Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 419
Adroddiad ar etholiadau’r Senedd 2026
Ddydd Llun 14 Medi, cyhoeddwyd ein hadroddiad ar etholiadau’r Senedd 2026. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut y cynhaliwyd yr etholiadau, profiadau pleidleiswyr o gymryd rhan, profiadau ymgeiswyr ac ymgyrchwyr o'r etholiadau, a'r gwersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Ar y cyfan, canfuom fod gweinyddwyr etholiadol unwaith eto wedi cyflawni etholiadau a oedd wedi'u cynnal yn dda, gyda'r nifer uchaf erioed a gofnodwyd o bleidleiswyr yn cymryd rhan mewn etholiad i'r Senedd, a hyder y cyhoedd yn parhau'n uchel er gwaethaf newidiadau sylweddol i faint y Senedd, y system bleidleisio a ffiniau'r etholaethau.
Rydym hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am gamau pellach i wella dealltwriaeth pleidleiswyr o'r system bleidleisio newydd, i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth hygyrchedd sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, i gefnogi pobl ifanc 16 a 17 oed i gymryd rhan, ac i ddarparu rhagor o gymorth i weinyddwyr gan fod y system yn parhau o dan bwysau. Rydym hefyd yn galw am gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r risg o gamwybodaeth ac i gadw ymgeiswyr yn ddiogel rhag camdriniaeth a bygythiadau.
Ymhlith y canfyddiadau eraill roedd:
- y gyfradd pleidleisio yn 51.7%, i fyny o 46.8% yn 2021, a dyma'r tro cyntaf i'r gyfradd bleidleisio fod dros 50% mewn etholiad i'r Senedd
- roedd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses bleidleisio, a pharhaodd hyder yn y ffordd yr oedd yr etholiadau'n cael eu cynnal yn uchel
- roedd dealltwriaeth o'r system bleidleisio rhestr gaeedig newydd yn gymysg, gyda bron i un o bob tri yn dweud nad oeddent yn hyderus eu bod yn ei deall
- yn gyffredinol, adroddodd pleidleiswyr ag anableddau eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol, ond roedd ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn parhau'n isel. Mae angen i'r Comisiwn a'r gymuned etholiadol ehangach wneud mwy o hyd i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r offer sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio
- roedd ymgeiswyr yn gyffredinol yn gadarnhaol am y broses o sefyll etholiad, ond roedd lefelau camdriniaeth a bygwth yn parhau'n annerbyniol, ac roedd ymatebion i'n harolwg yn dangos bod ymgeiswyr benywaidd yn fwy tebygol o fod wedi profi hyn
- dywedodd mwy na hanner y bobl a arolygwyd eu bod wedi gweld camwybodaeth, a dywedodd 12% eu bod wedi gweld lluniau, fideos neu glipiau sain ffugiadau dwfn yn ymwneud â'r etholiadau
- cynhaliodd gweinyddwyr etholiadol yr etholiadau'n effeithiol, ond mae gweithio ar draws ffiniau, heriau staffio, problemau gyda chyflenwyr a newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yn parhau i greu pwysau.
