Mae'n hanfodol bod pawb sydd am gymryd rhan yn y refferendwm hanesyddol yma'n gallu gwneud.
Roedd cynnydd sylweddol iawn yn y ceisiadau i gofrestru ddoe ar wefan y Llywodraeth. Fodd bynnag, cododd problemau gyda gwefan y Llywodraeth oddeutu 1015pm ac ni chawsant eu datrys nes ar ôl y dyddiad cau am ganol nos.
Mae'r Llywodraeth yn edrych mewn i beth yn union ddigwyddodd.
Bydd nifer o bobl oedd am gofrestru i bleidleisio neithiwr ac nid oeddent yn gallu. Mae'r dyddiad cau i gofrestru wedi'i nodi mewn deddfwriaeth ac ry'n ni wedi dweud wrht y Llywodraeth y bore yma y dylent ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl byddai'n estyn y dyddiad cau yma. Byddem yn cefnogi newid o'r fath.
Diwedd
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
Nid oes gan y Comisiwn Etholiadol rym i gyfarwyddo Swyddogion Cofrestru Etholiadol i newid y dyddiad cau cofrestru.
Cyn i'r problemau gyda'r wefan godi, roedd mwy na 525,000 o geisiadau i gofrestru ddoe.
Roedd 302,000 o'r rhain gan bobl o dan 35 (107,000 ar gyfer pobl 25 i 34 mlwydd oed, 132,000 ar gyfer rhai dan 25)
Y cyfanswm nifer o geisiadau i gofrestru ers lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd y Comisiwn Etholiadol yw 2,178,000
Y nifer mwyaf blaenorol o geisiadau i gofrestru oedd 485,000 ar y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU yn 2015.