Adroddiad yr Ymchwiliad i’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol - cofnodi ac adrodd ar daliadau
Summary of report
Edrychodd ein hymchwiliad ar p’un a ddaeth unrhyw drafodion yn ymwneud â gwaith yn 11 Stryd Downing o dan y gyfundrefn cyllid pleidiau sy’n cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn, a ph’un a chofnodwyd a rhoddwyd gwybod am unrhyw drafodion tebyg fel sy’n ofynnol.
Dangosodd y dystiolaeth bod y Blaid Geidwadol wedi cael rhodd o £67,801.72 gan Huntswood Associates Limited ym mis Hydref 2020 – roedd £52,801.72 i gyflenwi cost y dair anfoneb oedd yn ymwneud â’r gwaith adnewyddu yn Stryd Downing. Rhoddwyd gwybod bod £15,000 yn rhodd yn adroddiad Ch4 2020 y blaid; ni rhoddwyd gwybod am y £52,801.72 oedd dros ben.
Casgliad ein hymchwiliad oedd bod cyfanswm llawn y £67,801.72 yn rhodd, ac y dylai fod wedi cael ei adrodd i’r Comisiwn. Daethom i’r casgliad hefyd nad oedd y cyfeiriad yng nghofnodion ariannol y blaid at y taliad a wnaed gan y blaid ar gyfer y gwaith adnewyddu, wedi’i gofnodi’n gywir.
Gwnaeth yr ymchwiliad ganfod bod penderfyniadau yn ymwneud â thrin a chofnodi’r trafodion hyn yn adlewyrchu methiannau difrifol yn systemau cydymffurfiaeth y blaid. Roedd gan y trysorydd cofrestredig gyfrifoldeb i roi systemau ar waith sy’n addas i blaid gydag isadeiledd mewnol cymhleth ac sydd â symiau sylweddol o arian yn mynd mewn i’w chyfrifon. Fodd bynnag, yn yr achos yma, disgrifiwyd y taliad yn anghywir mewn cofnodion mewnol, ac ni chafodd gwerth llawn y rhodd ei nodi’n gywir na’i adrodd. O ganlyniad, ni chafodd ei gynnwys yn ein cyhoeddiad ynghylch rhoddion.
Ystyriodd y Comisiwn taliadau eraill yn ymwneud â’r gwaith adnewyddu; daethpwyd i’r casgliad nad oeddent yn rhoddion adroddadwy, ac ni ddaethom o hyd i droseddau mewn perthynas â’r taliadau hynny.
Ar gyfer y drosedd o fethu ag adrodd yn gywir gwerth llawn y rhodd gan Huntswood Associates, mae’r Comisiwn wedi gosod cosb o £16,250. Am fynd yn groes i’r gofyniad i gadw cofnodion cyfrifyddu cywir, mae cosb o £1,550 wedi’i gosod.
Yr ymchwiliad
Agor yr ymchwiliad
Ar 5 Mawrth 2021, cysylltodd y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (“y blaid”) â’r Comisiwn gan geisio cyngor ar “ymholiad brys ynghylch rhoddion”. Roedd hyn yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau am y trefniadau cyllido ar gyfer gwaith yn 11 Stryd Downing. Ni roddodd y blaid wybodaeth fanwl i gychwyn.
Yn ystod mis Mawrth, ceisiom a chawsom wybodaeth bellach gan y blaid i gadarnhau’r ffeithiau er mwyn rhoi cyngor. Roedd yr wybodaeth yn ymwneud â swm penodol, sef taliad o £52,801.72, a wnaed i’r blaid ar 19 Hydref 2020. Drwyddi draw, dywedodd y blaid nad oedd y taliad hwn yn rhodd i’r blaid. Mae’r taliad wedi cael ei ddisgrifio fel rhodd i’r Prif Weinidog drwy’r blaid; fel ‘rhodd i’r wlad’ yn hytrach na rhodd i’r blaid; fel mater gweinidogol; ac fel ad-daliad benthyciad.
Ar 29 Mawrth, rhoesom wybod i’r blaid, yn seiliedig ar yr wybodaeth yr oedd wedi’i darparu hyd at yr adeg honno, ein bod yn ystyried ei bod hi’n debygol ei bod wedi cael rhodd nad oedd wedi’i hadrodd i ni fel sy’n ofynnol gan y gyfraith.
Darparodd y blaid wybodaeth ychwanegol i geisio cefnogi’r safbwynt mai ad-daliad benthyciad oedd y swm ac nid rhodd. Fodd bynnag, yn ein barn ni, nid oedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn ddigonol i gefnogi’r safbwynt hwn, ac ni wnaeth newid ein dadansoddiad o’r dystiolaeth roeddem wedi’i gweld bryd hynny.
Ar 28 Ebrill, daethom i’r barn bod sail resymol i gredu bod trosedd wedi’i chyflawni, ar y sail bod rhodd wedi’i dderbyn ac heb ei adrodd yn gywir. Gwnaethom hefyd ystyried ei bod er budd y cyhoedd i ni archwilio’r mater. Gwnaethom felly agor ymchwiliad.
