Asiant etholiadol yw'r person sy'n gyfrifol am reoli ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd yn briodol ac, yn arbennig, am ei reolaeth ariannol. Rhaid i bob ymgeisydd gael asiant etholiadol.
Rhaid anfon yr hysbysiad o benodi asiant etholiadol atoch erbyn yr amser diweddaraf ar gyfer cyflwyno hysbysiadau tynnu'n ôl, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.
Rydym wedi llunio ffurflen ar gyfer hysbysu am benodiad asiantiaid etholiadol fel rhan o'r set o bapurau enwebu ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.1
Dylech ystyried cyfleu gwybodaeth am y prosesau etholiadol, y cod ymddygiad a phwyntiau ymddygiad safonol i'r asiant etholiadol cyn gynted â phosibl. Yn benodol, dylai unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych amlygu'r trefniadau trin pleidleisiau post newydd a'r rheolau newydd o ran dylanwad gormodol a bygwth, a darparu dolenni iddynt.
A all ymgeisydd weithredu fel ei asiant etholiad ei hun?
Gall ymgeisydd benodi ei hun fel ei asiant etholiad.
Os na chaiff asiant ei benodi erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, bydd yr ymgeisydd yn dod yn asiant etholiadol ei hun yn awtomatig.
Bydd ymgeisydd hefyd yn dod yn asiant ei hun:
os yw'n diddymu penodiad ei asiant, neu
os bydd ei asiant yn marw, ac ni phenodir rhywun arall yn ei le ar ddiwrnod y farwolaeth nac ar y diwrnod canlynol.
Cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiadol
Rhaid i'r asiant etholiad gael cyfeiriad swyddfa y gellir anfon pob cais, hysbysiad, proses gyfreithiol a dogfennau eraill iddo.2
Rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post nac unrhyw flychau post tebyg.
Rhaid i leoliad y swyddfa fod o fewn ardal yr heddlu.
Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant etholiadol fydd cyfeiriad ei swyddfa. Fel arall gallai fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid wleidyddol neu swyddfa a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad.
Os yw'r ymgeisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad fel asiant etholiadol ei hun, rhaid iddo roi cyfeiriad swyddfa o fewn ardal yr heddlu.
Pan fydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun am na wnaeth benodi neb arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad a roddir ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd h.y yr un a ddarparwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os bydd y cyfeiriad y tu allan i ardal yr heddlu, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad y person a enwyd yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd fel y cynigydd.3
Dyma'r achos hyd yn oed pan fydd ymgeisydd wedi dewis celu ei gyfeiriad cartref o'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio. Dylech wneud hyn yn glir i ymgeiswyr.