Overview of registering or maintaining a political party

Bydd angen i chi gofrestru eich plaid wleidyddol os ydych yn dymuno i enw, disgrifiadau ac arwyddlun eich plaid ymddangos ar bapurau pleidleisio.

Nid oes hawl awtomatig i gofrestru. Os nad yw eich cais yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru, ni ellir cofrestru eich plaid.

Gall ymgeiswyr annibynnol sefyll etholiad heb fod plaid wedi'i chofrestru. 

Er mwyn cofrestru, rhaid bod eich plaid yn bwriadu ymladd etholiadau. 

Rhaid i chi gadw manylion eich plaid yn gyfredol ar ôl i chi gofrestru. Gallwch ddewis newid enw eich plaid, neu addasu neu ychwanegu disgrifiadau neu arwyddluniau.

Cofrestrau pleidiau gwleidyddol

Mae dwy gofrestr o bleidiau gwleidyddol yn y DU – un ar gyfer Prydain Fawr ac un ar gyfer Gogledd Iwerddon. Rydym yn cynnal y ddwy gofrestr hyn.

Mae'r cofrestrau yn cynnwys manylion pob plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru i ymladd etholiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban (cofrestr Prydain Fawr) a Gogledd Iwerddon (cofrestr Gogledd Iwerddon) neu mewn rhai o'r gwledydd hynny.

Ein dyletswydd statudol i gynnal y cofrestrau

Mae'n bosibl y byddwn yn adolygu'r cofrestrau er mwyn sicrhau bod plaid, a'i henw, ei disgrifiadau a'i harwyddluniau, yn parhau i fodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru. Os na fyddant yn bodloni'r meini prawf mwyach, cânt eu tynnu oddi ar y gofrestr. Os bydd amgylchiadau plaid yn newid neu na fydd yn gweithredu'n unol â'i chyfansoddiad neu ei chynllun ariannol, mae'n bosibl y byddwn yn adolygu cofrestriad y blaid. Os na fydd plaid yn ymladd etholiadau, mae'n bosibl y byddwn hefyd yn adolygu ei chofrestriad. 

Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw adolygiad o'r fath.