Cwmpas yr ymchwiliad
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), a reoleiddir gan y Comisiwn, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig nodi ac adrodd ar roddion y maent yn eu cael sydd dros drothwy ariannol penodol. Mae’n rhaid gwneud adroddiadau ar sail chwarterol a’u cyflwyno i’r Comisiwn o fewn 30 diwrnod o ddiwedd y chwarter, i gael eu cyhoeddi.
Edrychodd ein hymchwiliad ar p’un a ddaeth y £52,801.72, neu unrhyw drafodion eraill sy’n ymwneud â’r gwaith yn 11 Stryd Downing, o dan y gyfundrefn cyllid pleidiau sy’n cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn, ac os felly, p’un a chydymffurfiodd y blaid â gofynion cyfreithiol y gyfundrefn honno.
Roedd y swm o £52,801.72 yn rhan o gyfanswm o £67,801.72 a dalwyd i’r blaid ar 19 Hydref 2020 gan Huntswood Associates Ltd, cwmni a reoleiddir gan yr Arglwydd Brownlow, sydd wedi rhoi sawl rhodd i’r blaid yn y gorffennol. Rhoddodd y blaid wybod bod £15,000 yn rhodd yn ei hadroddiad ar gyfer pedwerydd chwarter 2020. Ni rhoddwyd gwybod am y balas.
Gwnaethom ymestyn yr ymchwiliad, ar sail yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, i ystyried p’un a oedd y blaid wedi cofnodi trafodion eraill yn gywir yn unol â gofynion y gyfundrefn cyllid gwleidyddol.
Trysorydd cofrestredig plaid, yn yr achos yma Mr Alan Mabbutt, yw’r person sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am gydymffurfiaeth â’r gyfundrefn cyllid gwleidyddol ar gyfer pleidiau cofrestredig. Fel testun ein hymchwiliad, mae ef wedi’i enwi yn yr adroddiad hwn. Ni chaiff unigolion eraill y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn eu henwi, ond mae rolau a chyfrifoldebau wedi cael eu hegluro lle bo hynny’n berthnasol i’n canfyddiadau. Mae Huntswood Associates Limited wedi’i enwi gan fod modd ei adnabod fel y rhoddwr, ac mae’r Arglwydd Brownlow wedi’i enwi fel y person sydd â rheolaeth unigol dros y cwmni hwnnw.
About donations
Yn ôl PPERA, diffinnir rhodd i blaid fel rhodd o arian neu eiddo arall sydd â gwerth sydd dros £500. Pan fydd pleidiau’n cael rhodd, mae’n rhaid iddynt wirio p’un y gallant ei dderbyn, ei gofnodi a rhoi gwybod i ni os yw ei werth dros £7,500.
The investigation (continued)
Ymgysylltu â’r blaid ac eraill
Gwnaethom gyflwyno hysbysiad cyfreithiol ar y blaid, yn mynnu ei bod yn darparu tystiolaeth i’r ymchwiliad. Gwnaethom hefyd gyflwyno hysbysiadau ar Swyddfa’r Cabinet a’r Arglwydd Brownlow (fel y person unigol sydd â rheolaeth sylweddol o Huntswood Associates), gan yr oeddem o’r farn fod ganddynt dystiolaeth berthnasol bellach. Roedd yr hysbysiadau’n gofyn bod derbynwyr yn darparu’r holl wybodaeth oedd ganddynt yn ymwneud â’r trefniadau ariannol a’r trafodion ar gyfer cyllido’r gwaith yn 11 Stryd Downing. Roedd cwmpas yr hysbysiadau’n eang er mwyn sicrhau bod unrhyw drafodion a oedd yn cynnwys y blaid, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn cael eu cwmpasu. Dadansoddwyd y deunydd a ddarparwyd i bennu beth oedd yn berthnasol i’r ymchwiliad, a dim ond tystiolaeth berthnasol y cyfeirir ati yn yr adroddiad hwn.
Cawsom dros 2,400 o dudalennau o dystiolaeth mewn ymateb i’r hysbysiadau erbyn y dyddiad cau a osodwyd gennym. Roedd hyn yn cynnwys cofnodion ariannol megis anfonebau, cyfriflenni banc, biliau cardiau credyd, a chyfathrebiadau yn cynnwys llythyron, e-byst, cofnodion cyfarfodydd a negeseuon What’sApp.
Yn dilyn hyn ceisiom esboniadau gan y blaid mewn perthynas ag agweddau o’r dystiolaeth, gan gynnwys unrhyw esgus rhesymol am y methiant ymddangosol i adrodd ar rodd yn gywir. Rhoesom gyfle i’r trysorydd cofrestredig drafod materion yn bersonol. Ni chymerwyd y cyfle hwn fodd bynnag. Gofynnodd y blaid am estyniadau i rai ddyddiadau cau, a rhoddwyd y rhain iddi.
