Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y system etholiadol, gan sicrhau uniondeb etholiadau a dilysrwydd eu canlyniadau.

Yn ei ystyr ehangaf, rydym yn gweithio i reoleiddio’r system etholiadol. Yn ystod oes y Cynllun Corfforaethol hwn, bydd ein gwaith craidd yn parhau i gefnogi pleidleiswyr, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, y gymuned reoledig ehangach, a thimau gwasanaethau etholiadol lleol.

Bydd hyn yn cynnwys cyflawni ein dyletswydd statudol i adrodd a yw etholiadau’n cael eu cynnal yn dda, gan wneud argymhellion a fyddai’n gwella etholiadau yn y dyfodol.

The Electoral Commission at a glance

Ein gweledigaeth yw...

Democratiaeth deg sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Ein cymhelliant

Ar gyfer y pleidleisiwr. Mae pleidleiswyr wrth galon ein democratiaeth ac maent yn ganolog i’n gwaith. Mae popeth a wnawn er mwyn helpu pobl i ymddiried, gwerthfawrogi a chymryd rhan mewn etholiadau.

Gwerthoedd

Cynnwys pawb

Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y system etholiadol, ac arwain drwy esiampl. Rydyn ni’n rhoi pleidleiswyr yn gyntaf a cheisio bod yn hygyrch i bawb.

Arbenigedd effeithio 

Rydyn ni’n annibynnol ac yn wleidyddol ddiduedd, gan ddefnyddio data i gynghori, hysbysu a sbarduno cynnydd. Rydym yn darparu gwybodaeth glir sy’n cefnogi penderfyniadau.

Agored ac ymgysylltiol 

Rydyn ni’n meithrin ymddiriedaeth drwy ein cyfathrebu clir a’n pobl agosatoch ac angerddol. Cyfrifol, cymesur a theg, mae ein geiriau’n cael eu cefnogi gan weithredoedd. 

Unedig mewn uchelgais

Rydym yn aelod da o dîm, yn cefnogi a gweithio gydag eraill i gyflawni’r gorau i bleidleiswyr ac ymgeiswyr. Rydym yn rhagweithiol ac yn adeiladol gyda’r rheini rydyn ni’n eu rheoleiddio.

Ein blaenoriaethau

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn seiliedig ar brofiadau blaenorol, a’n dealltwriaeth o heriau nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi defnyddio gwybodaeth, data a thystiolaeth o’n gwaith craidd, ac wedi gwrando ar ein rhwydwaith eang o randdeiliaid. Mae’r mewnwelediadau a’r sgyrsiau hyn wedi siapio’r pum blaenoriaeth ganlynol:

  1. Cefnogi pleidleiswyr a chynyddu cyfranogiad
  2. Moderneiddio’r system etholiadol
  3. Diogelu ac amddiffyn y system
  4. Arwain dadl wybodus am ddyfodol etholiadau
  5. Cryfhau’r Comisiwn Etholiadol

Cyfrifoldebau ac atebolrwydd

Mae gennym gyfrifoldebau ar draws y DU, ac rydym yn atebol i Senedd y DU, Senedd yr Alban a’r Senedd. Mae Pwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol yn ystyried y cynllun hwn cyn cael ei gyflwyno yn Senedd y DU. Byddwn yn datblygu cynllun ar wahân ar gyfer Cymru, a fydd yn cael ei gyflwyno yn y Senedd yn 2026/27. Os rhoddir Cydsyniad Brenhinol i Fesur Etholiadau’r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio), byddwn yn datblygu cynllun ar wahân ar gyfer Yr Alban, a fydd yn cael ei gyflwyno yn Senedd yr Alban yn 2026/27.

 

