12. Ein trefniadau llywodraethu
Ein trefniadau llywodraethu
Cawn ein harwain gan Fwrdd o Gomisiynwyr, sy’n pennu’r cyfeiriad strategol ac sy’n gyfrifol am ein gwaith. Mae’r Bwrdd yn cynnwys deg Comisiynydd, y mae’r Cadeirydd yn un ohonynt. Penodir tri o’r Comisiynwyr i gynrychioli Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r Comisiynwyr hyn yn rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â’r tair gwlad hyn. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar effaith ein gwaith ac mae Bwrdd y Comisiwn yn ymgynghori â nhw ar faterion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Enwebir pedwar o’r Comisiynwyr gan arweinwyr pleidiau gwleidyddol: un gan y blaid sydd â’r nifer mwyaf o ASau yn Senedd y DU, dau arall gan yr ail a’r drydedd blaid fwyaf, ac un gan y pleidiau gwleidyddol eraill sydd â dau neu fwy o ASau a etholwyd ac sydd wedi dechrau ar eu gwaith fel ASau yn Senedd y DU. Nid oes gan y ddau Gomisiynydd sy’n weddill gyfrifoldeb penodol, sy’n golygu eu bod ar gael i gynnig eu harbenigedd a’u profiad i feysydd gwaith ar gyfer y Comisiwn yn ôl yr angen. Penodir pob Comisiynydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines, ar gynnig Senedd y DU.
Fel rhan o’r Fframwaith Corfforaethol mae gan y Bwrdd ddau isbwyllgor: y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol. Cadeirir y ddau gan Gomisiynwyr.
Ochr yn ochr â Bwrdd y Comisiynwyr, rydym hefyd yn ymgynghori’n rheolaidd â’r Panel Pleidiau Seneddol i Gymru, a Phaneli cyfatebol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe’u sefydlwyd er mwyn i bleidiau gwleidyddol roi adborth i ni ar faterion sy’n effeithio arnynt. Rydym hefyd yn ymgynghori â grwpiau cynghori eraill.
Y Prif Weithredwr yw’r swyddog cyfrifyddu.
Rydym yn atebol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.