Rhannwch eich barn ar derfynau gwariant ymgyrchu etholiadol
Mae rhai terfynau gwariant wedi cael eu hadolygu sawl gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf. Er enghraifft, cafodd terfynau gwariant ymgeiswyr eu hadolygu gan y Comisiwn yn 2005 ac yn 2014. Fodd bynnag, nid oes adolygiad llawn wedi bod o'r terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr trydydd parti ar draws pob etholiad.
Yn 2023, drwy Orchymyn Cynrychiolaeth y Bobl 2023, cynyddodd Llywodraeth y DU y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol o tua 80%, gan godi'r terfyn ymgyrchu cenedlaethol o tua £19 miliwn i £34 miliwn. Cynyddodd terfynau gwariant ymgeiswyr hefyd o tua 30%.
Yn fwy diweddar, diweddarodd llywodraeth Cymru derfynau gwariant ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 yng Nghymru a chynyddodd Llywodraeth y DU derfynau treuliau etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r Llywodraeth bellach wedi gofyn i ni adolygu a yw'r terfynau presennol yn parhau i fod yn briodol.
Bydd ein hadolygiad yn asesu a yw'r fframwaith presennol o derfynau gwariant:
yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur
yn cefnogi hyder y cyhoedd yn y ffordd y cynhelir ymgyrchoedd etholiadol.