ID pleidleisiwr yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig 2024
Ar 25 Mai 2024, lansiwyd ein hymgyrch ID Pleidleisiwr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2024. Yr etholiad hwn oedd y tro cyntaf yr oedd gofyn i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.
Roedden ni am wneud yn siŵr bod pob pleidleisiwr ar draws Prydain yn gwybod am yr angen i gymryd ID i bleidleisio’n bersonol, ac roedden ni am leihau nifer y bobl sy'n cael eu troi i ffwrdd o’r orsaf bleidleisio am nad oedd ganddyn nhw ID.
Hysbysebu â thâl

Roedd ein hysbysebion yn rhedeg ar draws ystod o wahanol lwyfannau. Roedd y sianeli mwy traddodiadol yn cynnwys y teledu, sinema, radio a hysbysfyrddau. Fe wnaethon ni hefyd gynnal yr ymgyrch ar draws sianeli digidol fel cyfryngau cymdeithasol a gwefannau. Fe wnaethon ni barhau i ddefnyddio sianeli mwy newydd fel Spotify a hysbysebu “yn y gêm”, lle byddai chwaraewyr yn gweld ein hysbysebion ym myd y gêm.e.
Fel yn etholiadau 2023 a 2024 Mai, defnyddiwyd “nodiadau gludiog” anferth lliw llachar i atgoffa pleidleiswyr i ddod â'u ID ar ddiwrnod yr etholiad. Roedd yn bwysig bod pobl yn gwybod y gallen nhw wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim os nad oedd ganddynt ID derbyniol, ac felly roedd tipyn o bwyslais ac ymdeimlad o frys ar yr opsiwn hwn yn ein negeseuon.
Y wasg a phartneriaethau
Yn ogystal â’n hymgyrch hysbysebu â thâl, bu ein timau partneriaethau ac ymgysylltu â phleidleiswyr yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ac awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i grwpiau o bobl a allai fod yn llai tebygol o fod yn berchen ar ID pleidleisiwr. Yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, fe wnaethon ni rannu ein hadnoddau ID pleidleiswyr gyda channoedd o awdurdodau lleol, partneriaid cymdeithas sifil a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i'w helpu i gefnogi pleidleiswyr i fodloni'r gofyniad ID pleidleisiwr.
Cyhoeddwyd dwsinau o ddatganiadau i'r wasg oedd yn tynnu sylw at ID pleidleisiwr, gan gynnwys datganiad atgoffa terfynol i bleidleiswyr ddod ag ID, y diwrnod cyn yr etholiad. Ategwyd hyn gydag ymgyrch ar draws y cyfryngau darlledu, gyda llefarwyr ar ran y Comisiwn Etholiadol yn cynnal 17 o gyfweliadau yn ystod diwrnod yr etholiad, gan gyflwyno gwybodaeth hanfodol i bleidleiswyr. Cynhaliwyd mwy na 100 o gyfweliadau oedd yn sôn am ID pleidleisiwr ar draws llinell amser yr ymgyrch a atgyfnerthodd ein negeseuon a chaniatáu i ni gael y sylw mwyaf posibl yn y wasg.
Canlyniadau
Gyda’r ymgyrch eang hon, cawsom dros 863 miliwn o argraffiadau ledled Prydain drwy ein hysbysebion yn y cyfryngau, tra bod 88% o’r partneriaid a holwyd wedi canfod bod ein hadnoddau’n ei gwneud hi’n haws i’w staff a’u gwirfoddolwyr helpu’r bobl y maent yn eu cefnogi i gwrdd â’r gofyniad am ID pleidleisiwr.
Gellir gweld effaith y gwaith hwn yn ein hadroddiad ID Pleidleisiwr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024. Bu cynnydd sylweddol mewn ymwybyddiaeth o'r angen i ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio (er y dylid nodi bod yr etholwyr yn amrywio rhwng y ddau etholiad).
Pryd y cynhaliwyd yr ymchwil | Gwlad | Canran y bobl sy'n ymwybodol bod angen iddynt ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio |
---|---|---|
Ionawr 2024 | Cymru | 58% |
Ionawr 2024 | Lloegr (gan eithrio Llundain) | 74% |
Yn syth ar ôl etholiad cyffredinol 2024 | Prydain Fawr | 87% |
Mae'r cynnydd hwn hyd yn oed yn fwy amlwg pan ddaw'n fater o fod yn ymwybodol o'r opsiwn i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim.
Pryd y cynhaliwyd yr ymchwil | Gwlad | Canran y bobl sy'n ymwybodol bod angen iddynt ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio |
---|---|---|
Ionawr 2024 | Cymru | 22% |
Ionawr 2024 | Lloegr (gan eithrio Llundain) | 34% |
Yn syth ar ôl etholiad cyffredinol 2024 | Prydain Fawr | 58% |
Wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud eto. Mae ein hadroddiadau ar ôl yr arolwg ar effaith ID pleidleisiwr ar yr etholiad cyffredinol yn awgrymu bod rhai grwpiau yn dal yn llai tebygol o wybod naill ai am y gofyniad i ddod ag ID pleidleisiwr neu'r opsiwn o wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim. Mae hyn yn cynnwys pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, grwpiau oedran iau, pobl mewn graddau cymdeithasol penodol a phobl anabl.
Drwy ddysgu gwersi o'n dadansoddiad ar ôl yr ymgyrch ac adroddiadau ar ôl yr arolwg, byddwn yn parhau i nodi meysydd lle gallwn wella effaith a chyrhaeddiad ein hymgyrch. Drwy barhau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gofyniad am ID a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu troi i ffwrdd o’r orsaf bleidleisio, rydyn ni’n parhau i weithio tuag at ein cenhadaeth graidd o sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth.