Cynllun Corfforaethol i Gymru 2022/23 i 2026/27
Contents
Rhagair
Mae’r Cynllun Corfforaethol pum mlynedd hwn wedi’i baratoi ac yn cael ei gyflwyno yn unol â pharagraff 16B o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae’n ymdrin â gweithgareddau’r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2026/27, ac mae’n disodli ac yn datblygu ein cynllun dros dro a roddwyd ar waith ar ôl etholiad cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gweithio’n annibynnol ar lywodraethau i ennyn hyder y cyhoedd yn y system etholiadol, gan sicrhau uniondeb etholiadau a dilysrwydd eu canlyniadau. Ein nod yw cyflawni ein cyfrifoldebau yn ddiduedd, gan sicrhau annibyniaeth meddwl a phenderfyniadau y gellir ymddiried ynddynt.
Mae gennym gyfrifoldebau ledled y DU, rydym yn atebol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban, ac mae ein gwaith yn anelu at ddiwallu anghenion y pedair rhan o’r DU.
Mae ein cyfrifoldebau statudol yn rhan annatod o’r system etholiadol – boed yn rheoleiddio cyfreithiau cyllid gwleidyddol; yn darparu oruchwyliaeth, arweiniad neu gymorth wrth gynnal etholiadau; yn cefnogi etholwyr i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd yn hyderus; neu’n darparu tystiolaeth a gwybodaeth i lywio gwelliannau yn y dyfodol. Gan weithio gydag eraill, rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella’r system etholiadol er budd pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol.
Ar y cyfan, mae etholiadau yng Nghymru a’r DU yn cael eu cynnal yn effeithiol. Mae ein gwaith arolygu yn dangos bod y cyhoedd yn fodlon iawn ar y prosesau sydd ar waith i bleidleiswyr gofrestru a bwrw eu pleidlais. Mae gennym hefyd un o’r systemau cyllid gwleidyddol mwyaf tryloyw yn y byd. Fodd bynnag, mae pwysau ar y system etholiadol gyfan y mae angen i ni roi sylw iddynt.
Byddwn yn parhau i geisio dymchwel rhwystrau sy’n atal pobl rhag cofrestru neu fwrw eu pleidlais. Ochr yn ochr â’n gweithgareddau parhaus i annog pleidleiswyr i gofrestru a diogelu rhag twyll etholiadol, byddwn yn gweithio i gynnal hyder pleidleiswyr mewn ymgyrchu gwleidyddol wrth iddo ddatblygu.
Byddwn yn cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith, ac ar yr un pryd, yn sicrhau bod systemau cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol i ateb yr heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol effeithiol. Byddwn hefyd yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol i addasu i’r dull cynyddol amrywiol o gynnal etholiadau,
sy’n deillio o ddatganoli ac anghenion newidiol pleidleiswyr.
Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau newidiadau yn y gyfraith ac yng ngweithrediad y system etholiadol a fydd yn sicrhau y gall wrthsefyll newidiadau mewn cymdeithas. Wrth wraidd hyn oll fydd ystyried datblygiadau mewn technoleg ddigidol, ceisio atebion cynaliadwy a gwella cysondeb ac effeithlonrwydd y ffordd mae sefydliadau sy’n rhan o’r system etholiadol yn cydweithio.
Mae’r gofyniad i sicrhau gwerth am arian a rhedeg y sefydliad yn effeithiol yn sail i’r cynllun. Mae’r cynllun yn rhoi pwyslais o’r newydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a’i nod yw annog ymgysylltiad y staff, meithrin sgiliau a defnyddio technoleg i gefnogi dulliau effeithiol o weithio, a dysgu a gwella parhaus.
Edrychwn ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, y Senedd, llywodraethau a seneddau eraill y DU, pleidiau ac ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a grwpiau eraill â diddordeb er mwyn cynnal hyder pleidleiswyr yn ein system etholiadol.