Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU
Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu sydd ag incwm neu wariant dros £250,000 wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol.
Mae cyfrifon dwy ar bymtheg o bleidiau gwleidyddol a deg uned gyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig wedi’u cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol yn y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Mae pleidiau mawr yn derbyn ac yn gwario symiau sylweddol o arian felly mae’n bwysig bod yr wybodaeth am eu cyfrifon yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae cyhoeddi eu data yn caniatáu i bleidleiswyr weld sut mae pleidiau yn cael eu hariannu ac yn dewis gwario eu harian.”
Incwm neu wariant pleidiau sydd dros £250,000
Dywedodd dwy ar bymtheg o bleidiau yn y DU fod ganddynt incwm neu wariant o fwy na £250,000.
Yn gyfan gwbl, adroddodd y ddwy ar bymtheg plaid gyfanswm o £143,135,400 o incwm a £125,141,609 o wariant. Mae hyn yn cymharu â’r 19 o bleidiau a adroddodd incwm neu wariant dros £250,000 yn 2022, gyda chyfansymiau o £100,411,598 o incwm a £102,112,711 o wariant.
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Plaid Alba | £418,577 | £499,268 |
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £376,874 | £471,747 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £59,361,000 | £41,469,000 |
Y Blaid Gydweithredol | £1,434,412 | 1,435,225 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £435,905 | £391,765 |
Y Blaid Werdd | £3,819,156 | £3,724,134 |
Y Blaid Lafur | £58,628,000 | £59,479,000 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £8,069,285 | £7,798,027 |
Plaid Cymru | £925,284 | £911,670 |
Reform UK | £1,353,031 | £1,327,037 |
Plaid Werdd yr Alban | £529,111 | £458,271 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £4,753,512 | £4,091,944 |
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £395,704 | £367,346 |
Sinn Féin | £1,095,081 | £1,167,466 |
The Reclaim Party | £700,000 | £615,134 |
Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party) | £241,307 | £302,827 |
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £599,161 | £631,748 |
Cyfanswm | £143,135,400 | £125,141,609 |
Yn ogystal â’r pleidiau a restrwyd uchod, ym mis Gorffennaf cyhoeddodd y Comisiwn gyfrifon 323 o bleidiau gwleidyddol a adroddodd incwm neu wariant o £250,000 neu lai.
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu gysylltiedig plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Adroddodd deg uned gyfrifyddu yn y DU fod ganddynt incwm neu wariant o fwy na £250,000.
Yn gyfan gwbl, adroddodd y deg uned gyfrifo hyn £10,191,656 o incwm a £9,646,377 o wariant.
Y deg uned gyfrifyddu wnaeth adrodd incwm neu wariant dros £250,000:
Plaid | Uned gyfrifyddu | Incwm | Gwariant |
---|---|---|---|
Y Blaid Lafur | National Trade Union Liaison | £288,935 | £315,191 |
Y Blaid Lafur | Plaid Lafur yr Alban | £1,021,122 | £565,478 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | ALDC | £1,154,498 | £1,129,088 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Lloegr | £2,676,244 | £2,590,544 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Swyddfa Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,669,667 | £1,725,277 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Yr Alban | £631,554 | £612,535 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Twickenham a Richmond | £292,656 | £230,065 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Cymru | £273,225 | £241,001 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Westmorland, Furness ac Eden | £282,946 | £248,399 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | Grŵp Seneddol Plaid Genedlaethol yr Alban | £1,900,808 | £1,988,799 |
Cyfanswm | £10,191,656 | £9,646,377 |
Mae cyfrifon ariannol pob un o’r unedau cyfrifyddu ar gael ar wefan y Comisiwn.
Estyniadau dyddiad cau
Gwnaeth Britain First, y Blaid Lafur, Reform UK, Plaid Werdd yr Alban, a Sinn Féin geisiadau am estyniadau i ganiatáu amser i gyflwyno eu cyfrifon. Cyflwynodd Reform UK, Plaid Werdd yr Alban, a Sinn Féin eu cyfrifon erbyn y dyddiad cau newydd y cytunwyd arno.
Cyflwyniadau anghyflawn a hwyr
Roedd Britain First wedi methu â chyflwyno ei datganiad o gyfrifon ac adroddiad cysylltiedig gan archwilydd ar yr adeg cyhoeddi.
Roedd y Blaid Gydweithredol a'r Blaid Lafur yn hwyr yn cyflwyno eu cyfrifon.
Methodd un uned gyfrifyddu y cadarnhawyd ei bod dros y trothwy o £250k â chyflwyno erbyn y dyddiad cau. Dyma Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) Dinasoedd Llundain a San Steffan.
Lle mae pleidiau ac unedau cyfrifo yn cyflwyno cyfrifon anghyflawn neu hwyr, efallai y byddwn yn cymryd camau priodol a chymesur yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu drwy e-bostio [email protected]. Ffoniwch 07789 920414 y tu allan i oriau swyddfa.
Nodiadau i olygyddion:
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban. - Mae’n rhaid i bob plaid wleidyddol gyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gydag incwm dros £250,000 archwilio eu cyfrifon yn annibynnol, a chynnwys yr adroddiad hwn gyda’u cyflwyniad. Nid yw'r ffaith bod datganiad cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.