Rydym yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn dda.
Rydym yn gweithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid, megis gweinyddwyr etholiadol, pleidiau, ymgyrchwyr, llywodraethau, a sefydliadau trydydd sector. Mae gennym gyfoeth o wybodaeth am brosesau etholiadol a pherthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol.
Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i'r rhanddeiliaid hyn, ac i dimau ar draws ein sefydliad. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pawb sy'n ymwneud ag etholiadau yn y DU.