Pam rydym yn adolygu terfynau gwariant ymgyrchu etholiadol
Croesawn ymatebion yn seiliedig ar eich profiadau, eich sylwadau, eich arbenigedd proffesiynol, eich ymchwil neu wybodaeth arall. Pan fo modd, darparwch enghreifftiau a thystiolaeth a fydd yn helpu chi i egluro eich barn.
Cyn darparu eich ymatebion, rydym yn argymell eich bod yn darllen beth mae ein hadolygiad o derfynau gwariant yn ei olygu a pham rydym yn adolygu terfynau gwariant.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad tryloyw ac fel rhan o hyn byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion ysgrifenedig a gawn drwy'r wefan hon. Byddwn hefyd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd gan y Comisiwn wrth i ni fwrw ymlaen â'r adolygiad o derfynau gwariant.