Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cyfeiriad cartref. Rhaid i'r ffurflen hon gael ei chyflwyno yn bersonol gan y sawl a all gyflwyno'r ffurflen enwebu ac erbyn i'r enwebiadau gau. Nid yw'r ffurflen wedi'i rhagnodi ond mae'r wybodaeth y mae angen ei darparu wedi'i nodi mewn deddfwriaeth.1
Rhaid i'r ymgeisydd nodi ei enw a'i gyfeiriad cartref ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Nid oes angen i'r cyfeiriad fod yn yr etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu sefyll.
Y cyfeiriad cartref:
rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
ni ddylai gynnwys talfyriadau
rhaid mai ei gyfeiriad cartref cyfredol ydyw
ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fydd yr ymgeisydd yn
rhedeg busnes o'i gartref)
Os bydd unrhyw ran o fanylion y cyfeiriad cartref yn anghywir neu wedi'i hepgor, ni fydd yr enwebiad yn annilys yn awtomatig os yw'r disgrifiad o'r lle yn un a ddeellir yn gyffredin.
Mae'r Comisiwn wedi creu ffurflen cyfeiriad cartref fel rhan o'i set o bapurau enwebu y gallwch ei rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
Mae'r ffurflen cyfeiriad cartref, ynghyd â'r ffurflen enwebu, ar gael i'w harchwilio gan y bobl hynny y mae hawl ganddynt i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu.
Ymgeiswyr nad ydynt am i gyfeiriad eu cartref gael ei gyhoeddi
Gall ymgeisydd ofyn am i'w gyfeiriad beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Yn yr achos hwn, bydd y ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys y canlynol, yn ogystal â'r enw llawn a chyfeiriad y cartref:2
datganiad, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy'n nodi nad yw am i gyfeiriad ei gartref fod ar gael i'r cyhoedd
etholaeth Senedd y DU neu, os yw'n byw y tu allan i'r DU, y wlad lle lleolir cyfeiriad y cartref
Os na fydd yr ymgeisydd am i gyfeiriad ei gartref ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio, rhaid nodi'r etholaeth lle lleolir ei gartref neu, os yw'n byw y tu allan i'r DU, y wlad lle mae'n byw yn lle hynny.
Os, erbyn diwedd y cyfnod enwebu, bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi gofyn am i gyfeiriad ei gartref beidio â chael ei gyhoeddi, rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch. Os byddwch yn ystyried mai dyma yw'r achos, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen enwebu fel sy'n briodol, yn eich barn chi, i leihau'r tebygrwydd o ddryswch.3
Cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys, rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny. Yna rhaid i chi eu hysbysu'n ysgrifenedig am yr wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.