Gwallau prosesu wrth fewnbynnu gwybodaeth i gadarnhau pwy yw unigolyn ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy (Ar ôl y dyddiad cychwyn)

Gwallau prosesu wrth fewnbynnu gwybodaeth i gadarnhau pwy yw unigolyn ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy (Ar ôl dyddiad cychwyn mesurau'r Ddeddf Etholiadau)

Gall gwallau prosesu ddigwydd wrth fewnbynnu gwybodaeth dynodyddion personol er mwyn cadarnhau pwy yw unigolyn. Gall hyn olygu na fydd hunaniaeth ymgeisydd yn cael ei dilysu mewn pryd i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad, er ei fod wedi cyflwyno cais yn gywir. Er enghraifft, efallai y bydd ffurflen gais bapur wedi dod i law sy'n cynnwys gwybodaeth dynodyddion personol ond wedi mynd ar goll a heb gael ei phrosesu'n gywir, neu efallai y bydd cais ar-lein wedi cael ei brosesu'n anghywir, gan olygu na chafodd y cais ei anfon i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Gallwch gywiro'r gwall a phenderfynu ar gais am bleidlais drwy ddirprwy unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Fodd bynnag, os oes angen y bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad sydd i ddod, dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) i gydlynu sut y caiff ceisiadau eu pennu ac wedyn y diweddariadau i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidlais absennol ar gyfer yr etholiad hwnnw. Mae ein canllawiau ar benderfynu ar geisiadau yn agos at y dyddiad cau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.

Ar ôl darganfod y math hwn o wall prosesu, a chyn y gallwch benderfynu ar y cais, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol o hyd:

  • bod yn fodlon y cafodd y cais ei gyflwyno cyn y terfyn amser (er enghraifft, rhoddwyd stamp dyddiad ac amser arno pan ddaeth i law) 
  • anfon dynodyddion personol yr ymgeisydd i gael eu dilysu

Pan gaiff gwallau prosesu eu nodi yn agos at ddiwedd cyfnod pleidleisio, a'ch bod yn bryderus na chaiff canlyniadau proses paru data'r Adran Gwaith a Phensiynau eu dychwelyd mewn pryd, o dan yr amgylchiadau hyn, cewch symud ymlaen yn syth i'r broses eithriadau dogfennol cyn i chi gael canlyniadau proses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn lliniaru effaith y gwall prosesu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Hydref 2023