Ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau, heddluoedd a phleidiau gwleidyddol, mae'r Comisiwn wedi llunio Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr yn ystod etholiadau a refferenda. Mae'r cod yn gymwys i bob ymgyrchwr, ac mae'n nodi safonau ymddygiad priodol y cytunwyd arnynt cyn ac yn ystod etholiad neu refferendwm.
Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr yn ystod etholiadau a refferenda
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi datblygu templed o lythyr sy'n gofyn i ymgeiswyr gytuno y byddant yn cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a dylech roi'r templed hwn i bob ymgeisydd sy'n sefyll yn etholiad Senedd y DU yng Nghymru neu Loegr.
Mae Heddlu'r Alban hefyd wedi datblygu templed o lythyr sy'n gofyn i ymgeiswyr gytuno y byddant yn cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad (gweler Atodiad K yn eu canllawiau ar gyfer Swyddogion yr Heddlu ar atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban) a dylech roi'r templed hwn i bob ymgeisydd sy'n sefyll yn etholiad Senedd y DU yn yr Alban.
canllawiau i Swyddogion yr Heddlu ar atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban
Mae'r Cod hefyd yn ei gwneud yn glir, os bydd Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried ei bod yn briodol mynd i'r afael â risgiau lleol penodol eraill, a'i fod wedi ymgynghori â'r pleidiau cenedlaethol a lleol perthnasol, y byddwn yn ei helpu i gyflwyno darpariaethau lleol ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i delerau'r cod y cytunwyd arno'n genedlaethol.