ID Pleidleisiwr yn Etholiadau mis Mai 2024

ID Pleidleisiwr yn Etholiadau mis Mai 2024

Ar 8 Ionawr, lansiwyd ein hymgyrch ID Pleidleisiwr yng Nghymru a Lloegr ar gyfer:

  • etholiadau lleol mis Mai 2024 yn Lloegr 
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

Trwy’r ymgyrch, rydym am sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod am y gofyniad newydd i ddod ag ID ffotograffig i'r etholiadau. Rydym hefyd am godi ymwybyddiaeth o’r opsiwn i wneud cais am ID Pleidleisiwr am ddim.

Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal yr ymgyrch yn Lloegr. Yn 2023 bu’r ymgyrch yn llwyddiannus iawn. Gwelsom ymwybyddiaeth o’r gofyniad yn codi o 22% i 91% ymhlith etholwyr Lloegr (ac eithrio Llundain).

Eleni yw’r tro cyntaf i ni gynnal yr ymgyrch yng Nghymru.

Ein dull ar gyfer mis Mai 2024

Ar gyfer mis Mai 2024, rydym yn adeiladu ar lwyddiannau’r llynedd. Rydym yn defnyddio ein hysbysebion “nodiadau gludiog” anferth i ddarparu nodiadau atgoffa na ellir eu colli i bleidleiswyr i ddod â’u ID ar y diwrnod pleidleisio, ond y tro hwn gydag amrywiaeth ehangach o liwiau trawiadol.

Rydym hefyd wedi pwysleisio’r opsiwn o wneud cais am ID Pleidleisiwr yn ein hysbysebu.

Hysbysebu y telir amdano

Bydd ein hysbysebu y telir amdano yn cynnwys platfformau hysbysebu traddodiadol megis teledu, radio, a hysbysfyrddau y tu allan i'r cartref. Byddwn hefyd yn defnyddio sianeli digidol fel y cyfryngau cymdeithasol a phrosesau chwilio taledig.

Rydym yn parhau i ddefnyddio rhai sianeli newydd cyffrous, gan gynnwys hysbysebu yn y sinema ac mewn gemau electronig.

Gwaith yn y wasg a gwaith partneriaeth

Bydd ein gwaith eang yn y wasg a’n gwaith partneriaeth hefyd yn cyflenwi ein hysbysebu y telir amdano.

Rydym yn gweithio gyda newyddiadurwyr a’r wasg sy'n gwneud gwaith print, darlledu ac ar-lein i godi ymwybyddiaeth. Bydd hyn ar draws gwasanaethau newyddion cenedlaethol, y wasg ranbarthol a chyfryngau arbenigol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod gwybodaeth ffeithiol gywir yn cael ei rhannu.

Mae ein tîm partneriaeth yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ac awdurdodau lleol. Byddant yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau sydd â pherchnogaeth ID isel a rhwystrau ychwanegol i bleidleisio. Mae hyn yn cynnwys creu adnoddau y gall partneriaid eu defnyddio i rannu’r neges.

Gwerthuso

Fel bob amser, byddwn yn monitro perfformiad yr ymgyrch ac yn ei werthuso’n drylwyr ar ôl i’r bleidlais gau ar 2 Mai. Bydd unrhyw wersi a ddysgir yn hynod o bwysig wrth i ni symud tuag at etholiadau sydd i ddod. Byddant hefyd yn cyfrannu at ein cenhadaeth graidd o sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth.

Rhagor o wybodaeth am ID Pleidleisiwr