Guidance for Candidates and Agents at Greater London Authority elections
Pwy sy'n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr?
Rhaid i ymgeiswyr a’u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol ynghylch faint y gallant ei wario, gan bwy y gallant dderbyn rhoddion, a’r hyn y mae’n rhaid iddynt adrodd arno ar ôl yr etholiad.
Yr asiant etholiadol sydd â’r brif gyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r rheolau hyn, hyd yn oed os ydynt yn penodi is-asiant i helpu i reoli gwariant.
Fodd bynnag, ar ôl yr etholiad, rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant lofnodi datganiadau i ddweud bod eu ffurflen gwariant a rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth.
Mae hyn yn golygu bod angen i ymgeiswyr hefyd fod yn gwbl ymwybodol o’r rheolau.
Gwariant
Mae’r rheolau’n berthnasol i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol yn y cyfnod cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Pan ddefnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ rydym yn golygu’r amser pan fydd terfynau gwariant a chyfreithiau yn berthnasol.
Mae gwariant ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw dreuliau a ysgwyddir, boed ar nwyddau, gwasanaethau, eiddo neu gyfleusterau, at ddibenion etholiad yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Rydym yn defnyddio "a ysgwyddir" yn y cyfystyr gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hyn yn cynnwys:
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ei ystod
- gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% - sef ‘gwariant tybiannol’
Mae yna reolau sy’n cwmpasu:
- pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
- faint y gallwch ei wario
- pa weithgareddau sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
- dyddiadau olaf i dderbyn a thalu anfonebau
- pa gofnodion sy’n rhaid i chi eu cadw
- sut a phryd mae angen i chi adrodd am eich gwariant
Gelwir gwariant ymgeiswyr yn aml yn ‘dreuliau’. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gellir adennill gwariant gan y cyngor lleol, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid yw hyn yn wir. Does dim hawl gennych adfer unrhyw wariant o gronfeydd cyhoeddus.
Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd ar wariant ymgeiswyr ar ôl yr etholiad yn Gwariant ymgeiswyr.
Rhoddion
Dim ond o ffynonellau penodol sydd bennaf yn y DU y gall ymgeiswyr dderbyn rhoddion o arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ymgyrchu, a rhaid iddynt roi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau lleol ar ôl yr etholiad.
Mae hyn yn cynnwys rhoddion gan eich plaid leol.
Os penodir asiant etholiadol, rhaid trosglwyddo rhoddion iddynt cyn gynted â phosibl. Rhaid i’r asiant wedyn wirio a ellir derbyn y rhodd ai peidio.
Rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant lofnodi datganiad ar eu ffurflen treuliau i ddweud bod y ffurflen rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Felly mae angen i’r ymgeisydd sicrhau bod ei asiant yn dilyn y rheolau.
Os nad oes asiant wedi’i benodi, yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am drin a gwirio rhoddion.
Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion ymgeiswyr.