Amlinelliad o’r trafodion
Er mwyn sefydlu p’un a oedd trosedd wedi’i chyflawni ai peidio, roedd angen i ni ganfod p’un a oedd y blaid wedi derbyn unrhyw rodd oedd heb ei adrodd fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Felly gwnaethom archwilio’n fanwl y gyfres o drafodion a ddigwyddodd mewn perthynas â’r gwaith yn Stryd Downing.
Rydym yn deall bod costau am waith i’r breswylfa breifat yn 11 Stryd Downing yn cael eu cwrdd gan Swyddfa’r Cabinet, hyd at swm o £30,000 y flwyddyn.
Ar sail y dystiolaeth a gawsom, gwnaethom gadarnhau bod y cyfres ganlynol o ddigwyddiadau wedi digwydd.
21 Ionawr 2020: rhoddwyd cynnig manwl am waith i ardaloedd preswyl 11 Stryd Downing i uwch gynghorydd yn 10 Stryd Downing gan gyflenwr y gwaith adnewyddu.
Chwefror 2020: gwnaeth swyddogion o Swyddfa’r Cabinet a 10 Stryd Downing ystyried opsiynau ar gyfer sut gallai’r gwaith gael ei gyllido, y tu hwnt i neu yn lle’r grant cyhoeddus blynyddol o £30,000 oedd eisoes ar gael. Yr opsiwn a gytunwyd arno oedd bod ymddiriedolaeth yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio rhoddion anhysbys.
1 Mai 2020: Gofynnodd uwch swyddog y blaid i’r Arglwydd Brownlow p’un a fyddai’n fodlon arwain ar y broses o sefydlu ymddiriedolaeth (a fyddai’n cael ei adnabod yn hwyrach fel Ymddiriedolaeth Stryd Downing), ac ar ôl iddi gael ei sefydlu, i fod yn Gadeirydd arni. Cytunodd yr Arglwydd Brownlow, a gwnaeth gwrdd â swyddogion Swyddfa’r Cabinet i ddechrau’r broses.
11 a 12 Mehefin 2020: siaradodd uwch swyddog y blaid, yr uwch ymgynghorydd yn 10 Stryd Downing a’r Arglwydd Brownlow dros y ffôn ynghylch gwaith sydd eisoes ar y gweill yn 11 Stryd Downing a’r biliau sy’n codi yn sgil hyn. Gwnaethant gytuno ar drefniant. Trosglwyddwyd hwn wedyn i swyddogion Swyddfa’r Cabinet drwy e-bost ar 22 Mehefin 2020, a chytunwyd arno gyda swyddogion Swyddfa’r Cabinet drwy e-bost ar 23 Mehefin 2020. Byddai’r cyflenwr yn cael gwybod y dylai anfon anfonebau dyledus i Swyddfa’r Cabinet, a fyddai’n eu talu. Byddent wedyn yn cael eu had-dalu gan y blaid, ar y sail y byddai’r blaid wedyn yn cael ei had-dalu gan yr ymddiriedolaeth arfaethedig ar ôl iddi gael ei sefydlu.
23 Mehefin 2020: gwnaeth y Prif Weinidog gynnig yn ffurfiol rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Stryd Downing i’r Arglwydd Brownlow.
24 Mehefin 2020: anfonodd y cyflenwr dair anfoneb at Swyddfa’r Cabinet oedd yn dod i gyfanswm o £52,801.72. Roedd un o’r anfonebau hynny, am flaendal ar eitemau o ddodrefn, yn nodi y byddai anfoneb pellach yn dilyn ar gyfer y balans.
29 Mehefin a 2 Gorffennaf 2020: Talodd Swyddfa’r Cabinet y dair anfoneb ar sail y trefniant y byddai’r swm yn cael ei ad-dalu gan y blaid.
Gorffennaf 2020 ymlaen: cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd a thrafodaethau oedd yn cynnwys yr Arglwydd Brownlow a swyddogion Swyddfa’r Cabinet, i wneud cynnydd ar yr ymddiriedolaeth arfaethedig.
20 Gorffennaf 2020: Anfonebodd Swyddfa’r Cabinet y blaid am £52,801.72.
6 Awst 2020: gwnaeth y blaid daliad o £52,801.72 i Swyddfa’r Cabinet.
Medi 2020: Cafodd Swyddfa’r Cabinet anfoneb bellach gan y cyflenwr am £12,967.20 ar gyfer y balans y cyfeirir ato yn yr anfoneb gynharach ar 24 Mehefin. Anfonodd Swyddfa’r Cabinet hwn ymlaen at yr Arglwydd Brownlow, ac anfonodd ef hwn ymlaen wedyn at uwch swyddog y blaid. Bu gohebiaeth bellach wedyn rhwng uwch swyddog y blaid, yr uwch gynghorydd yn 10 Stryd Downing a’r Arglwydd Brownlow ynghylch pwy fyddai’n talu’r anfoneb hon.
