Overview of our decision

Unwaith i’r asesiad gael ei gwblhau bydd yn cael ei roi, ynghyd â’r sylwadau perthnasol gerbron Bwrdd Cymeradwy mewnol y Comisiwn. Mae’r Bwrdd hwn yn cynnwys uwch swyddogion y Comisiwn. Cadeirydd y Bwrdd yw’r Cyfarwyddwr Rheoleiddio, sydd fel arfer yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran eich cais.

Unwaith y byddwn wedi gwneud penderfyniad, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein penderfyniad ar-lein.

Os caiff eich cais, neu ran o’ch cais, ei wrthod, byddwch yn gallu cyflwyno cais newydd. Ni fydd rhaid i chi dalu ffi gwneud cais arall os byddwch yn cyflwyno cais i ni o fewn un mis calendr o’r adeg y byddwn yn cysylltu â chi. Dim ond un cyfle a gewch i gyflwyno cais newydd heb ffi. Bydd angen ffi gwneud cais na chaiff ei had-dalu ar gyfer unrhyw geisiadau pellach ar ôl hynny.

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn penderfynu nad yw eich cais yn gyflawn?

Os nad yw eich cais yn gyflawn, ni ellir cofrestru’r blaid..

Beth fydd yn digwydd os nad yw eich cynllun ariannol neu’ch cyfansoddiad yn bodloni gofynion PPERA?

Os nad yw eich cynllun ariannol neu’ch cyfansoddiad yn bodloni gofynion PPERA, ni ellir cofrestru’r blaid.

Beth fydd yn digwydd os na allwn gofrestru enw eich plaid?

Os nad yw enw eich plaid yn bodloni'r profion statudol yn ein barn ni, ni ellir cofrestru’r blaid.

Beth fydd yn digwydd os na allwn gofrestru eich disgrifiad neu arwyddlun? 

Ar yr amod bod gweddill eich cais yn bodloni’r profion statudol, byddwn yn mynd ati i gofrestru eich plaid o hyd. Ond byddwn yn gwrthod y disgrifiad neu'r arwyddlun penodol nad yw'n bodloni'r gofynion.

Faint o amser y bydd y broses gofrestru yn ei gymryd?

Rydym yn prosesu ceisiadau o’r adeg y dônt i law i’r adeg y penderfynir arnynt cyn gynted â phosibl, fodd bynnag, rydym yn cymryd yr amser sydd ei angen arnom i asesu cais a chael ein bodloni ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir. Mae penderfyniadau ar geisiadau cofrestru yn benderfyniadau statudol pwysig.

Rhaid i ni asesu ceisiadau yn ofalus yn erbyn y profion statudol yn PPERA. Gall y broses hon gymryd amser er mwyn sicrhau ein bod yn dod i gasgliad teg o fewn y gofynion deddfwriaethol.

Pan fyddwch wedi darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn ysytired eich cais, bydd y broses gofrestru fel arfer yn cymryd tua chwe wythnos. Mewn rhai achosion, gall gymryd llai neu fwy o amser na hynny.

Gwrthwynebu ein penderfyniad

Os byddwn yn gwrthod eich cais yn gyffredinol, neu'n gwrthod marc adnabod penodol, gallwch ddewis cyflwyno cais newydd. Caiff pob cais ei asesu yn erbyn y profion statudol yn PPERA.

Byddwn bob tro yn esbonio pam ein bod wedi gwrthod cais. Os oes gennych gwestiynau am y rhesymau dros ein penderfyniad i wrthod cais neu farc adnabod penodol, cysylltwch â ni.

Nid oes hawl apelio statudol yn erbyn ein penderfyniad. Os byddwch yn anghytuno â'n penderfyniad a'r rhesymau drosto, rhaid i chi geisio rhwymedi drwy'r llysoedd drwy wneud cais am adolygiad barnwrol o'n penderfyniad.

Gallech hefyd holi a fyddai'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn barod i ystyried y mater ond byddai angen i chi ddilyn ein proses gwyno y cyfeirir ati isod yn gyntaf.

Os credwch nad ydym wedi dilyn ein proses weinyddol ein hun wneud penderfyniad ar eich cais, gallwch gwyno drwy ddefnyddio ein proses gwyno.

Mae'r broses hon yn ymdrin â'r canlynol:

  • methiant i gasglu neu ystyried gwybodaeth benodol yn gywir  
  • rhagfarn wrth ddod i benderfyniad 
  • oedi afresymol y 

Rhaid i chi fod yn glir ynghylch natur eich cwyn, gan ddarparu tystiolaeth lle y bo'n bosibl yn hytrach na gwneud honiad yn seiliedig ar y ffaith eich bod yn anghytuno â chanlyniad penderfyniad.