Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 406
Yn y rhifyn hwn
- Cod Ymddygiad i arsylwyr etholiadol achrededig
- Etholiadau Mai 2026: cynnal cyfrinachedd y bleidlais
- Baneri mewn ac o amgylch gorsafoedd pleidleisio
- Etholiad Senedd Mai 2026: cyngor y tu hwnt i oriau arferol yn ystod cyfnod yr etholiad
- Etholiadau Senedd Mai 2026: newidiadau i’r gofrestr
- Diolch am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Cod Ymddygiad i arsylwyr etholiadol achrededig
Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r Cod Ymddygiad newydd i Arsylwyr Etholiadol Achrededig yn ogystal â Chanllawiau newydd i gefnogi Arsylwyr achrededig i ymgymryd â’u harsylwi.
Mae’r cynllun Arsylwr Etholiadol Achrededig yn elfen allweddol o’n democratiaeth, ac mae’n bwysig y diogelir yr hawl i arsylwi prosesau democrataidd. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgareddau arsylwyr effeithio ar uniondeb y broses etholiadol.
Datblygwyd y cod newydd ac ymgynghorwyd arno drwy gydol hydref 2025, a chafodd y cod terfynol ei gynnwys yn Senedd yr Alban a San Steffan a Senedd Cymru, yn unol â gofynion y gyfraith. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn arsylwyr presennol, sefydliadau arsylwi, gweinyddwyr etholiadol a chafodd ei wneud ar gael i’r cyhoedd hefyd.
Mae’r cod wedi’i ddiweddaru bellach yn disodli’r hen fersiwn, a disgwylir i arsylwyr achrededig ddilyn y cod a’r canllawiau cysylltiedig drwy gydol cyfnod eu hachrediad.
Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi Canllawiau penodol i Senedd yr Alban, y Senedd, ac Etholiadau Lleol Lloegr cyn etholiadau mis Mai 2026
Etholiadau Mai 2026: cynnal cyfrinachedd y bleidlais
Yn dilyn cyhoeddi ein canllawiau wedi’u diweddaru i arsylwyr a’r cod arsylwi newydd, rydym yn anfon y nodyn atgoffa hwn ynghylch y gofynion sy’n ymwneud â chyfrinachedd y bleidlais yn yr orsaf bleidleisio.
Rôl staff gorsafoedd pleidleisio yw sicrhau y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais yn annibynnol, yn gyfrinachol ac yn rhydd rhag dylanwad yn yr orsaf bleidleisio.
Mae ein Llawlyfr i Staff Gorsafoedd Pleidleisio yn nodi’n glir bod rhaid i bleidleiswyr fynd i’r bythau pleidleisio ar eu pen eu hunain, oni bai eu bod yn cael cymorth gan gydymaith awdurdodedig oherwydd anabledd neu gwmni plentyn.
Os yw staff yn gweld unrhyw unigolyn arall yn ceisio mynd i’r bwth pleidleisio gyda phleidleisiwr, mae’n rhaid iddynt fynd ato a dweud wrtho am stopio, gan y gallai hyn dorri’r gofynion cyfrinachedd.
Yn ogystal â hynny, gallai rhywun sy’n mynd i’r bwth pleidleisio â phleidleisiwr fod yn euog o ddylanwad gormodol os pennir ei fod yn gwneud hynny i wneud y pethau canlynol:
- perswadio neu orfodi’r pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol
- atal y pleidleisiwr rhag pleidleisio
- rhwystro neu atal y pleidleisiwr rhag gwneud ei benderfyniad ei hun ynghylch sut i fwrw ei bleidlais
Gan mai’r Swyddog Llywyddu sy’n gyfrifol am gynnal trefn yn yr orsaf bleidleisio, dylai ymyrryd gyda’r pwerau sydd ar gael iddo, os yw’n arsylwi achos posibl o gamymddwyn. Gall hynny gynnwys gorchymyn i bleidleisiwr gael ei symud o’r orsaf bleidleisio gan swyddog yr heddlu neu gan berson a awdurdodwyd i wneud hynny gan y Swyddog Canlyniadau, os nad yw’n newid ei ymddygiad.
Pan fo hyn yn digwydd, dylid ei gofnodi yng nghofnod yr orsaf bleidleisio.
Hefyd, hoffem eich atgoffa ein bod wedi cynhyrchu, fel rhan o’n hymgyrch ‘Dy Bleidlais Di a Neb Arall’, ystod o bosteri a phamffledi y gallwch eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i egluro i bleidleiswyr ei bod yn anghyfreithlon i rywun ddylanwadu ar bleidlais person arall yn erbyn ei ewyllys
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch y mater hwn, cysylltwch â thîm yr Alban ar [email protected].
