Mae angen i'n system etholiadol ddilyn datblygiadau mewn technoleg ac yn yr amgylchedd ehangach.

Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau mwy o gydymffurfiaeth, tryloywder a'r arbedion ariannol y gall technoleg eu cynnig, gan weithio i gynnal hyder pleidleiswyr yn y system etholiadol. Mae angen i ni hefyd foderneiddio'r system etholiadol er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Byddwn yn gweithio tuag at gyflawni system etholiadol fodern a chynaliadwy drwy wneud y canlynol:

• manteisio ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadau
• deall y risgiau newidiol i'r system etholiadol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, galw am weithredu arnynt, a gweithredu arnynt ein hunain
• parhau i feithrin cydberthnasau cadarn a symleiddio arferion gwaith gyda phob corff sy'n rhan o'r system etholiadol
• cefnogi llywodraethau a'r gymuned etholiadol ehangach i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy'n cyrraedd y safonau amgylcheddol sy'n ofynnol gan ein system etholiadol.

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • Yn ogystal â rhoi cyngor arbenigol a chynnig argymhellion i wella'r system gyfredol, gwnaethom barhau i archwilio dichonoldeb moderneiddio'r broses bleidleisio.
  • Gwnaethom gwblhau a chyhoeddi astudiaethau dichonoldeb ar amrywiaeth o opsiynau pleidleisio hyblyg, gan esbonio sut y gellid rhoi ffyrdd newydd o bleidleisio ar waith.
  • Gwnaethom gyhoeddi ein gwaith ymchwil diweddaraf ar gywirdeb a chyflawnrwydd, gan ddangos nad yw hyd at 8 miliwn o bobl ledled y DU wedi'u cofrestru i bleidleisio'n gywir. Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaethom nodi astudiaethau achos yn dangos sut y gellid moderneiddio'r system cofrestru etholiadol drwy ddefnyddio dulliau cofrestru mwy awtomatig. Mae'r ymchwil hon yn cefnogi ein galwadau am brosesau cofrestru mwy awtomataidd.
  • Rydym wedi gweithio i sicrhau bod yr adroddiadau a'r data rydym yn eu cyhoeddi yn hawdd eu defnyddio ac yn rhyngweithiol, fel y gall darllenwyr eu deall a'u defnyddio'n hawdd.
  • Gwnaethom barhau i fuddsoddi amser ac adnoddau mewn meithrin cydberthnasau â rheoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill, er mwyn deall eu safbwyntiau a nodi cyfleoedd i gydweithio.
  • Byddwn yn monitro, yn cynghori ac yn cefnogi diwygiadau etholiadol ledled y DU a thu hwnt.

Nid yw hyd at 8 miliwn o bobl ledled y DU wedi'u cofrestru i bleidleisio'n gywir (Mawrth 2023).

Dangosyddion perfformiad

DangosyddTarged2023-24
Bodloni gofynion deddfwriaeth amgylchedd gyfredol ac sy'n datblygu neu newyddDd/G – Caiff hyn ei ddatblygu pan gyhoeddir targed Llywodraeth y DUDd/G

Bwriedir i'r dangosydd hwn helpu'r Comisiwn i fesur ei effaith amgylcheddol ac adrodd arni, ac i fodloni ei ofynion mewn perthynas â deddfwriaeth amgylcheddol gyfredol a newydd. Caiff targedau a llinell sylfaen eu datblygu yn ystod tair blynedd gyntaf y cynllun corfforaethol, yn dibynnu ar dargedau cyhoeddedig y llywodraeth.

Electoral Reform Society

Rydym yn cytuno'n llwyr â dadansoddiad y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'n system cofrestru etholiadol sydd wedi dyddio. Rydym wedi bod yn galw am ddiwygiadau ers tro er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi'u cofrestru i bleidleisio. Rydym yn credu mai cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, lle caiff dinasyddion eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr etholiadol yn seiliedig ar wybodaeth a ddelir eisoes ar gronfeydd data eraill y llywodraeth, yw'r dull gweithredu gorau.

Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, yn ymateb i'n gwaith ymchwil ar gywirdeb a chyflawnrwydd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023

Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn

  • Parhau i weithio gyda rheoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill i ddeall eu safbwyntiau a meysydd posibl i gydweithio fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar faterion sy'n ymwneud â chynnal etholiadau, ymgyrchu a hyder yn y system cyllid gwleidyddol.
  • Parhau i fonitro materion sy'n effeithio ar etholiadau ac ymgyrchoedd modern, gan gynnwys technoleg sy'n dod i'r amlwg, megis deallusrwydd artiffisial.
  • Parhau i ddefnyddio ein gwaith ymchwil ar gywirdeb a chyflawnrwydd i eirioli dros system fwy modern ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, yn enwedig yng ngoleuni nifer y bobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir ar hyn o bryd.