24 Medi 2020: yng nghyfarfod y grŵp oedd yn gweithio ar sefydlu Ymddiriedolaeth Stryd Downing, a oedd yn cynnwys swyddogion Swyddfa’r Cabinet, swyddogion 10 Stryd Downing a’r Arglwydd Brownlow, penderfynwyd na fyddai gwaith pellach yn cael ei gomisiynu ar gyfer y breswylfa heb awdurdodiad ymlaen llaw gan yr Arglwydd Brownlow.
13 Hydref 2020: Anfonodd yr Arglwydd Brownlow e-bost at uwch swyddog y blaid, yn gofyn: “…allwch chi roi gwybod i mi beth yw’r cyfanswm y mae’r Blaid Geidwadol wedi’i ‘fenthyg’ i Ymddiriedolaeth Stryd Downing? Byddaf wedyn yn rhoi rhodd i’r Blaid i glirio’r ‘ddyled’.”Gwnaeth swyddog cyllid y blaid gynghori’r Arglwydd Brownlow bod “52,801.72 wedi’i brosesu ar ran yr Ymddiriedolaeth”.
19 Hydref 2020: Talodd Huntswood Associates, cwmni sy’n cael ei reoli’n gyfan gwbl gan yr Arglwydd Brownlow, £67,801.72 i’r blaid. Nododd yr Arglwydd Brownlow y canlynol yn ei e-bost oedd yn rhoi gwybod i’r blaid am y taliad:
“Byddaf yn rhoi rhodd i’r Blaid heddiw am £67,801.72. Mae hynny’n cynnwys y £15,000 rydych chi a mi wedi cytuno arno a £52,801.72 i dalu am y taliadau y mae’r Blaid wedi’u gwneud ar ran yr ‘Ymddiriedolaeth Stryd Downing’ a fydd yn cael ei sefydlu’n fuan ac yr wyf yn Gadeirydd arni.”
Ar yr un diwrnod, gwnaeth yr Arglwydd Brownlow hefyd dalu £12,967.20 yn uniongyrchol i’r cyflenwr am yr anfoneb a gafwyd ym mis Medi
19 Hydref 2020: derbyniodd tîm cyllid y blaid y £67,801.72, a rhoesant wybod am hyn drwy e-bost i ystod o swyddogion y blaid, gan gynnwys staff cydymffurfiaeth o dan Mr Mabbutt ac uwch swyddog yn y tîm codi arian. Cafodd £15,000 ei nodi fel rhodd. Disgrifiwyd y balans fel bod ar gyfer “cronfa Rhif 10”. Cafodd hefyd ei ddisgrifio gan uwch swyddog cyllid fel bod yn “gyllid ar gyfer adnewyddu”.
22 Hydref 2020: mewn cyfarfod gyda swyddogion Swyddfa’r Cabinet ynghylch yr ymddiriedolaeth arfaethedig, cadarnhaodd yr Arglwydd Brownlow ei fod wedi gwneud y taliad o £52,801.72 i’r blaid a’i fod wedi talu’r anfoneb am £12,967.20 yn uniongyrchol i’r cyflenwr.
26 Hydref 2020: mewn cadwyn o e-byst yn ymwneud â’r taliad o £67,801.72, gofynnodd aelod iau o staff yn adran trysorydd y blaid beth oedd natur y £52,801.72 oedd yn weddill a dderbyniwyd gan Huntswood Associates. Rhoddodd uwch swyddog codi arian y blaid wybod bod £15,000 yn ymwneud â “digwyddiadau” a bod y balans ar gyfer “rhywbeth arall” a bod “dim angen poeni amdano”.
29 Tachwedd 2020: anfonodd y Prif Weinidog neges at yr Arglwydd Brownlow drwy What’sApp, yn gofyn iddo awdurdodi gwaith adnewyddu pellach ar gyfer y breswylfa, a oedd ar y pryd yn amhenodol. Cytunodd yr Arglwydd Brownlow i wneud hynny, ac eglurodd hefyd bod yr ymddiriedolaeth arfaethedig heb ei sefydlu eto ond ei fod yn gwybod o ble fyddai’r cyllid yn dod.
30 Tachwedd 2020: Cadarnhaodd yr Arglwydd Brownlow i uwch swyddog y blaid ei fwriad i gyflenwi’r costau adnewyddu pellach ei hunan.
Rhagfyr 2020: Aeth yr Arglwydd Brownlow ati i drafod gwaith arfaethedig pellach gyda’r cyflenwr, cymeradwyo’r gwaith a gofyn am anfonebau.
6 Rhagfyr 2020: Cadarnhaodd yr Arglwydd Brownlow i’r Prif Weinidog ei fod wedi cymeradwyo gwaith pellach.
18 Rhagfyr 2020: Talodd yr Arglwydd Brownlow £33,484.80 i’r cyflenwr. Rhoddwyd gwybod i swyddogion Swyddfa’r Cabinet am y taliad gan yr Arglwydd Brownlow mewn cyfarfod ynghylch yr ymddiriedolaeth arfaethedig ar 21 Ionawr 2021.
