Annog pleidleiswyr i gofrestru cyn ei bod yn rhy hwyr

Dim ond pum diwrnod sydd ar ôl i bleidleiswyr sydd am gymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol i gofrestru i bleidleisio. Mae gan bleidleiswyr cymwys tan y dyddiad cau, sef 23.59am nos Fawrth 18 Mehefin, i gyflwyno eu ceisiadau. 

Ers i'r etholiad gael ei alw, mae bron i 1.5 miliwn o bobl wedi cofrestru i bleidleisio.

Dim ond pum diwrnod sydd ar ôl i bleidleiswyr sydd am gymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol i gofrestru i bleidleisio. Mae gan bleidleiswyr cymwys tan y dyddiad cau, sef 23.59am nos Fawrth 18 Mehefin, i gyflwyno eu ceisiadau. 

Dim ond 5 munud sydd ei angen arnoch i gofrestru i bleidleisio, a gallwch ei wneud ar-lein gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gall unigolyn gofrestru os yw'n 18 oed neu drosodd ar y diwrnod pleidleisio, ac yn ddinesydd o Brydain, Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad. 

Nododd ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn 2022 nad oedd bron 8 miliwn o bobl ledled y DU wedi'u cofrestru'n gywir. 

Mae pobl ifanc, unigolion sy'n rhentu'n breifat a'r rhai hynny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru yn gywir i bleidleisio. 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau y Comisiwn Etholiadol: 
“Mae etholiad cyffredinol yn gyfle pwysig i bobl fynegi eu barn, a chofrestru yw'r cam cyntaf tuag at y blwch pleidleisio. Mae gwneud cais yn broses gyflym a hawdd, a gydag ond diwrnodau yn unig tan y dyddiad cau, mae amser yn prinhau.

“Rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi'i gofrestru cyn hanner nos ar 18 Mehefin er mwyn cymryd rhan, ac mae angen i'r rhai hynny sy'n bwriadu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wneud yn siwr bod ganddynt fath o ID a dderbynnir er mwyn cael eu papur pleidleisio. Cwblhewch y ddwy dasg honno a byddwch yn barod i fwrw eich pleidlais.”

Bydd angen i'r rhai hynny sy'n pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ddangos ID ffotograffig. Mae'r Comisiwn yn galw ar bob pleidleisiwr i wneud yn siwr bod ganddo fath o ID a dderbynnir nawr, cyn yr etholiad. 

Mae'r rhestr o'r mathau a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gall y rhai hynny nad oes ganddynt unrhyw fath o ID a dderbynnir wneud cais am ID am ddim, sef Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, gan ddefnyddio'r un wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru i bleidleisio, yn ogystal â ffotograff. 

Gall unrhyw un na all bleidleisio neu nad yw am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ym Mhrydain Fawr wneud cais am bleidlais drwy’r post erbyn 5pm ar 19 Mehefin, neu bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm ar 25 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn

Diwedd   
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  • Y dyddiadau cau ym Mhrydain Fawr yw:
    • Hanner nos, nos Fawrth 18 Mehefin er mwyn cofrestru i bleidleisio
    • 5pm dydd Mercher 19 Mehefin er mwyn gwneud cais am bleidlais drwy’r post
    • 5pm dydd Mercher 26 Mehefin er mwyn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy
    • 5pm dydd Mercher 26 Mehefin er mwyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr 
  • Gall pleidleiswyr wneud cais i gofrestru i bleidleisio, am bleidlais absennol, neu am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gov.uk 
  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
    • galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, 
    • anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.