Trosolwg

Mae cyfyngiadau ar faint y gall ymgeiswyr ei wario mewn etholiad, a rheolaethau ar y ffynonellau cyllid ar gyfer y gwariant hwnnw.

Ar ôl etholiadau, rhaid i ymgeiswyr a’u hasiantiaid gyflwyno ffurflen gwariant ymgeisydd i’w Swyddog Canlyniadau yn y cyngor lleol. Mae’r ffurflen gwariant yn rhestru faint wnaeth yr ymgeisydd wario yn ystod yr ymgyrch etholiadol ac unrhyw roddion a roddwyd iddynt.

Ar gyfer etholiadau mawr, fel etholiadau cyffredinol Senedd y DU, mae Swyddogion Canlyniadau yn anfon copïau o'r ffurflenni gwariant ymgeiswyr atom. Yna rydym yn sicrhau bod y data hwn ar gael drwy ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Edrychwn ar y ffurflenni i fonitro cydymffurfiaeth â'r cyfreithiau, ond yr heddlu sy'n gyfrifol am ymdrin ag unrhyw doriadau posibl.

Cymerwch olwg ar y ffurflenni gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.

Terfynau gwario

Terfynau gwariant

Y terfyn gwariant yw’r cyfanswm y gall ymgeisydd ei wario mewn etholiad. Mae'r terfyn yn dibynnu ar yr etholaeth y mae'n sefyll ynddi.

Cyfrifir y terfyn gwariant ar sail nifer y pleidleiswyr cymwys mewn etholaeth. Po fwyaf o bleidleiswyr cymwys sydd yno, yr uchaf bydd y terfyn gwariant.

Dyma pam y gall y terfyn gwariant amrywio'n fawr rhwng etholaethau.

Mae ymgeiswyr a'u hasiantiaid yn gyfrifol am gyfrifo eu terfyn gwariant, gan ddefnyddio ffigurau amcangyfrifedig gan y Swyddog Canlyniadau.

Yn 2023, cynyddodd Llywodraeth y DU y terfynau gwariant ar gyfer ymgyrchwyr sy’n sefyll mewn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Y fformiwla bresennol ar gyfer cyfrifo terfyn gwariant ymgeisydd mewn etholaeth sirol yw £11,390 + 12c wedi'i luosi â nifer y pleidleiswyr, neu £11,390 + 8c wedi'i luosi â nifer y pleidleiswyr mewn etholaeth bwrdeistref.

Cofnodion gwariant 

Mae'r ffurflenni gwariant ymgeiswyr yn cynnwys y cyfanswm a wariodd yr ymgeisydd, ynghyd â dadansoddiad o faint y gwnaethon nhw ei wario ar eitemau fel hysbysebu, trafnidiaeth a chyfarfodydd cyhoeddus. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw roddion a gafodd yr ymgeisydd dros £50.

Lawrlwytho'r data

Lawrlwythwch y taenlenni data ar gyfer etholiadau gwahanol.

Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Etholiadau Senedd Cymru