Meini prawf ar gyfer cofrestru enw, disgrifiadau neu arwyddluniau plaid

Overview of criteria for registration

Fel canllaw, ni allwn gofrestru enw, disgrifiad nac arwyddlun sydd, yn ein barn ni:

  • yn debygol o gamarwain pleidleiswyr
  • yr un peth ag enw, disgrifiad neu arwyddlun cofrestredig arall sydd ar yr un gofrestr
  • yr un peth ag enw, disgrifiad neu arwyddlun gan blaid ddadgofrestredig a oedd ar yr un gofrestr ac sydd wedi'i ddiogelu
  • yn gallu peri i bleidleiswyr ei ddrysu ag enw, disgrifiad neu arwyddlun plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru neu ei ddiogelu
  • yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau pleidleisio a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio
  • yn anweddus neu'n sarhaus
  • yn cynnwys geiriau gwaharddedig penodol
  • yn acronym, neu'n cynnwys acronym neu dalfyriad nad yw'n adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang, ac nad yw wedi'i sillafu fesul llythyren
  • wedi'i gysylltu mewn unrhyw ffordd â deunydd ar-lein neu sy'n cyfeirio at gynnwys ar-lein
  • yn cynnwys cyfeiriad at enw unigolyn oni bai bod yr unigolyn yn uniongyrchol gysylltiedig â'ch plaid
  • ag arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr)
  • yn hirach na chwe gair
  • nad yw mewn sgript Rufeinig (h.y. yr wyddor Lladin)
  • yn debygol o gyfateb i drosedd os caiff ei gyhoeddi

Overview of criteria for registration

Rhifolion

Rydym yn annhebygol o gymeradwyo enw, disgrifiad neu arwyddlun os yw'n dechrau neu'n gorffen gyda rhif. Bydd angen i chi ei sillafu fel gair. Mewn rhai etholiadau, gofynnir i bleidleiswyr roi ymgeiswyr mewn trefn o ran eu dewis gan ddefnyddio rhifau, ac mae perygl y bydd cael rhif yn yr un enw yn gamarweiniol. 

Ieithoedd

Gallwch wneud cais i ddefnyddio iaith heblaw Saesneg. Gallwch gofrestru enw, disgrifiadau ac arwyddluniau eich plaid yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer cofrestr Prydain Fawr neu yn Saesneg a Gwyddeleg ar gyfer cofrestr Gogledd Iwerddon.

Yng Nghymru, gall y fersiynau cofrestredig Cymraeg a Saesneg ymddangos ar bapurau pleidleisio. Mewn rhannau eraill o'r DU, dim ond mewn un iaith y gall enw'r blaid ymddangos ar y papur pleidleisio.

Os ydych am gofrestru enw, disgrifiadau neu arwyddluniau mewn iaith ar wahân i Saesneg, rhaid i chi ddarparu cyfieithiad Saesneg cywir fel rhan o'ch cais. Caiff pob cyfieithiad ei wirio i gadarnhau ei fod yn gywir. Rhaid i enw plaid a'r disgrifiadau fod mewn sgript Rufeinig (yr wyddor Lladin). 

‘Dim o'r uchod’

Ni chewch gofrestru ‘Dim o'r uchod’ nac ymadroddion tebyg, naill ai ar eu pen eu hunain nac ar y cyd â geiriau neu ymadroddion eraill.

Hawlfraint a nodau masnach

Nid ydym yn archwilio i weld a oes achos o dorri hawliau eiddo deallusol wrth gofrestru nodau adnabod plaid. Felly, cyn i chi wneud cais, dylech sicrhau nad yw eich nodau adnabod yn torri unrhyw gyfreithiau hawlfraint a nodau masnach. 

Os byddwch yn cofrestru nodau adnabod eich plaid ac yna'n darganfod eu bod yn torri cyfreithiau hawlfraint neu nodau masnach, gallai'r perchennog cofrestredig wneud her gyfreithiol yn eich erbyn. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y Llywodraeth.