Diweddariad ar ganllawiau etholiadau llywodraeth leol
Cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2027, rydym am eich diweddaru ar ein cynlluniau ar gyfer cyhoeddi canllawiau ac adnoddau ategol wedi'u diweddaru ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a'r rhai sydd am sefyll etholiad.
Canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau
Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru ein prif ganllawiau ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau i gefnogi paratoadau ar gyfer etholiadau mis Mai. Bydd y canllawiau'n cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd yn ein fformat HTML ar y we ac maent yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r darpariaethau deddfwriaethol newydd.
I’ch cynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer etholiadau mis Mai 2027 nawr, rydym eisoes wedi diweddaru a chyhoeddi'r cynllun prosiect, y gofrestr risg a’r amserlen ar gyfer yr etholiadau sydd wedi'u trefnu. Ein nod yw cyhoeddi'r adnoddau ategol eraill erbyn diwedd mis Tachwedd.
Byddwn yn dilyn ein proses arferol ar gyfer archebu llawlyfrau gorsafoedd pleidleisio. Bydd dolen i ffurflen archebu yn cael ei dosbarthu ym mis Rhagfyr, gyda gorchmynion yn cael eu cwblhau ym mis Ionawr, a’i danfon ym mis Mawrth 2027.
Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Byddwn yn cyhoeddi ein canllawiau a'n hadnoddau wedi'u diweddaru ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ym mis Tachwedd. Eto, mae’r diweddariadau hyn yn fân ddiwygiadau sydd wedi’u nodi fel rhan o’r adborth o’r etholiadau.
Rydym hefyd yn datblygu canllaw animeiddiedig i gefnogi'r gwaith o gwblhau papurau enwebu mewn etholiadau llywodraeth leol. Gellir defnyddio'r adnodd hwn i ategu eich briffiadau a'ch canllawiau lleol a'ch cymorth i ymgeiswyr ac asiantiaid. Byddwn yn lansio hwn yn ddiweddarach eleni, a byddwn yn eich hysbysu drwy'r Bwletin pan fydd ar gael.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd ein holl ddiweddariadau i ganllawiau drwy'r Bwletin fel arfer, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â thîm Cymru yn [email protected].