Cafodd y Gwahoddiad i Gofrestru (ITR) ddiweddaraf gymeradwyaeth weinidogol ar 15 Gorffennaf 2026.
Mae'r ffurflen wedi'i diweddaru i adlewyrchu dileu'r Gofrestr Olygedig yng Nghymru yn dilyn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dileu'r Gofrestr Olygedig) (Cymru) 2026.
Mae'r newidiadau hyn wedi'u hadlewyrchu ar draws sawl fersiwn o'r ITR:
ITR (Safonol)
ITR-C (Y Goron)
ITR-F (Lluoedd Arfog)
ITR-N (Dim cyfeiriad sefydlog)
Mae'r ffurflenni hyn hefyd wedi'u diweddaru i gynnwys opsiwn 'Enw(au) canol'.
Gellir dod o hyd i gopïau o'r ffurflenni hyn isod. Rhennir y fersiynau hyn ymlaen llaw i'ch helpu i baratoi a byddant hefyd yn cael eu rhannu â chyflenwyr System Rheoli Etholiad.