12 Chwefror 2021: Talodd yr Arglwydd Brownlow £13,295.40 pellach i’r cyflenwr. Anfonodd ddiweddariad manwl ynghylch yr ymddiriedolaeth arfaethedig i’r Prif Weinidog. Daeth hyn â’r cyfanswm a dalwyd gan yr Arglwydd Brownlow a Huntswood Associates gyda’i gilydd i £112,549.12. Talwyd £59,747.40 o hyn yn uniongyrchol i’r cyflenwr gan yr Arglwydd Brownlow a thalwyd £52,801.72 i’r blaid gan Huntswood Associates.
9 Mawrth 2021: nodwyd mewn e-bost gan uwch-swyddog Swyddfa’r Cabinet bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau ei fod wedi talu’r holl filiau gyda’r cyflenwr yn bersonol. Ar y sail honno, gordalwyd £112,549.12 i’r cyflenwr.
Yn dilyn trafodaeth a chytundeb rhwng Swyddfa’r Cabinet, 10 Stryd Downing, y blaid a’r Arglwydd Brownlow, rhwng 9 a 23 Mawrth 2021:
- talodd y cyflenwr £112,549.12 i’r Arglwydd Brownlow, a dychwelodd yr Arglwydd Brownlow £52,801.72 i’r cyflenwr
- talodd y cyflenwr £52,801.72 i Swyddfa’r Cabinet, sef y swm a dalwyd gan Swyddfa’r Cabinet i’r cyflenwr yn wreiddiol
- talodd Swyddfa’r Cabinet £52,801.72 i’r blaid, sef y swm a dalodd y blaid i Swyddfa’r Cabinet yn wreiddiol.
- talodd y blaid £52,801.72 i Huntswood Associates
Yr effaith net oedd bod yr Arglwydd Brownlow, Huntswood Associates, Swyddfa’r Cabinet a’r blaid wedi cael eu had-dalu.
Mae unrhyw daliadau rhwng y Prif Weinidog a’r cyflenwr y tu allan i gwmpas ein hymchwiliad.
Ein canfyddiadau
Dyfarniad sy’n ymwneud â’r ffaith bod taliad o £52,801.72 yn rhodd
Mae’r Comisiwn yn fodlon bod swm llawn y rhodd o £67,801.72 gan Huntswood Associates i’r blaid ar 19 Hydref 2020 yn cyfrif fel rhodd o dan y gyfraith etholiadol.
Yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), diffinnir rhodd fel “unrhyw rhodd i’r blaid sy’n arian neu’n eiddo arall”. Mae ‘Rhodd’ yn golygu ei ystyr cyffredin; bod y rhoi yn wirfoddol, heb gael unrhyw beth o werth yn gyfnewid amdano, ac heb unrhyw amodau gorfodadwy wedi’u hatodi. Mae’r taliad o £52,801.72 a wnaed i’r blaid gan Huntswood Associates yn bodloni’r diffiniad hwn.
Mae’r dystiolaeth yn cynnwys sawl achos lle, ar y pryd, disgrifiodd yr Arglwydd Brownlow, fel Cyfarwyddwr Huntswood Associates, y taliad fel rhodd. Roedd y taliad yn ad-dalu’r blaid am arian a dalodd i Swyddfa’r Cabinet. Nododd yn benodol mai diben y rhodd oedd sicrhau na fyddai gan Ymddiriedolaeth Stryd Downing (pan fyddai wedi’i chreu) ddyled i’w setlo i’r blaid. Gwnaed y taliad yn wirfoddol, heb gael unrhyw beth o werth yn gyfnewid amdano, ac heb unrhyw amodau wedi’u hatodi. Rhodd ydoedd.
Dywedodd y blaid fod y trafodyn yn ad-daliad gan Huntswood Associates, a oedd yn dilyn ymlaen o drefniant lle roedd y blaid wedi benthyg £52,801.72 i’r Ymddiriedolaeth Stryd Downing oedd heb ei ffurfio eto, drwy daliad o’r swm hwnnw i Swyddfa’r Cabinet. Felly, ystyriodd y Comisiwn p’un a wnaed y taliad hwn o ran benthyciad neu drefniant tebyg arall.
Mae’r Comisiwn yn fodlon na fu benthyciad i’r ymddiriedolaeth arfaethedig. Yn gyfreithiol, mae benthyciad ond yn bodoli pan fod benthyciwr a pherson arall sy’n cytuno i fenthyg arian. Yn yr achos hwn, nid oedd perthynas o’r fath. Nid oedd yr ymddiriedolaeth yn bodoli fel endid cyfreithiol ac ni allai gytuno i fenthyg arian, ac nid oedd cytundeb benthyg. Ar ben hynny, beth bynnag oedd y trefniant yr oedd y blaid yn ystyried ei fod yn bodoli, nid oedd yn cynnwys Huntswood Associates. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Huntswood Associates wedi cael unrhyw beth o werth yn gyfnewid am eu taliad i’r blaid. Felly, mae’r Comisiwn wedi dod i’r casgliad mai’r taliad o £52,801.72 oedd y taliad gwirfoddol i’r blaid, gan Huntswood Associates, o’r swm a dalwyd yn flaenorol gan y blaid i Swyddfa’r Cabinet.
