Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election
Os na fydd y cyfrif papurau pleidleisio yn gyson
Os na fydd cyfrif papurau pleidleisio yn gyson, dylech ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn y tabl canlynol a dogfennu'r canlyniad ar y datganiad dilysu priodol:
| Cam | Cam gweithredu i'w gymryd |
|---|---|
| Gwiriadau rhagarweiniol |
|
| Gwirio nifer y blychau pleidleisio a ddosbarthwyd |
|
| Chwilio am wallau cywiriol |
|
| Ailgyfrif y papurau pleidleisio |
|
| Ailddilysu'r cyfansymiau |
|
| Cadarnhau unrhyw amrywiad yn eich cofnodion |
|
Rydym wedi llunio rhestr wirio o'r camau i'w cymryd wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio.
Rhestr wirio wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio (DOC)
Cyfuno
Gwiriwch y blychau pleidleisio ar gyfer pob math o etholiad yn yr holl orsafoedd pleidleisio yn yr un man pleidleisio. Efallai y bydd y broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eraill yn y lleoliad hwnnw yn dangos gwall cywiriol am fod etholwyr wedi gosod eu papur pleidleisio yn y blwch ‘anghywir’ neu mewn blwch o'r orsaf bleidleisio anghywir.
Os bydd y gwallau cywiriol yn gwrthbwyso ei gilydd, gellir tybio bod y broses ddilysu wedi bod yn llwyddiannus. Lle bynnag y bo modd, dylech ddilysu'r holl flychau o'r un lleoliad pleidleisio ar yr un pryd ar fyrddau cyfagos, neu'n syth ar ôl ei gilydd.