Ein swyddfa yng Nghymru

Mae ein swyddfa wedi'i dylunio i greu gwagle deniadol, cydweithredol a phroffesiynol. Mae wedi'i addasu i gefnogi'r ffyrdd o weithio sy'n gweddu ein pobl orau.

Mae yna ardaloedd ymneilltuo sydd wedi'u sefydlu ar gyfer gweithio fel grŵp, a mannau tawel sy'n caniatáu i'n pobl ganolbwyntio. Mae ein hystafelloedd cyfarfod wedi’u haddasu ar gyfer gweithio hyblyg. Gall pawb ymuno â chyfarfodydd yn rhwydd, naill ai o gartref neu o'n swyddfeydd eraill.

Mae staff yn ein swyddfa yng Nghymru yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

Ein timau

Mae tîm Cymru yn gyfrifol am:

  • etholiadau’r Senedd, etholiadau Senedd y DU, etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru
  • cydlynu a chefnogi gwaith y Comisiwn ar y Gymraeg, gan sicrhau ein bod yn bodloni gofynion statudol
  • gweithio gydag aelodau etholedig a swyddogion y Senedd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
  • gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff perthnasol y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru
  • delio gydag ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol ar faterion etholiadol
  • darparu gwybodaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr
  • darparu cyngor a chanllawiau i weinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i sicrhau bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda
  • cyfrannu arbenigedd datganoledig i brosiectau ledled y DU

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym wedi ein lleoli yn: Tŷ James William, 9 Maes yr Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3BD.

Dysgwch ragor am ein swyddi gwag presennol