Mae’r Comisiwn yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y taliad gan Huntswood Associates yn rhodd o arian, o fewn y diffiniad o rodd a nodir yn PPERA.
Dyfarniad sy’n ymwneud ag adrodd ar y rhodd yn anghywir
Mae’r Comisiwn yn fodlon bod trysorydd cofrestredig y blaid wedi methu ag adrodd, heb esgus rhesymol, swm llawn y rhodd o £67,801.72 gan Huntswood Associates ar 19 Hydref 2020.
O dan adran 65(4) o’r PPERA, mae trysorydd plaid gofrestredig yn cyflawni trosedd os bydd, heb esgus rhesymol, yn cyflwyno adroddiad rhoddion i’r Comisiwn nad yw’n cydymffurfio ag unrhyw un o ofynion PPERA o ran cofnodi rhoddion mewn adroddiad tebyg.
Ar gyfer rhoddion o arian gan gwmni, mae’n rhaid i’r adroddiad roi enw a chyfeiriad cofrestredig y cwmni, swm y rhodd a’r dyddiad y cafodd ei dderbyn.
Cafodd y £67,801.72 gan Huntswood Associates ei dderbyn gan y blaid fel un taliad sengl. Ond wrth iddo gael ei brosesu gan y blaid cafodd ei wahanu: cafodd £15,000 ei drin yn rhodd, a chafodd y £52,801.72 oedd yn weddill ei drin fel pe bai ddim yn rhodd. Ni chafodd ei adrodd fel sy’n ofynnol gan y gyfraith ac felly aeth y Comisiwn ati i ystyried p’un a oedd tystiolaeth o esgus resymol am yr hepgoriad hwn.
Mr Mabbutt, fel trysorydd cofrestredig y blaid, sy’n gyfrifol am roi gwybod am roddion fel rhan o’i ddyletswyddau cyfreithiol o dan PPERA. Felly, ei gyfrifoldeb ef yw sicrhau bod gwiriadau digonol yn cael eu gwneud ar unrhyw daliadau i’r blaid fel y gellir nodi pob rhodd adroddadwy. Mae Mr Mabbutt wedi nodi tro ar ôl tro nad oedd ar y pryd yn gwybod am y taliad i Swyddfa’r Cabinet ar 6 Awst 2020, na’r £52,801.72 o’r rhodd a gafwyd ar 19 Hydref 2020. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi hyn.
Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn fodlon bod diffyg ymwybyddiaeth Mr Mabbutt wedi codi oherwydd bod gan y blaid systemau anaddas, a gan fod y systemau hynny o fewn ei reolaeth ac yn ffurfio rhan o’i ddyletswydd fel trysorydd, nid yw hyn yn gyfystyr ag esgus resymol.
Mae’r baich ar y rheiny sy’n gyfrifol o dan PPERA i roi ar waith systemau addas sy’n ddigon gwydn, a chynnal rheolaeth a throsolwg fel bod y systemau hynny’n ddigonol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfundrefn. Y trysorydd cofrestredig sy’n gyfrifol am y system a’r camau a gymerwyd yn ei enw. Bydd mecaneg y systemau’n amrywio, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod ariannol y blaid dan sylw, ond rhaid iddynt fod yn effeithiol. Ar gyfer plaid mawr gydag isadeiledd mewnol cymhleth a symiau sylweddol o arian yn mynd mewn i’w chyfrifon, mae’n rhaid i’r systemau hyn fod yn ddigon gwydn i sicrhau cydymffurfiaeth yn y cyd-destun hwnnw.
Felly, er mwyn cydymffurfio â’i rwymedigaethau PPERA, mae’n rhaid fod gan Mr Mabbutt systemau ar waith sy’n ei alluogi i sicrhau bod unrhyw symiau o arian a dderbynnir gan y blaid yn rhoddion adroddadwy yn unol â’r gyfraith. Mae’n rhaid i’r system honno fod yn gymesur ac yn addas i’w blaid.
Y dystiolaeth yn yr achos hwn oedd nad oedd gan staff cyllid ac staff codi arian y blaid yr wybodaeth angenrheidiol i adnabod y byddai angen adrodd ar y taliad llawn gan Huntswood Associates o dan PPERA. Ni wnaethant ychwaith ofyn am gyngor gan eraill a fyddai gyda’r wybodaeth honno, megis staff cydymffurfiaeth.
Cafodd uwch aelod o dîm cydymffurfiaeth y blaid ei gopïo i mewn i’r e-bost dyddiedig 19 Hydref 2020, lle cyfeiriwyd at y taliad o £67,801.72 fel bod yn rhan o rodd yn unig. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y tîm cydymffurfiaeth wedi cymryd unrhyw gamau pan roddwyd y rhodd i ymholi pam mai dim ond rhan o’r taliad oedd yn cael ei drin fel rhodd. Pan wnaeth aelod is o adran y trysorydd ymholi’n hwyrach ar gyfer beth oedd y swm oedd weddill, derbyniodd, heb ymholi ymhellach, yr ateb a gafodd gan aelod uwch o’r staff codi arian, sef “rhywbeth arall”. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod rôl yr uwch aelod o staff yn y maes codi arian, ac nid yn y maes o sicrhau cydymffurfiaeth â’r PPERA.