Baneri mewn ac o amgylch gorsafoedd pleidleisio
Rydym yn ymwybodol bod gan rai Swyddogion Canlyniadau bryderon ynghylch presenoldeb baneri mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Efallai y bydd rhai pobl yn gweld baner benodol fel un sy'n gysylltiedig â safbwynt gwleidyddol. Fodd bynnag, nid yw baner ynddi ei hun yn perthyn i blaid wleidyddol ac nid oes dim yn y gyfraith etholiadol sy'n ymwneud yn benodol â chael gwared ar faneri.
Mae'r cyngor isod yn ailadrodd cyfrifoldebau cyfreithiol Swyddogion Canlyniadau ac yn cynnwys camau y gallwch eu cymryd nawr i gefnogi eich gwaith cynllunio ar gyfer rheoli pryderon ynghylch baneri mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Cyfrifoldebau'r Swyddog Canlyniadau
Mae mannau pleidleisio wedi'u dynodi gan yr awdurdod lleol ac mae Swyddogion Canlyniadau yn gyfrifol am benderfynu ble mae gorsafoedd pleidleisio wedi'u lleoli o fewn y man pleidleisio.
O fewn yr orsaf bleidleisio, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau sicrhau ei bod yn amgylchedd sy'n niwtral yn wleidyddol ar ddiwrnod yr etholiad, felly ni ddylai unrhyw ddeunydd ymgyrchu gael ei arddangos yn y safle nac ar y safle. Lle canfyddir unrhyw ddeunyddiau o'r fath, rhaid eu symud neu eu gorchuddio.
Mewn achosion lle mae baneri yn bresennol mewn neu ar orsaf bleidleisio a bod y Swyddog Canlyniadau o'r farn, yng nghyd-destun penodol ymgyrchu yn yr ardal etholiadol honno, fod y baneri wedi'u bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr, mae gan y Swyddog Canlyniadau hawl i symud neu orchuddio'r baneri.
Camau y gallwch eu cymryd nawr
Dylech asesu a ydych chi'n credu y bydd baneri'n achosi problem yn eich ardal leol, ymhell cyn diwrnod yr etholiad, yn seiliedig ar leoliad eich gorsafoedd pleidleisio a chyd-destun penodol ymgyrchu'n lleol.
Lle rydych chi'n credu bod risg, dylech chi weithio gyda phwynt cyswllt unigol eich heddlu lleol, fel rhan o'ch ymgysylltiad cyn yr etholiad, yn ogystal â chydweithwyr o'r awdurdod lleol, fel y tîm cyfreithiol, y tîm cynllunio, a’r tîm priffyrdd. Gallwch ystyried:
- a yw unrhyw faneri fel arfer yn cael eu chwifio mewn lleoliadau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio neu gerllaw, er enghraifft mewn adeiladau dinesig.
- a fu unrhyw ymgyrchu lleol neu arddangosfa o faneri a allai achosi problem drwy annog neu ddychryn etholwyr.
- unrhyw gyngor gan gydweithwyr yr heddlu lleol ar reoli'r etholiad yn eich ardal
- unrhyw bolisïau presennol sy'n ymwneud â chwifio baneri awdurdodedig ar safleoedd awdurdod lleol neu ddefnyddio dodrefn stryd sy'n eiddo i'r cyngor (megis pyst lampau) heb awdurdod i arddangos baneri
Os oes gennych bryderon ynghylch presenoldeb baneri y tu hwnt i'r orsaf bleidleisio, dylid trafod hyn yn eich trafodaethau gyda chydweithwyr ar draws yr awdurdod lleol.
Yna gallwch benderfynu a dogfennu eich dull o reoli unrhyw faneri presennol ger gorsafoedd pleidleisio a chytuno ar ba gamau y byddwch yn eu cymryd os bydd baneri'n ymddangos mewn gorsafoedd pleidleisio neu gerllaw ar ddiwrnod yr etholiad. Gallwch hefyd gysylltu ag unrhyw berchnogion lleoliadau gorsafoedd pleidleisio yn ôl yr angen.
Cyfathrebu
Ar ôl cytuno, dylech ystyried sut rydych chi'n cyfleu eich dull gweithredu i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn diwrnod yr etholiad, fel eu bod nhw'n gwybod am ba gamau a gymerir. Wrth gysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid, gallwch hefyd eu cyfeirio at ein canllawiau ar ymgyrchu ac yn benodol y Cod Ymddygiad ac yn benodol y Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr.
