Gwariant ymgyrchu: Pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Overview
Cyn etholiadau a refferenda, mae cyfnod a reoleiddir ar gyfer yr ymgyrch sy'n rhoi terfyn ar wariant. Mae’r terfynau hyn yn gymwys i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae terfynau gwariant yn amrywio ar gyfer gwahanol etholiadau.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi canllawiau penodol ar gyfer etholiadau sy’n cael eu cynnal y flwyddyn honno. Mae ein canllawiau’n nodi:
- y terfynau gwariant penodol sy'n berthnasol
- y cyfnod y mae’r terfynau’n gymwys ar ei gyfer
- y dyddiadau cau ar gyfer adrodd ar gyfer yr etholiadau hynny
Gallwch weld gwariant mewn etholiadau a refferenda yn y gorffennol ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein, fel y gallwch weld beth wariodd pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill.
Gwariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2024
Roedd yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol a safodd ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol 2024 gyflwyno ffurflen gwariant ar gyfer y flwyddyn yn arwain at y diwrnod pleidleisio, hyd yn oed os na wnaethant wario unrhyw arian ar ymgyrchu.
Roedd terfynau gwariant yn berthnasol drwy gydol y cyfnod a reoleiddir, a oedd yn rhedeg o 6 Gorffennaf 2023 i 4 Gorffennaf 2024. Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd ar yr holl wariant yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau tryloywder a chydymffurfiaeth â'r gyfraith.
Roedd angen i bleidiau gyflwyno eu ffurflen:
- O fewn 3 mis ar ôl y diwrnod pleidleisio os oedd eu gwariant yn £250,000 neu lai (erbyn 4 Hydref)
- O fewn 6 mis ar ôl y diwrnod pleidleisio os oedd eu gwariant dros £250,000 gydag adroddiad archwilio (erbyn 4 Ionawr)
Roedd y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad cyffredinol yn dibynnu ar nifer yr etholaethau y safodd ymgeiswyr ynddynt.
Gwariant o £250,000 neu lai
Nododd 92 o bleidiau eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn ystod y cyfnod a reoleiddir gyda chyfanswm gwariant o £733,575. Roedd hyn yn cynnwys 39 o bleidiau a gyflwynodd ffurflenni dim cofnodion.
Y pum plaid a wariodd y symiau mwyaf wnaeth adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn etholiad cyffredinol 2024:
Plaid | Gwariant |
---|---|
Plaid Cymru | £156,531 |
Plaid Gweithwyr Prydain (Workers Party of Britain) | £81,292 |
Sinn Féin | £68,499 |
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £52,229 |
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £41,004 |
Mae hyn yn cynrychioli cynnydd mewn gwariant o gymharu â’r etholiadau cyffredinol a gynhaliwyd yn 2019 a 2017, pan wariodd pleidiau a wariodd £250,000 neu lai £611,855 a £309,288 yn y drefn honno. Fodd bynnag, mae nifer y pleidiau sy’n adrodd y lefel hon o wariant hefyd wedi cynyddu – 33 yn 2017, 38 yn 2019 a 53 yn 2024.
Ar draws gwahanol rannau’r DU, gwariodd pleidiau sy’n gwario £250,000 neu lai:
- £260,663 yn Lloegr
- £218,113 yng Ngogledd Iwerddon
- £181,125 yng Nghymru
- £73,673 yn yr Alban.
Y categorïau yr adroddwyd am y rhan fwyaf o wariant oddi tanynt oedd hysbysebu (£246,614) ac anfon deunydd ymgyrchu at bleidleiswyr (£168,229).
Mae dadansoddiad llawn o wariant a adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol ar gael ar ein cronfa ddata cyllid gwleidyddol (Yn agor mewn ffenest newydd).
Yn ogystal â gwariant pleidiau, mae gan ymgeiswyr eu terfynau gwariant a'u dyletswyddau adrodd eu hunain. Byddwn yn cyhoeddi data ymgeiswyr o etholiad cyffredinol 2024 yn fuan. Archwiliwch ddata am wariant a adroddwyd gan ymgeiswyr.
Gwariant dros £250,000
Byddwn yn cyhoeddi gwariant ymgyrchu gan y pleidiau gwleidyddol a wariodd dros £250,000 yn y misoedd nesaf.
Cymharwch wariant pleidiau gwleidyddol mewn etholiadau cyffredinol blaenorol
Gwariant ymgyrchu ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Gwariant o £250,000 neu lai
Roedd yn ofynnol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig gyflwyno ffurflen gwariant os oeddent, yn ystod y cyfnod a reoleiddir, wedi gwario:
- Mwy na £20,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn Lloegr
- Mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Adroddodd 17 o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wariant dros y trothwyon adrodd, ond llai na £250,000, gyda chyfanswm gwariant o £1,115,391. Yn etholiad cyffredinol 2019, dywedodd 37 o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu bod wedi gwario llai na £250,000 gyda chyfanswm gwariant o £2,808,871.
Y pum ymgyrchydd nad ydynt yn bleidiau a wariodd y symiau mwyaf wnaeth adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn etholiad cyffredinol 2024:
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau | Gwariant |
---|---|
38 Deores | £206,700 |
HOPE not hate Ltd | £158,624 |
Cruelty Free International | £108,945 |
WE OWN IT LTD | £98,774 |
Greenpeace Limited | £95,851 |
Gallwch weld yr holl wariant a rhoddion a adroddwyd gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar ein cronfa ddata cyllid gwleidyddol (Yn agor mewn ffenest newydd).
Cymharwch wariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau cyffredinol blaenorol
Gwariant dros £250,000
Byddwn yn cyhoeddi gwariant ymgyrchu gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a wariodd dros £250,000 yn y misoedd nesaf.