Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 409
Yn y rhifyn hwn
Cefnogi diogelwch etholiadau
Roedden ni eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddau faes gwaith rydyn ni’n eu gwneud i’ch helpu chi ac eraill ar draws y gymuned etholiadol i gynnal etholiadau y gall pawb gael hyder ynddynt.
Egwyddorion ar gyfer cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Byddwch i gyd yn gyfarwydd â’r lefelau annerbyniol o gamdriniaeth a bygythiadau y mae rhai ymgeiswyr etholiad, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol a’u staff yn eu hwynebu. Cyn etholiadau mis Mai 2026, rydym yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol i sicrhau bod yr etholiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys trwy ddarparu canllawiau ar eu pwerau mewn gorsafoedd pleidleisio a’r cyfrif, fel y gall pawb gymryd rhan yn rhydd a heb unrhyw fygythiad.
Yn ogystal, rydym wedi datblygu chwe egwyddor i helpu i sicrhau bod pawb sy’n rhan o’r broses ddemocrataidd yn cael eu cefnogi a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth a bygythiadau. Maent yn gosod safon ofynnol o ymddygiad ar gyfer pob ymgeisydd ac ymgyrchydd. Mae’r egwyddorion yn gynghorol ac yn nodi arfer da. Nid ydynt yn rheolau ffurfiol ac ni fyddwn yn dyfarnu a yw achosion unigol o ymddygiad yn dilyn yr egwyddorion ai peidio.
Ystyriwch rannu’r rhain gydag ymgeiswyr yn eich etholaethau. Rydym eisoes wedi’u rhannu â Phanel Pleidiau’r Senedd ac rydym hefyd yn eu hanfon at ymgeiswyr unigol.
Dechrau i ddull cydweithredol o ymgyrchu ar draws pleidiau gwleidyddol yw’r egwyddorion hyn, nid diwedd. Ar ôl etholiadau mis Mai, byddwn yn asesu a gwerthuso sut mae’r egwyddorion wedi gweithio’n ymarferol. Gan ddefnyddio’r canfyddiadau hyn, byddwn yn datblygu dull manwl o ehangu’r egwyddorion yn god ymddygiad llawn wedi’i ddiweddaru a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy’r bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol fel arfer.
Cynllun Peilot Canfod Ffugiadau Dwfn
Rydym wedi monitro’n agos sut mae ffugiadau dwfn yn cael eu defnyddio mewn ymgyrchoedd yn y DU a thramor ac rydym yn ymwybodol o’u risgiau i ddiogelwch etholiadau a hyder pleidleiswyr.
Er mwyn cryfhau ein hymateb i fygythiadau mewn etholiadau sy’n dod i’r amlwg, rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i lansio cynllun peilot i ganfod ffugiadau dwfn gwleidyddol a dadansoddi eu heffaith ar bleidiau, ymgyrchwyr a theimladau’r cyhoedd yn etholiadau mis Mai 2026.
Bydd yn rhedeg tan y diwrnod pleidleisio a bydd yn canfod ffugiadau dwfn ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiadau. Mae hyn yn benodol yn cynnwys deunydd a allai camarwain pleidleiswyr am y broses etholiadol, megis gwybodaeth anghywir am y diwrnod pleidleisio. Er enghraifft, os oes fideo o ymgeisydd sy’n ymddangos fel ei fod yn tynnu’n ôl o etholiad yn denu sylw ar-lein, efallai y byddwn yn gallu defnyddio technoleg i bennu’n gywir a yw’r fideo yn ffugiad dwfn a mesur ei effaith ar deimladau’r cyhoedd. Yna byddwn yn gallu olrhain tueddiadau cyffredinol, ac os yw’n ofynnol, cymryd camau priodol yn unol â’n cylch gwaith rheoleiddio neu gysylltu ag eraill a all weithredu fel Ofcom neu’r heddlu. Byddwn hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â Swyddogion Canlyniadau yn ôl yr angen lle mae deunydd yn ymwneud yn benodol ag etholiadau yn eu hardal leol.
Ar draws yr holl waith hwn, bydd yn hanfodol bod pleidleiswyr yn deall sut y bydd technoleg yn cael ei defnyddio i ddylanwadu ar eu pleidleisiau mewn etholiadau yn y dyfodol. Ar ôl yr etholiad byddwn yn cynnal gwerthusiad a byddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein canfyddiadau i gydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol, gan gynnwys gweinyddwyr.