Caiff argraffnod ei gynnwys ar ddeunydd etholiad argraffedig er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r deunydd.
Rhaid i argraffnod gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn neu'r sefydliad sydd wedi cyhoeddi'r deunydd. Os bydd wedi ei gyhoeddi ar ran rhywun arall, rhaid i'r argraffnod hefyd gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn neu'r sefydliad hwnnw.
Rhaid i ddeunydd argraffedig hefyd gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffwr.
Pa ddeunydd argraffedig y mae angen iddo gynnwys argraffnod
Mae angen i bob math o ddeunydd etholiadol argraffedig gynnwys argraffnod, gan gynnwys hysbysebion mewn papurau newydd ac ar hysbysfyrddau.
Sut i roi gwybod am ddeunydd heb argraffnod
Os yw'r deunydd etholiad yn hyrwyddo plaid wleidyddol, neu os yw'r deunydd yn cyfeirio at fater gwleidyddol, ni sy'n gyfrifol am orfodi'r rheolau ynglŷn ag argraffnodau. Rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i [email protected].
Os yw'r deunydd etholiad yn hyrwyddo ymgeisydd penodol, yr heddlu sy'n gyfrifol a dylech gysylltu â'ch heddlu lleol.
Guidance
Os ydych yn ymgyrchydd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am argraffnodau yn ein canllaw.