Gwnaeth y systemau cydymffurfiaeth oedd ar waith gan y trysorydd cofrestredig fethu â sicrhau’r gwiriadau angenrheidiol. Mae’r ffaith bod yr Arglwydd Brownlow wedi datgan yn glir ei farn ei fod yn rhoi rhodd yn reswm pellach pam y dylai pryderon fod wedi codi yn y achos penodol hwn.
Rhoddodd Mr Mabbutt wybod i ni ei fod wedi cysylltu â’r Comisiwn am gyngor cyn gynted ag y daeth yn ymwybodol am y sefyllfa ym mis Mawrth 2021, ac mae’r dystiolaeth yn cefnogi hyn. Erbyn pryd hynny, fodd bynnag, roedd unrhyw gais am gyngor yn rhy hwyr i gynorthwyo’r blaid wrth benderfynu a oedd angen iddi adrodd rhodd - roedd y rhodd wedi’i dderbyn ac roedd y dyddiad cau perthnasol ar gyfer adrodd wedi mynd heibio.
O ganlyniad, mae’r Comisiwn wedi dyfarnu nad oedd esgus resymol dros fethiant Mr Mabbutt i adrodd y rhodd hwn.
Methodd Mr Mabbutt ag adrodd yn gywir gwerth llawn y rhodd o £67,801.72 a gafwyd gan Huntswood Associates ar 19 Hydref 2020, ac nid oedd unrhyw esgus resymol am y methiant hwn. Felly, mae’r Comisiwn yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod Mr Mabbutt wedi cyflawni trosedd o dan adran 65(4) o’r PPERA.
Dyfarniad sy’n ymwneud ag anfonebau eraill
Mae’r Comisiwn yn fodlon nad oedd taliadau’r anfonebau eraill oedd yn ymwneud â’r gwaith adnewyddu yn rhoddion adroddadwy o dan PPERA, ac ni ddaethom o hyd i droseddau mewn perthynas â’r taliadau hynny.
Gwnaed tri taliad pellach yn uniongyrchol i’r cyflenwr gan yr Arglwydd Brownlow tuag at gostau’r gwaith adnewyddu yn 11 Stryd Downing. Mae arian sy’n cael ei wario wrth dalu treuliau a achoswyd gan blaid yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn cael ei ddosbarthu’n rhodd o dan PPERA. Gwnaethom ystyried p’un a oedd y taliadau hyn yn cwrdd â chostau a achoswyd gan y blaid.
Roedd y taliad o £12,967.20 ar 19 Hydref 2020 ar gyfer balans anfoneb gynharach, a gwnaed y taliad hwn gan yr Arglwydd Brownlow i’r cyflenwr. Nid oedd y dystiolaeth yn cefnogi’r casgliad bod y blaid wedi cytuno i dalu’r anfoneb hon. O ran y taliadau o £33,484.80 ar 18 Rhagfyr 2020 a £13,295.40 ar 12 Chwefror 2021, roedd yr Arglwydd Brownlow wedi gwneud hi’n glir yn flaenorol y dylid cael ei awdurdodiad cyn i unrhyw gostau pellach gael eu hachosi. Ceisiwyd a rhoddwyd ei awdurdodiad, ac fe dalodd yr anfonebau. Nid oes tystiolaeth o unrhyw gytundeb bod y treuliau hyn wedi’u hachosi gan y blaid, nac y byddent yn cael eu talu gan y blaid.
Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi casgliad bod unrhyw un o’r tri taliad pellach hynny a wnaed gan yr Arglwydd Brownlow wedi cwrdd â’r costau a achoswyd gan y blaid.
Dyfarniad sy’n ymwneud â chofnodi trafodion
Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y blaid wedi methu â chadw cofnodion ariannol cywir mewn perthynas â’r taliad o £52,801.72 a wnaeth i Swyddfa’r Cabinet.
Mae Adran 41(1) o’r PPERA yn nodi’r gofyniad bod yn rhaid i’r trysorydd cofrestredig sicrhau bod cofnodion cyfrifyddu’n cael eu cadw o ran y blaid sy’n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y blaid. Mae’n rhaid i’r cofnodion cyfrifyddu hynny ddangos, gyda chywirdeb resymol, sefyllfa ariannol y blaid ar yr adeg honno. Yn arbennig, mae’n rhaid i’r cofnodion gynnwys cofnodiadau sy’n dangos, o ddydd i ddydd, yr holl symiau o arian a gafwyd ac a wariwyd gan y blaid, y materion lle mae’r dderbynneb a’r gwariant yn digwydd, a chofnod o asedion a rhwymedigaethau.
Nid oes trosedd yn gysylltiedig gyda methu â chydymffurfio gyda’r gofyniad hwn, ond gall y Comisiwn roi cosb am beidio â chydymffurfio.
