Gweithgarwch galluogi un: Annibyniaeth ac uniondeb
Mae'r system etholiadol yn dibynnu ar y Comisiwn Etholiadol yn gweithredu fel corff annibynnol amhleidiol, ac felly rydym yn gosod safonau uchel iawn i'n hunain o safbwynt ein huniondeb.
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y cawn ein parchu am ein harbenigedd, a bod ein cyngor a'n penderfyniadau yn rhydd rhag tuedd. O ystyried ein rôl unigryw, mae angen i'n huniondeb fod yn glir ac yn amlwg yn yr hyn a wnawn. Rydym yn dangos annibyniaeth ac uniondeb drwy wneud y canlynol:
- gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny
- seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar ddadansoddiad o'r dystiolaeth
- cyfleu ein gwaith a'n barn yn effeithiol
- darparu gwasanaethau ymatebol i'r rhai rydym yn eu cefnogi
- ceisio cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Gwnaethom gyhoeddi gwybodaeth bob mis am ymchwiliadau sydd wedi dirwyn i ben, gan ddarparu tryloywder a helpu i hyrwyddo cydymffurfiaeth.
- Gwnaethom roi briffiau cywir a diduedd i seneddwyr er mwyn eu helpu i ystyried elfennau o'r Ddeddf Etholiadau. Gwnaethom hefyd weithio'n agos gyda swyddogion yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i'w helpu i feddwl am fanylion is-ddeddfwriaeth
- Gwnaethom ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, seneddwyr, gweinyddwyr a'r gymuned a reoleiddir, gan roi gwybodaeth a chyngor ar y system etholiadol a chyfranogiad democrataidd.
- Cawsom 182 o geisiadau rhyddid gwybodaeth. Rydym yn anelu at ymateb i 90% o geisiadau o fewn yr amserlen statudol o 20 diwrnod gwaith, a'r flwyddyn hon gwnaethom ymateb i 90.9% o fewn yr amserlen honno. Gofynnwyd i ni gynnal adolygiadau mewnol o'n hymateb i saith cais rhyddid gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ac ymatebwyd i bob un o'r rhain o fewn y r amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Ar 8 Awst 2023, cyhoeddodd y Comisiwn ei fod wedi dioddef ymosodiad seiber soffistigedig. Yn unol â gofynion diogelu data, cyhoeddwyd hysbysiad cyhoeddus ar 36 ein gwefan i roi gwybod i aelodau o'r cyhoedd y gallai eu gwybodaeth fod wedi cael ei chyrchu, a chyhoeddwyd hysbysiad ar wahân i staff y Comisiwn a Chomisiynwyr. Cyhoeddwyd dogfen cwestiwn ac ateb hefyd a gwybodaeth am ffyrdd o gysylltu â'r Comisiwn ag unrhyw bryderon neu gwestiynau.
- Cawsom 415 o geisiadau am fynediad at ddata gan y testun a 64 o geisiadau i ddileu o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Oherwydd y niferoedd mawr, ymatebwyd i 6.79% o fewn yr amserlen ymateb statudol, sef un mis calendr. Roedd ffigurau'r ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun a cheisiadau hawl i ddileu yn sylweddol uwch o ganlyniad i'r cyhoeddiad am yr ymosodiad seiber ar y Comisiwn.
- Gwnaethom ymdrin ag 13 o gwynion, o gymharu â 28 yn 2022/23. O blith y rhain, roedd un yn dal i gael ei hystyried ar ddiwedd y flwyddyn. O blith y rhai a gwblhawyd, ni chafodd 12 eu cadarnhau.
- Ymatebodd ein gwasanaeth gwybodaeth cyhoeddus dynodedig i 14,699 o ymholiadau gan y cyhoedd yn ystod y flwyddyn, a gafwyd dros y ffôn, drwy'r post a thrwy e-bost. Drwy'r gwasanaeth hwn, gwnaethom ateb cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ID pleidleiswyr, cofrestru pleidleiswyr a phleidleisio drwy'r post. Gwnaethom hefyd ymateb i 71,950 o ymholiadau a gafwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Gwnaethom ymateb i 36 o gwestiynau seneddol yn San Steffan yn ystod 2023/24, gan gynnwys cwestiynau am ID pleidleiswyr – megis pleidleiswyr yn cael eu gwrthod ac effaith hyn ar grwpiau demograffig penodol – rheoleiddio cyllid gwleidyddol, terfynau gwariant a chamwybodaeth.
- Cat Smith AS ac Owen Thompson AS, aelodau o Bwyllgor y Llefarydd, oedd ein llefarwyr yn Senedd y DU ac a atebodd gwestiynau ar ein rhan yn ystod y flwyddyn.
Dangosyddion perfformiad
| Dangosydd | Targed | 2023-24 |
|---|---|---|
| Ymatebion amserol1 i ymholiadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol | 100% | 100% |
| Ymatebion amserol i ymholiadau gan y cyhoedd drwy alwadau, llythyrau a negeseuon e-bost | 100% | 99.12% |
| Ymatebion amserol i geisiadau dilys am fynediad at ddata gan y testun1 | 100% | 6.79% |
| Ymatebion amserol i geisiadau rhyddid gwybodaeth | 90% | 90.9% |
Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn
- Byddwn yn rhoi sylw priodol i Ddatganiad Polisi a Strategaeth Llywodraeth y DU, ynghyd â'r holl ystyriaethau perthnasol eraill, a byddwn yn adrodd ar sut rydym wedi gwneud hynny i Bwyllgor y Llefarydd. Byddwn yn parhau i weithredu'n annibynnol ac yn dryloyw a byddwn yn atebol i'r Senedd, gan sicrhau ein bod yn cyfrannu at hyder y cyhoedd yn y system ddemocrataidd.
- Cyhoeddi adroddiadau ar ôl etholiad ar gyfer etholiadau mis Mai 2024 ac etholiad cyffredinol sy'n rhoi asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o'r ffordd y cawsant eu cynnal ac sy'n defnyddio'r dystiolaeth i wneud argymhellion ar gyfer gwella.
- Parhau i ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd, cywir ac amserol i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys pleidleiswyr. Mae pobl yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol yn arbennig, felly bydd lefelau staffio yn barod i adlewyrchu hynny.
- 1. O fewn yr amserlen darged ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Roedd nifer y ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun yn sylweddol uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y cyhoeddiad cyhoeddus bod y Comisiwn wedi bod yn destun ymosodiad seiber cymhleth, ac nad adroddwyd arno yn ystod y flwyddyn ariannol lawn. ↩ Back to content at footnote 2