Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio i'r swydd ganlynol yn Nhîm Cymru:
Uwch Swyddog Gweithredu a Pherfformiad Etholiadol (Dyddiad cau 24 Awst 23:59)
Mae tîm Cymru yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â chynnal etholiadau yng Nghymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid ar faterion sy'n effeithio ar Gymru a sicrhau bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn ein gwaith.
Ar gyfer sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Cath Uphill, Rheolwr Arferion Etholiadol a Gweithrediadau gan ddefnyddio [email protected].