Cafodd y taliad o £52,801.72 a wnaed i Swyddfa’r Cabinet ar 6 Awst 2020 ei gofnodi yng nghofnodion mewnol amrywiol y blaid fel “benthyciad ymddiriedolaeth dall”.
Rydym yn fodlon nad oedd y taliad i Swyddfa’r Cabinet yn fenthyciad ymddiriedolaeth dall, nad oedd gan y blaid hawl cyfreithiol i gael ad-daliad o’r swm, a bod sut y cofnodwyd hyn gan y blaid yn ei hanfod yn anghywir.
Mae cofnodion cyfrifyddu mewnol yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod y blaid yn gallu cydymffurfio’n llawn â gofynion statudol eraill. Mae hyn yn enwedig yn wir ar gyfer plaid sydd â swmp sylweddol o drafodion ariannol.
Nid oedd y cyfeiriadau at y trafodyn hwn fel “benthyciad ymddiriedolaeth ddall” yn adlewyrchu’r amgylchiadau’n gywir. O ganlyniad, roed cofnodion y blaid yn nodi y byddai’n cael ei had-dalu pan nad oedd ganddi sicrwydd o hynny, ac felly gwnaeth gamgyfleu ei sefyllfa ariannol.
Felly, rydym yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y blaid wedi methu â chadw cofnodion cywir yn unol â gofynion adran 41(1) o ran y taliad o £52,801.72 i Swyddfa’r Cabinet ar 6 Awst 2020.
Ni wnaethom nodi unrhyw drafodion pellach a gofnodwyd yn anghywir ymhlith y rheiny yn y dystiolaeth y gwnaethom eu hystyried.
Cosbau
Ar gyfer adrodd yn anghywir y rhodd o £67,801.72, mae’r Comisiwn wedi gosod cosb o £16,250. Am fethu â chadw cofnodion ariannol cywir, gwnaeth y Comisiwn roi cosb o £1,550.
Cyn y dyfarniad olaf o’r drosedd a’r tor-cyfraith a chyn i lefel y cosbau gael ei gosod, roedd cyfle gan y blaid i roi sylwadau ynghylch canfyddiadau dros dro a chosb arfaethedig y Comisiwn. Gwnaethom ystyried yn ofalus y sylwadau hyn, ac mae’r ystyriaeth honno wedi’i hadlewyrchu yn y canfyddiadau uchod. Nododd y Comisiwn hefyd bod y blaid wedi cydnabod rhai methiannau yn ei systemau, a’i bod wedi cynnig ychydig o newidiadau i’r systemau hynny. Rydym wedi cynnig gweithio gyda’r blaid i gefnogi gwelliannau.
Mae’r cosbau a osodwyd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Nododd y Comisiwn yn arbennig bod tryloywder yng nghyllid gwleidyddol yn dibynnu ar gofnodi ac adrodd ar roddion gan bleidiau gwleidyddol yn gywir. Mae gallu pleidleiswyr i ddeall sut y caiff pleidiau eu cyllido yn dibynnu ar hyn hefyd. Yn yr achos hwn, cynhaliodd y blaid ei materion ariannol mewn modd sy’n dangos diffyg parch am y gyfraith y mae’n rhaid i’r gyfraith gydymffurfio â hi.
Mae gan y Comisiwn ddisgwyliadau rhesymol y bydd pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn cydweithredu’n agored ac yn effeithio gyda’r Comisiwn i sicrhau bod tryloywder yng nghyllid gwleidyddol. Fodd bynnag, ar adegau amrywiol cyn yr ymchwiliad wrth gyfathrebu’r sefyllfa i’r Comisiwn, disgrifiodd y blaid y taliad fel benthyciad, trafodyn masnachol a threfniant asiantaeth. Yn yr un modd, ar adegau amrywiol nodwyd bod y taliad yn dod gan naill ai’r Arglwydd Brownlow neu Huntswood Associates, ac nid ydynt yr un endid.
Yn ogystal, gwnaeth y blaid ddatganiadau i’r Comisiwn nad oeddent yn cefnogi’r dystiolaeth a gafwyd yn hwyrach. Dywedwyd bod cytundeb ysgrifenedig rhwng Huntswood Associates, y blaid a Swyddfa’r Cabinet, y byddai anfoneb Swyddfa’r Cabinet yn cael ei thalu gan Huntswood Associates, ac y byddai tîm cyllid y blaid yn hwyluso trosglwyddiad o gyllid o Huntswood Associates i Swyddfa’r Cabinet.
Yn olaf, nid dyma’r tro cyntaf i’r blaid fethu â chyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol cywir. Rhoddwyd dwy gosb i’r blaid yn flaenorol yn 2019 a 2020 am fethiannau gan Mr Mabbutt i adrodd ar roddion, ac mae yna fethiannau blaenorol wedi bod. Mae yna berygl y bydd diffyg cydymffurfio ailadroddus tebyg yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn cyllid gwleidyddol.