Fel rhan o’n gwaith i gyflawni pob un o’n blaenoriaethau, rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pob pleidleisiwr, ymgyrchydd a phartner cymwys i gymryd rhan yn ein democratiaeth yn gyfartal. Rydym yn deall y gall amrywiaeth o rwystrau i gyfranogiad effeithio ar brofiad pobl o gyfranogiad democrataidd.

Rydym yn hyderus y bydd mynd i’r afael ag achosion anfantais yn gwella cydraddoldeb a thegwch, ac yn cynyddu cyfranogiad a dewis democrataidd. Mae mynd i’r afael â rhwystrau i gyfranogiad democrataidd yn hanfodol i’n gwaith, a’n huchelgais yw edrych y tu hwnt i’n rhwymedigaethau statudol.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn datblygu dulliau ymchwil i asesu effeithiau cydraddoldeb ar wahanol grwpiau o bleidleiswyr ac ymgyrchwyr wrth werthuso iechyd y system ddemocrataidd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio i ddeall yn well yr effeithiau ac anfanteision cyfansawdd y gallai rhai pobl eu hwynebu. Byddwn yn gweithredu’r safonau sy’n ymwneud â Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022, gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol rhanbarthol.