Os cymerwch unrhyw gamau ar ddiwrnod yr etholiad, dylech sicrhau eich bod yn cadw trywydd archwilio o'r penderfyniadau a gymerwyd a, lle bo'n ymarferol, eich bod yn cyfleu unrhyw benderfyniadau a gymerwyd i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y mater hwn, cysylltwch â thîm Cymru drwy anfon neges e-bost at [email protected].
Etholiad Senedd Mai 2026: cyngor y tu hwnt i oriau arferol yn ystod cyfnod yr etholiad
Byddwn yn cynnig gwasanaeth cyngor dros y ffôn y tu hwnt i oriau arferol i helpu ag ymholiadau brys o ran gweinyddu etholiad yn y cyfnod cyn etholiad Mai 2026 a’r cyfnod yn syth ar ôl.
Cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa arferol
Bydd ein timau lleol ar gael rhwng 08:30 a 17:30 drwy gydol cyfnod yr etholiad i gefnogi chi yn ôl yr arfer.
Os ydych chi’n cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa arferol, defnyddiwch ein Llinell Cyngor ac Arweiniad: 0333 103 1928.
Fel arall, gallwch anfon e-bost atom: [email protected].
Cysylltu â ni y tu hwnt i oriau gwaith arferol
Bydd ein gwasanaeth cyngor brys y tu hwnt i oriau arferol ar gael o ddydd Llun 23 Mawrth. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc trwy gydol cyfnod yr etholiad. Bydd y gwasanaeth gyda’r nos ar gael o 17:30 tan 21:00 ac ar gael ar benwythnosau a gwyliau banc o 10:00 tan 16:00.
Yn ogystal â hynny, bydd y gwasanaeth ar gael 24 awr ar y diwrnod pleidleisio, ac ar gael ar benwythnos y dydd Sadwrn 9 Mai a dydd Sul 10 Mai.
Gallwch gysylltu â ni y tu hwnt i oriau arferol drwy ffonio: 07824 464350.
Etholiadau Senedd Mai 2026: newidiadau i’r gofrestr
Mae ein canllawiau’n nodi’r hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar ei gyfer o ran newid, dileu ac ychwanegu enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau pleidiau.
Gan nad oes llawer o amser ar ôl i gyflwyno enwebiadau, rydym yn rhoi gwybod i bleidiau na fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau newydd a gyflwynir o hyn ymlaen i gofrestru plaid wleidyddol newydd, newid enw plaid, newid neu ychwanegu arwyddlun, neu ychwanegu disgrifiad mewn pryd i’w ddefnyddio ar y papur pleidleisio yn yr etholiad.
Fodd bynnag, efallai y gwnawn rai newidiadau os yw’r ceisiadau eisoes ar y gweill. Er ein bod yn bwriadu ychwanegu diweddariadau i gofrestru pleidiau gwleidyddol ar-lein erbyn dydd Mercher 1 Ebrill, mae posibilrwydd o hyd y gall fod angen i ni wneud rhagor o ddiweddariadau ar ôl y dyddiad hwnnw. Y dyddiad olaf i ychwanegu pleidiau newydd, neu enwau, disgrifiadau neu arwyddluniau newydd i’r gofrestru yw dydd Mawrth 7 Ebrill 2026. Os bydd unrhyw newidiadau ar ôl dydd Mercher 1 Ebrill, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn y Bwletin ar 8 Ebrill.
Crynhoi diweddariadau i enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau pleidiau
Rydym wedi llunio crynodeb o’r diweddariadau o ran newidiadau i enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau pleidiau ers 28 Mawrth 2025.
Gallwch weld manylion ynghylch pa newidiadau a wnaed yn ein rhestr o benderfyniadau diweddar i gymeradwyo neu wrthod ceisiadau i newid enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau.
Pan gaiff Swyddogion Canlyniadau enwebiadau, mae’n rhaid iddynt wirio bod enw’r blaid neu unrhyw ddisgrifiad a roddwyd ar ffurflen enwebu, yn ogystal â’r arwyddlun y gofynnwyd amdano, wedi’u cofrestru ar gofrestru pleidiau gwleidyddol y Comisiwn a gwirio a yw’r manylion a roddwyd yn cyfateb i’r gofrestr. Efallai y bydd angen i chi ddileu rhestr hanes eich porwr neu ddiweddaru’r dudalen i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar y wybodaeth fwyaf cyfredol. Os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn, dylai eich tîm TG allu eich cynghori
Ffeil Sip Arwyddlun
Mae ffeil Sip o luniau arwyddluniau ar gael ar ein gwefan a chafodd ei diweddaru diwethaf ar 13 Mawrth 2026.
