Change of deadline for the over £250,000 spending returns for the 2019 general election

Y disgwyl oedd y byddai cofnodion gwariant pleidiau ac ymgyrchwyr a wariodd dros £250,000 yn yr etholiad cyffredinol ar gael ym mis Mehefin 2020, ond oherwydd COVID-19, nid oedd yr holl bleidiau ac ymgyrchwyr yn gallu cyflwyno eu cofnodion erbyn y dyddiad cau hwnnw. O’r herwydd, rydym yn cyhoeddi cofnodion gwariant mewn sypiau, fel y gall pleidleiswyr weld y wybodaeth gwariant sy’n barod i’w rhyddhau. Mae hyn yn golygu nad yw’r wybodaeth ar y tudalennau canlynol yn gyflawn; mae’n cael ei diweddaru wrth i ni gyhoeddi pob swp.

Overview of our finance database

Gweld y gronfa ddata cyllid

Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth ariannol y mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn rhoi gwybod i ni amdani yn ein cronfa ddata cyllid. 

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill roi gwybod i ni am y wybodaeth hon, ac mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i ni ei chyhoeddi. 

Rydym yn ei chyhoeddi fel y gallwch weld yr hyn y mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn ei wneud.

Mae'r rheolau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth hon yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd, nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni gyhoeddi unrhyw wybodaeth am roddion na benthyciadau o'r cyfnod cyn mis 1 Gorffennaf 2017. 

Ar ein cronfa ddata, gallwch edrych ar y canlynol: 

  • manylion cofrestru
  • rhoddion a benthyciadau
  • gwariant ar ymgyrchu
  • cyfrifon blynyddol 

Gallwch hefyd ychwanegu meini prawf chwilio a hidlyddion, neu chwilio yn ôl allweddair.