Overview of commenting on an application

Gallwch roi sylwadau ar enw, disgrifiad neu arwyddlun penodol fel rhan o'n proses asesu. Mae'n rhaid i chi ddweud p'un a yw'r enw, y disgrifiad neu'r arwyddlun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru ai peidio a'r rhesymau pam.

Pan fyddwch yn rhoi eich sylwadau, mae angen i chi ystyried y meini prawf ar gyfer cofrestru. Os na fyddwch yn cyfeirio at un neu fwy ohonynt yn eich sylwadau, ni fyddwn yn eu hystyried.

Noder: mae’n bosibl y bydd cynnwys eich sylwadau’n cael ei ddatgelu o dan ofynion Rhyddid Gwybodaeth. Yn unol ag egwyddorion diogelu data, ni fyddai eich data personol yn cael ei ddatgelu.

Meini prawf ar gyfer cofrestru enw, disgrifiadau neu arwyddluniau plaid

Ni allwn gofrestru enw, disgrifiad nac arwyddlun:

  • sy'n debygol o gamarwain pleidleiswyr
  • sydd yr un peth ag enw, disgrifiad neu arwyddlun cofrestredig arall sydd ar yr un gofrestr
  • sydd yr un peth ag enw, disgrifiad neu arwyddlun gan blaid anghofrestredig a oedd ar yr un gofrestr ac sydd wedi'i ddiogelu
  • y gallai pleidleiswyr ei ddrysu ag enw, disgrifiad neu arwyddlun plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru neu ei ddiogelu
  • sy'n debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau pleidleisio neu eu llesteirio
  • sy'n anllad neu'n dramgwyddus
  • sy'n cynnwys geiriau gwaharddedig penodol
  • sy'n acronym, neu sy'n cynnwys acronym neu dalfyriad nad yw'n adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang, ac nid yw wedi'i sillafu fesul llythyren
  • sydd wedi'i gysylltu mewn unrhyw ffordd â deunydd ar-lein neu sy'n cyfeirio at gynnwys ar-lein
  • sy'n cynnwys cyfeiriad at enw unigolyn oni bai bod yr unigolyn yn uniongyrchol gysylltiedig â'ch plaid
  • sydd ag arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr)
  • sy'n hirach na chwe gair
  • nad yw mewn sgript Rufeinig (h.y. yr wyddor Lladin)
  • sy'n debyg o gyfateb i drosedd os caiff ei gyhoeddi

Cyflwyno eich adborth

Gallwch roi sylwadau ar un o'n ceisiadau cyfredol. [link] Gall amser cwblhau ein proses asesu fod yn gyflym felly mae angen i chi roi sylwadau yn ddi-oed.

Noder: mae’n bosibl y bydd cynnwys eich sylwadau’n cael ei ddatgelu o dan ofynion Rhyddid Gwybodaeth. Yn unol ag egwyddorion diogelu data, ni fyddai eich data personol yn cael ei ddatgelu.

Gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy::

  • Ebost yn [email protected]  
  • Ein ffurflen adborth ar-lein
  • Y post i Party Registration, The Electoral Commission, 3 Bunhill Row, London EC1Y 8YZ
  • Ffacs ar 020 7271 0505

Os ydych wedi rhoi sylwadau, gallwch weld canlyniad y cais yn yr adran Penderfyniadau ynghylch cofrestru pleidiau.