Dylai eich argraffwr ddefnyddio’r ffeil Sip i baratoi’r papur pleidleisiau, ond dylid defnyddio’r wybodaeth ar gofrestru pleidiau gwleidyddol y Comisiwn i gadarnhau pa arwyddlun a pha ddisgrifiad i’w hargraffu ar y papurau pleidleisio. Dylech felly sicrhau eich bod chi a’ch argraffwyr yn lawrlwytho a defnyddio’r ffeil Sip ar ôl i’r enwebiadau gau.
Cysylltwch â [email protected] os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill.
Crynhoi diweddariadau
Mae crynodeb o’r diweddariadau a wnaed gennym ni ers 28 Mawrth 2025 i’w weld yn y gwymplen isod.
Tabl o ddiweddariadau
| Plaid | Math y cais |
|---|---|
| Plaid Annibynnol Casnewydd | Arwyddlun newydd |
| Propel | Arwyddlun newydd |
| Plaid | Math y cais |
|---|---|
| Advance UK | Plaid newydd |
| Britain's New Dawn | Plaid newydd |
| Plaid British Unionist | Enw newydd (British Unionist Party – B.U.P. ynghynt) |
| English Democrats | Disgrifiadau newydd |
| Forward Party | Plaid newydd |
| GB Freedom | Plaid newydd |
| Heritage Party | Arwyddluniau a disgrifiadau newydd |
| Imagine | Plaid newydd |
| Y Blaid Lafur | Disgrifiadau newydd |
| Majority | Arwyddlun newydd a disgrifiadau newydd |
| National Housing Party United Kingdom | Disgrifiadau newydd |
| National Liberal Party - True Liberalism | Arwyddlun newydd |
| National Unity Party (NUP) | Plaid newydd |
| Open Party | Arwyddlun newydd |
| Progress | Plaid newydd |
| Reform UK | Disgrifiadau newydd |
| Rejoin EU | Disgrifiadau newydd |
| Restore Britain | Plaid newydd |
| The Official Monster Raving Loony Party | Arwyddlun newydd |
| The Progressive Unity Party | Plaid newydd |
| Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) | Arwyddlun newydd |
| Workers Party of Britain | Disgrifiadau newydd |
| Workers Party of Britain / Birmingham Community Independents | Disgrifiad ar y cyd newydd |
| World humanity revolution, UK | Plaid newydd |
| Your Party | Plaid newydd |
Pleidiau sydd wedi’u dadgofrestru ers mis Mawrth 2025:
• Boston Independent
• Britain Reborn
• Castle Baynard Independents Party
• Communist Future
• English Parliamentary Party
• Ewell Court Residents' Association
• Fairer Voting Party
• GBPeople's Party
• Hatfield DN7 First
• Hersham Village Society
• Hornchurch and Upminster Independents
• Humanity
• Independent Community Advocates (ICA)
• Malvern Hills Independents
• Mansfield Independents
• Matriarchal Party United Kingdom Great Britain
• National Health Action Party
• National Identity Networking Gang
• New Parliament Party
• Nova Forte
• Oxford Community Socialists
• Our Island
• Sandown Independents
• Shropshire First
• Skegness urban district society
• Social Justice Party
• St. Neots Independent Group
• Thanet Independents
• The Independent Choice
• UK Meritocracy Party
• Vanguard Party
• West Windsor Residents Association
Diolch am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Hoffem ddiolch o galon i chi a’r holl ysgolion, colegau, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, awdurdodau lleol, sefydliadau ieuenctid a’r bobl ifanc a gymerodd ran yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026.
Oherwydd eich cefnogaeth chi, llwyddom i gyrraedd pobl ifanc ledled y DU i rannu’r neges ynghylch pwysigrwydd addysg ddemocrataidd a dysgu beth mae pleidleisio’n ei olygu i bobl ifanc.
Gwelsom weithgareddau a digwyddiadau gwych yn cael eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol ac edrychwn ymlaen at rannu uchafbwyntiau gyda chi’n fuan, yn ogystal â gwybodaeth am effaith yr wythnos.
Beth yw eich barn ar yr Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026?
Helpwch i wneud Wythnos Croeso i Dy Bleidlais y flwyddyn nesaf yn hyd yn oed yn well drwy lenwi ein harolwg byr. Rydym eisiau dysgu sut y mae’r wythnos yn effeithio ar bobl ifanc a sut y gallwn wella ar gyfer y dyfodol.
Os oes gennych chi luniau o’ch digwyddiadau neu’ch gweithgareddau, hoffem eu gweld - anfonwch nhw dros e-bost i [email protected] a chynnwys manylion am eich digwyddiadau.