Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Canllaw cryno – Casglu data ar ôl yr etholiad

Casglu data ac adborth mewn etholiad cyffredinol

Mewn etholiad cyffredinol, byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth a data atom mewn perthynas â'r etholiad.  

Caiff ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw ategol ar gyfer eu cwblhau, yn ogystal â ffurflen adborth y Comisiwn, eu dosbarthu ar wahân a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan. 

Datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post

Rhaid i chi gwblhau datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth.1
 
Mae'r ddogfen hon yn hanfodol ar gyfer cyfrifo pleidleisiau post ac am sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt.  

Dylai'r datganiad fod yn rhan o'r trefniadau sydd ar waith gennych i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisiau post a chyfrif.  

Dylech gwblhau'r datganiad yn gywir gan ddefnyddio'r ffigurau a gofnodwyd wrth anfon, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.

Cewch ragor o wybodaeth am gadw cofnodion yn ystod y broses pleidleisio drwy'r post yn ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post.  Byddwn yn darparu datganiad templed o ran papurau pleidleisio drwy'r post, y dylid ei ddefnyddio. Dylai'r nodiadau canllaw ategol eich helpu i gwblhau'r rhain.  

Datganiad templed o ran papurau pleidleisio drwy'r post

Ble i anfon y datganiad o ran papurau pleidleisio

Rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad a gwblhawyd ar yr un pryd ac i'r un person rydych yn anfon y dogfennau etholiadol eraill a restrir yn ein canllawiau ar Anfon neu gadw dogfennau etholiadol ato.

Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o'r datganiad i ni yn y Comisiwn a'r Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid i'r datganiad beidio â chael ei ddarparu cyn y degfed diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio, ond rhaid iddo gyrraedd erbyn y pumed diwrnod calendr ar hugain ar ôl y diwrnod pleidleisio fan bellaf.2  Os nad yw'r naill ddyddiad na'r llall yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei ymestyn i'r diwrnod gwaith nesaf.  

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweinyddu'r dogfennau a ddychwelwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, a dylai datganiadau gael eu hanfon i [email protected]  gan ddefnyddio teitl pwnc ‘[enw'r awdurdod] – Form K return for the Secretary of State’.  

Rhoddir manylion am sut i gyflwyno'r wybodaeth hon i ni mewn Bwletin gan y Comisiwn i Weinyddwyr Etholiadau. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mai 2025