newydd i'r canllawiau sy'n rhoi eglurder ychwanegol ynghylch y gyfraith100%100%

Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn

  • Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth a dealltwriaeth o'r rheolau yn y gymuned a reoleiddir, byddwn yn parhau i gynnig gweminarau a chymorthfeydd cynghori. Rydym yn defnyddio adborth a gesglir o'r digwyddiadau hyn i deilwra ein cymorth, ein cyngor a'n negeseuon ar gyfer pob etholiad.
  • Darparu bwletinau i bleidiau ac ymgyrchwyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn etholiad cyffredinol, gan ddarparu canllawiau a chyngor ychwanegol gyda'r nod o ddiwallu anghenion rhanddeiliaid drwy gydol yr ymgyrch.
  • Cwblhau ceisiadau cofrestru pleidiau mewn da bryd er mwyn rhoi tryloywder i bleidleiswyr ynghylch y pleidiau sy'n gymwys i gyflwyno ymgeiswyr. Byddwn yn parhau i wneud hynny hefyd drwy gwblhau ymchwiliadau fel bod gan bleidiau ac ymgyrchwyr eglurder o ran eu cydymffurfiaeth â chyfreithiau cyllid gwleidyddol.
  • Cyhoeddi gwybodaeth ariannol yn ystod ac ar ôl etholiad cyffredinol, gan gynnwys rhoddion cyn etholiadau a ffurflenni gwariant er mwyn sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw.
  • Monitro'r broses o roi'r system argraffnodau digidol ar waith, a'i heffaith ar hyder y cyhoedd mewn ymgyrchu.
  • Parhau i fonitro a thrafod â rhanddeiliaid y defnydd o ddulliau newydd o ymgyrchu gwleidyddol, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg newydd, a gweithio i ddeall yr effaith ar hyder pleidleiswyr
  • Parhau i gyflwyno achos dros ddiwygio cyfreithiau cyllid gwleidyddol er mwyn sicrhau bod y system wedi'i hamddiffyn yn well yn erbyn dylanwad tramor posibl ac i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr.

Feedback from a user of the advice service

Roedd y cyfarfod [gyda'r Comisiwn] yn ddefnyddiol iawn. Rhoddodd ddealltwriaeth wirioneddol i ni o'r rheolau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a ph'un a oes angen i ni gofrestru ai peidio.

Adborth gan ddefnyddiwr y gwasanaeth cynghori