Ein hargymhellion
Mae'r gwelliannau a nodwyd gennym i gefnogi cyfranogiad ac ymddiriedaeth mewn etholiadau yn cynnwys:
- annog Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gallai ei system cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig integreiddio ag unrhyw system ledled y DU yn y dyfodol, ac annog Llywodraeth y DU i ymgysylltu â chynlluniau Llywodraeth Cymru a rhoi ystyriaeth iddynt wrth ddatblygu dull gweithredu ledled y DU
- gwella ymwybyddiaeth o'r cymorth hygyrchedd sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys gwybodaeth gliriach ar-lein, all-lein, ar gardiau pleidleisio ac mewn gorsafoedd pleidleisio
- ystyried pennu rolau a chyfrifoldebau swyddogion canlyniadau etholaethol a dirprwy swyddogion canlyniadau mewn deddfwriaeth er mwyn rheoli'r cynnydd mewn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol
- darparu eglurder a chyllid digonol i gefnogi gweinyddwyr fel y gallant ymdopi â newidiadau deddfwriaethol presennol ac yn y dyfodol
- cynyddu hyblygrwydd y broses o ddiwygio ffurflenni gwariant fel eu bod yn haws i’w deall a'u cwblhau
- galw ar bleidiau gwleidyddol i gefnogi datblygu cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchu a'i ymgorffori yn eu polisïau aelodaeth a disgyblu
- galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i'r afael â chamdriniaeth ar-lein o ymgeiswyr, ac ar Lywodraeth y DU i greu dyletswydd newydd, gliriach a chyffredinol ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gwmpasu ystod ehangach o risgiau i etholiadau a diogelu dadl wleidyddol onest
- gwella'r cydlynu rhwng Comisiwn y Senedd, y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfathrebu ynghylch etholiadau yn y dyfodol, gan gynnwys adolygu rôl ac ymarferoldeb bwrwpleidlais.cymru
- galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiwn ac eraill ar gyflwyno fframwaith addysg ddemocrataidd i Gymru
- annog holl lywodraethau'r DU i gydweithio i ddatblygu galluoedd technegol a gweithredol a rennir i ddiogelu'r amgylchedd gwybodaeth etholiadol rhag camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan gynnwys ffugiadau dwfn
- diweddaru'r gyfraith etholiadol i adlewyrchu bygythiadau newydd i wybodaeth etholiadol a mynnu bod platfformau cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau gwybodaeth ar-lein yn datblygu polisïau sy’n addas i’r diben o ran diogelu gwybodaeth etholiadol a chyfyngu ar ledaeniad camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, gweinyddwyr etholiadol, pleidiau gwleidyddol, platfformau cyfryngau cymdeithasol a sefydliadau cymdeithas sifil er mwyn gweithredu'r argymhellion hyn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw newidiadau'n cael eu rhoi ar waith mewn digon o amser fel y gall y gymuned etholiadol baratoi cyn etholiadau yn y dyfodol.
Gallwch ddarllen ein canfyddiadau a'n hargymhellion yn llawn yn ein hadroddiad.
Cyhoeddwyd hefyd adroddiadau ar wahân ar etholiad Senedd yr Alban ac etholiadau llywodraeth leol Lloegr. Fel yng Nghymru, canfuom fod yr etholiadau wedi'u cynnal yn dda a bod pleidleiswyr ac ymgyrchwyr yn adrodd lefelau uchel o hyder yn y prosesau etholiadol. Fodd bynnag, mae angen rhagor o gamau gweithredu i fynd i'r afael â chamwybodaeth ac i gadw ymgeiswyr yn ddiogel rhag camdriniaeth.
Canllawiau wedi'u diweddaru i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i Swyddogion Cofrestru Etholiadol sy'n nodi'r camau gweithredu gofynnol i'w cymryd ar ôl cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru.
Sylwer nad yw'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig mewn grym eto. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau hyn ymlaen llaw i gefnogi eich gwaith cynllunio a'ch paratoadau.
Bydd cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn golygu y bydd yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru:
- gynnal ymarfer paru data o leiaf unwaith y flwyddyn i nodi etholwyr nad ydynt wedi'u cofrestru
- anfon hysbysiad cofrestru at yr etholwyr anghofrestredig a nodir, gan roi cyfnod hysbysu o 28 diwrnod iddynt lle gallant optio allan o gofrestru awtomatig am resymau rhagnodedig
- ychwanegu'r etholwyr anghofrestredig hynny nad ydynt wedi optio allan at y gofrestr llywodraeth leol gyda marciwr J, ar ôl i'r cyfnod hysbysu o 28 diwrnod ddod i ben.
Er mwyn bodloni'r gofynion, rhaid dechrau'r broses paru data cyn diwedd pob blwyddyn galendr.
Paratowyd y canllawiau ar y sail y bydd y rheoliadau drafft yn cael eu cymeradwyo yn eu ffurf bresennol, ac y bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym y diwrnod ar ôl iddi gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru. Nid yw'r union ddyddiad y daw'r newid deddfwriaethol i rym wedi'i gadarnhau eto. Fodd bynnag, y cyfle cynharaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau drafft fydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 19 Hydref 2026. Mae hyn yn golygu, os daw'r ddeddfwriaeth i rym eleni yn ôl y disgwyl, y bydd yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau'r broses paru data cyn diwedd 2026.
Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y ddeddfwriaeth ac yn cadarnhau drwy'r Bwletin Etholiadol pan fydd y rheoliadau newydd ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig mewn grym.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch yn y cyfamser, cysylltwch â thîm Cymru trwy anfon neges e-bost at [email protected].
Ffurflenni pleidleisio absennol newydd
Rydym wedi diweddaru ein ffurflenni cais am bleidlais bost a dirprwy cyn i'r rheolau newydd ddod i rym ac i geisiadau ar-lein am bleidleisiau absennol gael eu cyflwyno ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol o 3 Tachwedd 2026 ymlaen.
Mae’r newidiadau fel a ganlyn:
- dileu brandio Comisiwn Etholiadol Cymru a chyfeiriadau at Gomisiwn Etholiadol Cymru. Bwriad hyn yw lleihau dryswch a lleihau'r risg y bydd ffurflenni wedi'u cwblhau'n cael eu dychwelyd ar gam i swyddfeydd y Comisiwn erbyn y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau.
- cynnwys maes "enw canol" i gyd-fynd â'r ffurflenni cofrestru
- ffurflen gais newydd am bleidlais bost ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Bydd ffurflen ar wahân yn parhau ar gyfer pleidleiswyr tramor
- bydd ffurflenni cais am bleidlais ddirprwy yn parhau i gael eu rhannu yn ôl gwlad, a byddant yn dal i gynnwys y testun "Mae'r ffurflen hon yn berthnasol yng Nghymru yn unig"
- manylion a datganiadau ategol wedi'u crynhoi lle bo modd.
Gallwch weld copïau enghreifftiol ar ein gwefan i'ch helpu i baratoi. Mae'r samplau hyn yn fersiynau terfynol, ond nid ydynt yn cynnwys pob ffurflen gais am bleidlais ddirprwy.
Bydd yr holl ffurflenni wedi'u diweddaru ar gael i bleidleiswyr o 3 Tachwedd 2026 ymlaen.
Arwyddluniau pleidiau gwleidyddol: neges atgoffa
Byddem yn ddiolchgar pe gallech atgoffa eich argraffwyr i ddileu ac ail-lawrlwytho pob arwyddlun plaid yn rheolaidd. Ceir dolen i'r ffeil zip ddiweddaraf o arwyddluniau ar ein gwefan. Mae tîm cofrestru'r Comisiwn yn cynnal gwaith cynnal a chadw ar arwyddluniau pleidiau, er enghraifft drwy ddisodli arwyddlun â fersiwn delwedd o ansawdd uwch. Mewn achosion o'r fath, cymerir camau i gadw'r un rhif adnabod ar gyfer yr arwyddlun cofrestredig. Rydym yn ymwybodol o achosion lle nad yw newid y ffeil heb newid y rhif adnabod yn cael ei adlewyrchu mewn diweddariadau rheolaidd i'r ffeil zip, gan olygu y gall argraffwyr ddefnyddio hen fersiynau o arwyddluniau.
Swydd wag yn y Comisiwn Etholiadol
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer y swydd ganlynol yn ein tîm perfformiad etholiadol:
- Uwch Ymgynghorydd, Perfformiad Etholiadol (Dyddiad cau: 28 Medi am 23:59; Lleoliad: Caerdydd, Belfast neu Gaeredin (hybrid, o leiaf dau ddiwrnod yn y swyddfa), neu weithio o bell yn unrhyw le yn y DU)
Mae'r tîm perfformiad etholiadol yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal safonau perfformiad y Comisiwn ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous wrth inni ddatblygu ein dull gweithredu yn y dyfodol ar gyfer monitro perfformiad etholiadol. Bydd gennych gyfle i lunio fframweithiau, offer a ffyrdd newydd o weithio a fydd yn dylanwadu ar sut y caiff perfformiad etholiadol ei fesur a'i gefnogi ledled y DU am flynyddoedd i ddod.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Amy Symons, Rheolwr Perfformiad Etholiadol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i borth swyddi'r Comisiwn.