Adroddiad y flwyddyn a'r chwarter ar gyfer rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Introduction
Yn 2019, nododd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr eu bod wedi derbyn dros £113,390,000 mewn rhoddion, y gwerth mwyaf a adroddwyd erioed mewn blwyddyn, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn bron i £40 miliwn yn fwy nag yn 2017, y flwyddyn gyda'r gwerth mwyaf blaenorol o roddion.
Yn y pedwerydd chwarter yn 2019 (Hydref i Ragfyr, yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU), nododd 14 plaid wleidyddol a gofrestrwyd ym Mhrydain Fawr £70,113,414 mewn rhoddion ac arian cyhoeddus.
Derbyniodd saith plaid gyfanswm o £1,337,718 mewn arian cyhoeddus yn y chwarter.
Quote from Louise Edwards, Director of Regulation
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
“Yn ystod tri mis olaf 2019, nododd pleidiau gwleidyddol eu bod yn derbyn gwerth uchaf rhoddion mewn chwarter ers i’n cofnodion ddechrau. Roedd gwerth y rhoddion a dderbyniwyd gan bartïon yn y chwarter diwethaf yn uwch na'r blaenorol, o 2017, o bron i £28 miliwn.
“Er nad oes cyfyngiad ar werth rhoddion y gall pleidiau gwleidyddol eu derbyn, mae rheolau gwariant ar waith yn ystod etholiadau i gadw’r ymgyrch yn deg.
“Mae cyhoeddi’r data hwn yn caniatáu i bleidleiswyr weld yn glir sut mae pleidiau ym Mhrydain Fawr yn cael eu hariannu, gan wella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Yr 14 plaid wleidyddol a nododd roddion gan gynnwys arian cyhoeddus rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2019 oedd:
Plaid | Cyfanswm yr adroddwyd arno | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio arian cyhoeddus) | Arian cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm wedi'i dderbyn |
---|---|---|---|---|
Y Blaid Gydweithredol | £20,750 | £20,750 | £0 | £20,750 |
Y Blaid Geidwadol ac Unonliaethol | £37,746,193 | £37,666,568 | £67,425 | £37,733,993 |
Y Blaid Werdd | £409,475 | £381,393 | £22,182 | £403,575 |
Y Blaid Lafur | £10,685,389 | £9,833,863 | £851,526 | £10,685,389 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £13,611,751 | £13,372,664 | £212,627 | £13,585,291 |
'Official Monster Raving Loony Party' | £8,222 | £8,222 | £0 | £8,222 |
Plaid Cymru | £90,027 | £70,000 | £20,027 | £90,027 |
Renew | £65,000 | £65,000 | £0 | £65,000 |
'Scottish Green Party' | £53,600 | £48,561 | £5,040 | £53,600 |
'Scottish Libertarian Party' | £8,848 | £8,848 | £0 | £8,848 |
'Scottish National Party (SNP)' | £213,059 | £54,169 | £158,891 | £213,059 |
'The Brexit Party' | £7,150,000 | £7,150,000 | £0 | £7,150,000 |
'UK Independence Party (UKIP)' | £3,600 | £3,600 | £0 | £3,600 |
'Women's Equality Party' | £47,500 | £47,500 | £0 | £47,500 |
Total | £70,113,414 | £68,731,138 | £1,337,718 | £70,068,854 |
Further information
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r partïon yn adrodd:
- rhoddion a dderbynnir yn uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr sengl sy'n adio at ei gilydd i ragori ar y trothwy adrodd
- rhoddion y dylid fod wedi eu hadrodd mewn chwarteri blaenorol; a
- rhoddion na ellir eu caniatau a gawsant, a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
O ganlyniad i roddion na ellir eu caniatau yn cael eu dychwelyd a rhai rhoddion yn cael eu hadrodd yn hwyr, gall y swm a adroddir gan barti mewn ffurflen chwarterol fod yn fwy na'r cyfanswm a dderbynnir.
Methodd 4 o bleidiau fodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter yma. Bydd y Comsiwn yn ystyried y materion hyn i gyd, yn ogystal â'r rhoddion ag adroddwyd yn hwyr, yn unol â'r Polisi Gorfodi a chyhoeddi unrhyw gosbau a roddir yn hwyrach.
Ma'n debygol bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd yn llai na'r trothwyon cyfreithiol ar gyfer adrodd i'r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynhonellau sylweddol o incwm i bleidiau.
Benthyca
Gwerth benthyciadau newydd i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr yn y bedwaredd chwarter 2019 oedd £526,373. Talwyd benthyciadau â gwerth o £67,623 yn y bedwaredd chwarter 2019.
Rhoddion a dderbynnir gan weithredwyr rheoledig yn Ch4 2019
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi rhoddion a dderbynnir gan ddeiliaid rheoledig yn fisol. Mae rhoddwyr rheoledig yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol a chymdeithasau aelodau.
Yn y bedwaredd chwarter 2019, derbyniwyd £1,051,242 o roddion gan 58 o roddwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion sydd dim yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae'r manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
Math o roddwr a reoleiddir | Gwerth arian parod a rhoddion heblaw arian parod a dderbyniwyd | Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor | Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
---|---|---|---|
Maer | £86,347 | £0 | £86,347 |
Aelod o Blaid Wleidyddol Cofrestredig | £22,100 | £0 | £22,100 |
Cymdeithas Aelodau | £539,010 | £0 | £539,010 |
Aelod Seneddol | £393,473 | £10,312 | £403,785 |
Cyfanswm | £1,040,930 | £10,312 | £1,051,242 |
Nid yw'r tabl hwn yn cynnwys data ar roddion a dderbyniwyd gan ymgeiswyr a safodd yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU. Mae ymgeiswyr yn cyflwyno eu hadroddiadau gwariant a rhoddion i'r swyddog canlyniadau yn yr etholaeth y buont yn sefyll ynddi. Gellir cael manylion rhoddion ymgeiswyr gan y swyddog canlyniadau yn yr etholaeth berthnasol.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o roddion a adroddwyd gan bleidiau Prydain Fawr ym mhedwaredd chwarter 2019, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadu hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae maylion llawn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol a rhoddwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon yn ein datganiad i'r wasg.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio press@electoralcommission.org.uk.
Notes to editors
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan giesio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau o arian a ddim yn arian yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd holl roddion a benthyciadau o dros £7,500 i'r blaid ganolog, neu dros £1,500 i uned cyfrifo. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoad o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn calendr.
Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn eu hadrodd, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dy'r Cyffredin, Ty'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Byr' a 'Cranborne' ar gael i bleidau'r wrthblaid yn Nhy'r Cyffredin neu Dy'r Arlgwyddi.
Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Rhain yw'r Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu fwy o aeloadu yn eistedd yn Nhy'r cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2006, o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
Roedd 359 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter pedwar 2019. Roedd gofyn bod 62 ohonynt yn cyflwyno eu cofnodion gwariant chwarterol a 48 yn cyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithrwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw iddynt dderbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol.
Mae mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â derbynnydd rheoledig a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan
Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am eu rhoddion derbyniol i Gofrestr Buddiannau Ariannol
Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am eu rhoddion derbyniol i Gofrestr Buddiannau ar gyfer Senedd yr Alban.
Mae pob gweithredwr rheoledig arall yn adrodd eu rhoddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.