Rheoli risgiau a chyfleoedd

Rydym wedi cynllunio ein prosesau rheoli risg er mwyn:

  • cynnal fframwaith clir ar draws y sefydliad lle y caiff risgiau  eu nodi, eu hasesu, eu rheoli a’u hadolygu’n rheolaidd
  • neilltuo cyfrifoldeb penodol am reoli risgiau yn eu meysydd cyfrifoldeb i aelodau unigol o’r Tîm Gweithredol (gan gynnwys rheoli risgiau i brosiectau sylweddol)
  • sicrhau y caiff tebygolrwydd ac effaith risgiau eu hasesu’n gyson
  • sicrhau y caiff risgiau sydd eisoes yn bodoli eu hadolygu’n rheolaidd, ac y caiff risgiau newydd eu nodi a’u rheoli
  • sicrhau’r Prif Weithredwr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r  Bwrdd fod y risgiau’n cael eu rheoli’n briodol 

Rydym yn nodi ac yn gwerthuso risgiau drwy wneud y canlynol:

  • gwneud pob penderfyniad allweddol ar ôl ystyried cyfleoedd, risgiau a mesurau lliniaru cysylltiedig a nodir ar wahân mewn papurau ar gyfer y Bwrdd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau dirprwyedig
  • ystyried a ddylai risgiau newydd gael eu hychwanegu at y gofrestr risg sefydliadol, ac a oes angen newid proffiliau risgiau sydd eisoes yn bodoli, a hynny wrth i newidiadau gael eu nodi ac fel rhan o’n hadolygiad chwarterol o risg
  • cwblhau adolygiad o risg ar ddechrau pob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y gofrestr risg sefydliadol yn nodi’r risg o ran cyflawni amcanion yn ein Cynllun Corfforaethol
  • cyflwyno adroddiad ar risg i bob cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg a hefyd yn flynyddol i’r Bwrdd
  • nodi risg drwy ein proses gynllunio, archwiliadau, adolygiad o weithrediadau a gweithgareddau hyfforddi
  • pennu perchenogion risgiau sy’n mynd ati’n ffurfiol i adolygu tebygolrwydd, effaith bosibl a’r camau lliniaru sydd ar waith ar gyfer pob risg bob chwarter, yn unol ag adolygiad gan y Pwyllgor Archwilio a Risg

Rydym yn ymrwymedig i wella ein prosesau rheoli risg yn barhaus  ac wrthi’n adolygu ein gweithdrefnau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio ag arferion da ac yn cyd-fynd â’n huchelgeisiau ar gyfer cyfnod y Cynllun Corfforaethol hwn.