Ein gwaith craidd

Pleidleiswyr

  • Byddwn yn gweithio i roi hyder i bleidleiswyr bod etholiadau’n rhydd, yn deg ac yn cael eu gweinyddu’n dda, a bod deddfau cyllid gwleidyddol yn cael eu cynnal. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut mae’r system etholiadol yn gweithio, gyda’r nod o roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bleidleiswyr i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd yn hyderus. Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd i annog pobl i gofrestru i bleidleisio, i godi ymwybyddiaeth o’r gofyniad ynghylch dulliau adnabod pleidleiswyr ac i fynd i’r afael â thwyll.
  • Byddwn yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall y materion y mae grwpiau anodd eu cyrraedd a grwpiau sydd wedi tan-gofrestru yn dod ar eu traws.
  • Gan weithio gyda’r Clwb Democratiaeth a chynghorau lleol, byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth am etholiadau sy’n benodol i godau post er mwyn galluogi pleidleiswyr i gael gwybod pa etholiadau sy’n cael eu cynnal, pwy sy’n sefyll, a ble i bleidleisio. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan y Clwb Democratiaeth ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n bwriadu dod ag ef yn fewnol yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol hwn i sicrhau ei fod yn gynaliadwy a sicrhau mwy o werth am arian. Byddwn yn gweithio gyda mudiadau cymdeithas sifil a chynghorau lleol i gefnogi grwpiau sydd wedi eu tan-gofrestru ac sy’n anodd eu cyrraedd.
  • Byddwn yn parhau i geisio dileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cofrestru neu fwrw eu pleidlais. Mae rhai pobl naill ai’n cael eu heithrio neu’n eithrio eu hunain, a byddwn yn parhau i eirioli dros welliannau i’r system i sicrhau ei fod yn gweithio i bob pleidleisiwr.
  • Byddwn yn mynd ar drywydd argymhellion a wnaed yn dilyn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024, gan gynnwys diwygio systemau pleidleisio drwy’r post a thramor, ac yn gweithio i sicrhau hygyrchedd y gofyniad ynghylch dulliau adnabod pleidleiswyr.

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a’r gymuned reoledig ehangach

  • Byddwn yn rheoli’r broses o gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr di-blaid, gan gynnal y cofrestrau statudol.
  • Byddwn yn gweithio i sicrhau lefelau uchel o gydymffurfio a thryloywder wrth adrodd ar gyllid ymgyrchoedd ac argraffnodau digidol, gan gymryd camau rheoleiddio neu orfodi priodol pan fo angen.
  • Byddwn yn gweithio gyda heddluoedd ac asiantaethau eraill i ddiogelu uniondeb etholiadau, gan fonitro a lliniaru bygythiadau a risgiau.
  • Byddwn yn defnyddio ymchwil, monitro a gwerthuso i ddarparu tystiolaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol, a defnyddio hyn i hysbysu ein blaenoriaethau rheoleiddiol ein hunain ac eraill, gan gynnwys llywodraethau a rheoleiddwyr eraill.
  • Byddwn yn darparu canllawiau statudol i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, gan eu cefnogi i sefyll mewn etholiad a nodi safbwyntiau gwleidyddol clir i bleidleiswyr ddewis ohonynt. Byddwn yn mynd ar drywydd ein hargymhelliad a wnaed yn dilyn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 y dylid cryfhau’r gofynion a’r gwiriadau ar gyfer enwebu ymgeiswyr, gan ei gwneud yn anoddach i ymgeiswyr gamarwain pleidleiswyr ar eu gwir hunaniaeth.

Timau gwasanaethau etholiadol lleol 

  • IMewn partneriaeth â thimau gwasanaethau etholiadol lleol, byddwn yn gweithio i sicrhau bod etholiadau a refferenda rhydd a theg yn cael eu darparu.
  • Byddwn yn gosod, yn monitro ac yn adrodd ar safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (RO) er mwyn sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cyrraedd yn gyson.
  • Byddwn yn darparu tystiolaeth a gwybodaeth i lywodraethau’r DU i hysbysu’r gwaith o wella’r system etholiadol yn y dyfodol, gyda’r nod o gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu rôl hollbwysig.
  • Byddwn yn defnyddio ein pŵer statudol i ddarparu canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ERO) a Swyddogion Canlyniadau (RO) i’w cefnogi i ddarparu gwasanaethau etholiadol sy’n cael eu cynnal yn dda.
  • Byddwn yn parhau i gefnogi gweinyddwyr etholiadol i addasu i’r dull mwyfwy amrywiol o ddarparu etholiadau, sydd wedi deillio o ddatganoli ac anghenion newidiol pleidleiswyr.
  • Byddwn yn mynd ar drywydd argymhellion a wnaed yn dilyn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i ymwybyddiaeth o’r cymorth mynediad mewn gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys ar gardiau pleidleisio a thrwy wefannau awdurdodau lleol.

Yn sail i’r gwaith hwn 

Rydym yn ceisio cynnal sefydliad sy’n cael ei redeg yn dda, wedi’i gefnogi gan y seilwaith dibynadwy sydd ei angen i gyflawni ein gwaith craidd. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pob gweithgaredd yn cynrychioli gwerth am arian. Byddwn yn defnyddio mwy a mwy o ddata a thechnoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol, i gefnogi ffyrdd effeithiol o weithio. Byddwn yn parhau i ddysgu o’n profiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol. 

