| Argraffu'r canllawiau llawn

Cymarebau staff a argymhellir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio

Rydym yn argymell y cymarebau canlynol wrth neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio:

Etholwyr 
(heb gynnwys pleidleiswyr post)
Swyddog Llywyddu Clerc(od) Pleidleisio
0 – 1,000 1 1
1,001 - 1,750 1 2
1,751 – 2,500 1 3

Ni ddylid neilltuo mwy na 2,500 o etholwyr i orsaf bleidleisio.

Y cymarebau hyn yw'r lefelau gofynnol a argymhellir: gall amgylchiadau godi lle byddwch am gyflogi nifer fwy o staff. Mae'r cymarebau a amlinellir yn tybio nad yw'r etholiad yn etholiad cyfunol. Os ceir etholiad cyfunol, yn ogystal â Swyddog Llywyddu, dylid penodi un Clerc Pleidleisio ar gyfer gorsafoedd pleidleisio sydd â hyd at 750 o etholwyr a dylid penodi un Clerc Pleidleisio ychwanegol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio sydd â hyd at 1,500 o etholwyr.

Wrth neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio, mae'n bwysig sicrhau y gallwch esbonio'r rhesymau sy'n sail i'ch penderfyniadau. Dylech ystyried y canlynol o leiaf: 

  • unrhyw amgylchiadau lleol penodol fel cynnydd yn y boblogaeth a thueddiadau demograffig
  • lefelau'r pleidleiswyr post
  • y posibilrwydd y bydd ymgysylltu hwyr, gan gynnwys unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a allai effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio a diddordeb yn yr etholiad – fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyfatebol diwethaf
  • sut y bydd y pleidleisiwr yn symud drwy'r broses bleidleisio o'r adeg y daw i mewn i'r orsaf bleidleisio i'r adeg y bydd yn ei gadael  
  • mewn etholiadau cyfunol, yr effaith a gaiff y ffaith bod etholiadau wedi'u cyfuno, megis yr amser y mae'n ei gymryd i ddosbarthu papurau pleidleisio a'r amser y mae'n ei gymryd i bleidleiswyr gwblhau mwy nag un papur pleidleisio

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a dylech hefyd ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n briodol yn eich barn chi. Dylai pob penderfyniad gael ei wneud fesul achos ac nid ar gyfer yr etholaeth gyfan.  

Dylech gadw cofnod o'r penderfyniadau a wnaed a chadw cynllun er mwyn dangos eich bod yn gallu ymateb i unrhyw broblemau, er enghraifft, sut i ddelio â chiw mewn un gorsaf bleidleisio neu fwy yn eich ardal am 10pm. Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr sydd mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm.1  

Cymarebau staff enghreifftiol ar gyfer gorsaf bleidleisio

Mae opsiynau gwahanol ar gael i chi wrth ddefnyddio staff mewn gorsafoedd pleidleisio. Dylai eich cynlluniau fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu i chi ddefnyddio staff i ymateb i faterion penodol a all godi yn ystod y diwrnod pleidleisio. 

Dyma rai enghreifftiau:

  • Os neilltuwyd 1,200 o etholwyr i orsaf bleidleisio, dylech benodi un Swyddog Llywyddu a dau Glerc Pleidleisio ar gyfer yr orsaf bleidleisio honno. Gallai'r tri aelod o staff fod yn rhan o'r broses ddosbarthu, neu gallai un aelod o staff weithredu fel swyddog gwybodaeth i roi gwybodaeth i bleidleiswyr a bod ar gael i ymateb i unrhyw gwestiynau gan bleidleiswyr, tra bo'r ddau aelod arall o staff yn cyflawni'r broses ddosbarthu.
  • Os lleolir yr orsaf bleidleisio mewn man pleidleisio sy'n cynnwys sawl gorsaf bleidleisio, gallai un neu fwy o aelodau o staff gael eu defnyddio fel swyddog gwybodaeth sy'n cwmpasu'r holl orsafoedd pleidleisio a helpu i gyfeirio pleidleiswyr i'r orsaf bleidleisio gywir. 
  • Gallai staff o un orsaf bleidleisio yn y man pleidleisio gael eu defnyddio o bosibl i helpu staff mewn gorsaf bleidleisio arall yn yr adeilad hwnnw os oes angen, er enghraifft, o ganlyniad i nifer fawr o bleidleiswyr yn mynd i un o'r gorsafoedd ar adeg benodol pan fydd yr orsaf arall yn dawel.

Mae llawlyfr ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio y Comisiwn yn nodi'n fanylach y gweithdrefnau y dylai staff eu dilyn drwy gydol y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.  

llawlyfr i staff gorsafoedd pleidleisio

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2024