| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhoi gwybodaeth am brosesau etholiadol allweddol

Fel rhan o'ch cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid a'u helpu i gymryd rhan yn yr etholiad, bydd angen i chi benderfynu sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu i ymgeiswyr.  

Bydd trefniadau lleol yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
•    anfon ac agor pleidleisiau post
•    pleidleisio
•    dilysu a chyfrif pleidleisiau

Dylai eich sesiwn neu sesiynau briffio hefyd amlygu unrhyw drefniadau diogelwch rydych wedi'u rhoi ar waith mewn ymgynghoriad â'r heddlu. Efallai y byddwch am wahodd eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu i fynychu unrhyw sesiynau briffio, neu ddarparu deunydd ysgrifenedig y gallwch ei roi i ymgeiswyr ac asiantiaid.

Dylech hefyd nodi sut rydych yn disgwyl i gefnogwyr ymddwyn yn yr ardal bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio.
Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau ar Gadw trefn ac atal dylanwad gormodol y tu mewn i orsafoedd pleidleisio.  Bwriedir i'r ddogfen hon helpu'r heddlu i ystyried y ffordd orau o blismona gorsafoedd pleidleisio ac mae'n cynnig rhai camau ymarferol i'w helpu i leihau'r tebygolrwydd o broblemau a delio ag unrhyw rai sy'n codi. Er ei bod wedi'i hanelu at y pwynt cyswllt unigol, gall hefyd fod o fudd i chi, yn enwedig wrth gyfleu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio i ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylai gael ei darllen ar y cyd ag adran 3 o'r Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr: cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio.

Cod ymddygiad i ymgyrchwyr 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2025