Byddwn yn parhau i broffesiynoli ein gweithlu – gan recriwtio, cadw staff a datblygu sgiliau ein tîm – a sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu’r ystod eang o gymunedau rydym yn bodoli i’w gwasanaethu. Byddwn yn gwreiddio ein gwerthoedd craidd, gan greu diwylliant bywiog, cynhwysol, amrywiol sy’n cael ei yrru gan berfformiad ac sy’n galluogi ein holl staff i lwyddo. Bydd hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pob cyfranogwr yn y system etholiadol. Rydym yn falch o fod wedi ymrwymo i’r Siarter Hil yn y Gwaith a’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, a byddwn yn parhau i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i gyflawni ein hymrwymiadau amrywiaeth

Gogledd Iwerddon

Mae’r Cynllun Corfforaethol hwn yn nodi ein gwaith a ariennir gan Senedd y DU. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys paratoadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol Gogledd Iwerddon a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd i fod i gael eu cynnal ym mis Mai 2027. Yn ystod oes y Cynllun Corfforaethol hwn, byddwn yn parhau i roi cymorth i bleidleiswyr, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, y gymuned reoledig ehangach, a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI). Yn ogystal â gweithredu’r safonau sy’n ymwneud â Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022, mae nifer o heriau penodol i Ogledd Iwerddon, ac rydym hefyd yn ceisio mynd i’r afael â’r rhain.

O leiaf unwaith bob 10 mlynedd, rhaid i Brif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon, yn ôl y gyfraith, ganfasio, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n gymwys wneud cais i gofrestru i bleidleisio, hyd yn oed os ydynt eisoes wedi 
cofrestru. Mae’r broses bresennol yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig oherwydd yr adnoddau sydd eu hangen i gysylltu â phob pleidleisiwr cymwys, hyd yn oed pan nad yw eu manylion wedi newid. Gan weithio gydag EONI byddwn yn parhau i bwysleisio’r angen am ddiwygio prosesau ymhell cyn y canfasio gofynnol yn 2030. Ein nod yw gwella cywirdeb a chyflawnder y gofrestr etholiadol, sydd yn hanfodol i gynnal uniondeb etholiadau yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon yn cael Rhif Cofrestru Digidol (DRN) pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio ar-lein am y tro cyntaf. Mae EONI yn defnyddio’r rhif unigryw hwn i wirio pwy yw pleidleiswyr pan fyddant yn gwneud cais am naill ai bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Er bod prosesau wedi cael eu symleiddio’n ddiweddar, rydym yn dal yn bryderus bod rhai pleidleiswyr yn dal i wynebu rhwystrau o ran mynediad. Byddwn yn parhau i weithio gydag EONI i sicrhau bod y broses DRN yn hygyrch i bob pleidleisiwr, a byddwn yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi’u targedu i hysbysu grwpiau anodd eu cyrraedd ac sydd wedi tan-gofrestru. Byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos dros adolygiad ehangach o’r broses pleidleisio absennol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae seddi gwag yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac 11 cyngor lleol yn cael eu llenwi drwy broses o’r enw ‘cyfethol’. Yn hytrach na chynnal is-etholiad, mae swyddog enwebu plaid wleidyddol yn llenwi’r sedd wag sy’n cael ei chreu gan ymddiswyddiad neu farwolaeth un o’u haelodau. Y rheswm am hyn yw bod yr etholiadau hyn yn defnyddio’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, felly mae cyfethol ar waith i sicrhau bod dewis yr etholwyr yn yr etholiad blaenorol yn parhau i gael ei adlewyrchu. Rydym yn poeni bod cyfethol yn dileu dewis democrataidd y pleidleiswyr ac yn lleihau tryloywder.

Mae’r mater hwn yn debygol o gael ei waethygu yn 2027 pan fydd etholiadau’r Cynulliad a llywodraeth leol i fod i gael eu cynnal. Gallai ‘rhestr dirprwyon’ a ddarperir gan ymgeiswyr adeg yr enwebu fod yn un ateb posibl i’r mater hwn. Cyn etholiadau 2027, byddwn yn ymgysylltu gyda Llywodraeth y DU a phleidiau gwleidyddol i gynnal uniondeb a hyder yn y broses etholiadol.

Yn y pen draw, rydym am sicrhau mwy o gysondeb rhwng prosesau etholiadol yng Ngogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, gyda gwahaniaethau yn bodoli am reswm da yn unig, neu yng ngoleuni amgylchiadau gwleidyddol unigryw Gogledd Iwerddon. Mae pethau y gallwn eu dysgu o brosesau ar ddwy ochr Môr Iwerddon, ond y nod yw sicrhau bod pob pleidleisiwr yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau beth bynnag fo’r lleoliad.